Amodau gwarthus y diwydiant llongau’n cael eu datgelu
23 Awst 2012
Mae fersiwn wedi'i diweddaru o waith clasurol Coleridge, The Rime of the Ancient Mariner, yn amlygu hyfforddiant gwael, criwiau rhy fach, oriau hir a blinder yn y diwydiant llongau rhyngwladol modern.
Ysgrifennwyd The Rime of the Globalised Mariner gan yr Athro Michael Bloor o Ganolfan Ymchwil Ryngwladol y Morwyr ar ôl treulio'i yrfa'n astudio'r gweithlu morol. Mae'r Athro Bloor wedi teithio i Ynysoedd y Philipinau, Indonesia, Singapôr, India, Twrci a sawl gwlad arall, yn holi morwyr, arolygwyr a gweithredwyr llongau, a hyd yn oed treulio mis ar fwrdd tancer mawr. Bellach, mae wedi cymryd y cam anarferol o gyhoeddi ei ymchwil ar ffurf cerdd yn y gobaith o godi ymwybyddiaeth y cyhoedd o'r amodau ofnadwy a wynebir gan forwyr.
Yng ngherdd yr Athro Bloor, mae'r Morwr Hynafol wedi'i ddisodli gan y Morwr Byd-eang, sef Ffilipino sydd wedi'i orfodi i fod yn forwr o ganlyniad i dlodi ei deulu. Mae'r Morwr yn egluro wrth Ddefnyddiwr, sy'n disodli Gwestai Priodas Coleridge, sut yn union y mae nwyddau'n cael eu cludo i'w ganolfan siopa leol.
Mae'r Morwr yn sôn am sut y talodd ei deulu am ei le mewn coleg hyfforddi morwyr heb unrhyw offer na threulio amser ar y môr. Mae asiantau criwio diegwyddor a gwleidyddion lleol i gyd yn elwa ar y sgam hyfforddi:
They issued my certificates,
But their paper had a price:
My father's hard-earned money
Stolen once, then twice
Mae'r Morwr wedyn yn mynd ati i egluro pam mae cynifer o longau'n hwylio o dan y 'baneri hwylustod' gwaradwyddus lle ceir safonau llac o ran cydymffurfio. Roedd ei long ddiwethaf wedi'i chofrestru ym Mongolia - er bod y wlad honno 850 o filltiroedd o'r môr. Mae Arolygwr llongau diobaith sydd wedi ymuno yn y sgwrs yn ychwanegu:
The flag with the greatest tonnage
Flies o'er the Panama Isthmus,
When Panama votes for change,
Then turkeys'll vote for Christmas
Mae'r Morwr yn sôn am y criwiau bychain a'r oriau hir ar fyrddau llongau. Yn aml, y capten a'r is-gapten yw'r unig rai sydd ar wyliadwriaeth, ac mae'r naill fel y llall yn gweithio deuddeg awr y dydd. Clywn hefyd gan Gorws o weithredwyr llongau o Wlad Groeg sy'n honni mai'r cyfan y maent yn ei wneud yw ymateb i gystadleuaeth ffyrnig.
Pay for training? Better wages??
Remember shipping's quite anarchic:
We'd love to be more generous
But you cannot buck the market
Mae'r gerdd newydd gael ei chyhoeddi yn y cyfnodolyn academaiddSociology. Eglurodd yr Athro Bloor: "Mae'r diwydiant llongau'n cyflogi tua miliwn o bobl ar draws y byd, ond maent yn grŵp sydd wedi mynd yn angof i raddau helaeth. Mae hyfforddiant gwael, safonau diogelwch gwael ac oriau hir yn golygu eu bod mewn perygl difrifol ar y môr. Rydw i wedi bod yn tynnu sylw at y materion hyn mewn erthyglau academaidd traddodiadol ers blynyddoedd ac mae'r diffyg newid wedi achosi rhwystredigaeth i mi. Rwy'n gobeithio y gallaf gael mwy o effaith drwy godi'r pwyntiau hyn mewn barddoniaeth yn hytrach na rhyddiaith gymdeithasegol."
Daw'r gerdd i ben drwy annog defnyddwyr i roi mwy o bwysau ar weithredwyr llongau i wella safonau gwaith.
So come all you kind consumers,
Who the honey'd wine have sipped,
Take pity on the mariner
Beware how your goods are shipped.
Meddai'r Athro Bloor: "Mae pwysau gan y cyhoedd eisoes wedi gwella safonau o safbwynt effaith llongau ar yr amgylchedd, yn enwedig yn y diwydiant olew. Erbyn hyn, mae angen i ddefnyddwyr roi pwysau ar siartrwyr i wthio gweithredwyr llongau i wella cyflogau, cynyddu'r niferoedd sy'n gweithio ar fyrddau llongau a chwtogi oriau gwaith criwiau. Gallai hyn fod yn effeithio ar lawer mwy o bobl – y diwydiant llongau oedd un o'r rhai cyntaf i fynd yn fyd-eang ac mae'n eithaf posibl y gallai diwydiannau a chyflogwyr eraill ddilyn yr un llwybr."