Ewch i’r prif gynnwys

Welsh pupils alongside Chinese classmates

10 Gorffennaf 2012

Welsh-Chinese

Mae disgyblion ysgolion cynradd o Gaerdydd wedi bod yn eistedd wrth cyd-ddisgyblion newydd mewn ysgol yn Chongqing er mwyn cael gwersi mewn iaith a diwylliant Tsieina, drwy garedigrwydd Sefydliad Confucius y Brifysgol.

Trefnwyd y daith i Tsieina ar gyfer y disgyblion o Gaerdydd fel rhan o'r Prosiect Ysgolion Cymru a Tsieina, a gynhelir gan Sefydliad Confucius. Teithiodd 15 o gyfranogwyr i Tsieina, gan gynnwys plant o Ysgol Gynradd Lansdowne ac o'r Ysgol Gymraeg gyfagos, Ysgol Pencae.

Mae prosiect Sefydliad Confucius wedi bod yn datblygu rhaglenni ar iaith a diwylliant Tsieina mewn ysgolion ledled Cymru ers y pum mlynedd diwethaf. Mae Ysgol Gynradd Lansdowne wedi bod yn arwain y ffordd yn hyn o beth, trwy sefydlu dosbarthiadau ychwanegol bob wythnos. Yr ysgol honno oedd yr un gyntaf yng Nghymru i gyflwyno plant ar gyfer y prawf swyddogol ar Hyfedredd yn yr Iaith Dsieinëeg ar gyfer pobl ifanc yn 2011. Roedd rhai o'r disgyblion llwyddiannus ymysg y rhai a aeth ar y daith Trochi 12 diwrnod i Tsieina.

Roedd y daith yn cynnwysw saith niwrnod yn Xiamen (sydd wedi'i gefeillio â Chaerdydd) a lle y cymerodd y plant ran mewn cwrs trochi dwys a gynhaliwyd yng Ngholeg Tramor Prifysgol Xiamen. Dilynwyd hyn gan wibdaith bum niwrnod i Chongqing lle y cymerodd y plant ran mewn dosbarthiadau yn Ysgol Elfennol Zhong Silo.

Meddai pennaeth Ysgol Lansdowne, Richard Edwards, a aeth ar yr ymweliad: "Bu hwn yn gyfle gwych ar gyfer y plant i gyd. Mae dysgu Tsieinëeg yn Ysgol Lansdowne wedi bod yn brofiad arbennig i bawb a gymerodd ran ac mae'r daith drochiwedi galluogi'r plant i gael dealltwriaeth werthfawr o lawer o wahanol agweddau ar Tsieina. Mae hefyd wedi gwella ein cysylltiad hirsefydlog ag Ysgol Elfennol Zhong Silo."

Roedd disgyblion o Ysgol Pencae eisoes wedi cwblhau cwrs Ymwybyddiaeth o Ddiwylliant Tsieina ym Mhrifysgol Caerdydd yn 2011 ac maent yn cynnal wythnosau ynglŷn â Tsieina yn yr ysgol yn gyson. Meddai'r pennaeth, Richard Thomas: "Roedd y daith hon yn gyfle pwysig i'n plant a'n hysgol. Gwnaethom lwyddo i sefydlu cysylltiadau newydd gydag ysgolion lleol yn Tsieina ac yn gobeithio eu datblygu yn ystod y blynyddoedd i ddod. Bu hwn yn gyfle pwysig ar gyfer archwilio sut y gellir dysgu am iaith a diwylliant Tsieina ochr yn ochr â chyd-destun cyfrwng Cymraeg."

Arweiniwyd y daith gan Reolwr Sefydliad Confucius Caerdydd, Scott Andrews ac mae'n gobeithio y bydd yn gosod patrwm ar gyfer llawer o deithiau i Tsieina yn y dyfodol ar gyfer ysgolion. Meddai: "Bu'r daith hon yn uchafbwynt i bron pum mlynedd o ymrwymiad i ddysgu'r iaith Dsieinëeg ledled Cymru a bu'n bosibl oherwydd cymorth Cyngor Prydeinig Cymru a Cilt Cymru. Mae wedi dangos arwyddocâd dysgu trwy drochi fel rhan o'r ymrwymiad cyffredinol i ddysgu iaith ar gyfer plant yng Nghymru, ac edrychaf ymlaen at weld rhagor o deithiau trochi'n datblygu trwy'r prosiect Ysgolion Cymru a Tsieina yn y dyfodol."

Cyflwynir mwy na 350 o gyrsiau Tsieinëeg mewn ysgolion ledled Cymru bob blwyddyn, a gefnogir gan ddau Sefydliad Confucius a phump o ystafelloedd dosbarth Confucius.

Rhannu’r stori hon