Ewch i’r prif gynnwys

Triniaeth lewcemia well

12 Tachwedd 2012

Professor Alan Burnett
Professor Alan Burnett, School of Medicine

Mae lewcemia myeloid aciwt (AML) yn cyfrif am oddeutu traean o bob diagnosis o lewcemia yn y DU.

Mae astudiaeth newydd wedi canfod bod cleifion lewcemia myeloid aciwt (AML) sy'n cael math newydd o 'gyffur sy'n gallu gwahaniaethu rhwng celloedd iach a chelloedd canser' yn ogystal â thriniaeth cemotherapi, 22% yn llai tebygol o gael pwl arall, ac oddeutu 13% yn llai tebygol o farw o'r clefyd. Dyma ganlyniadau cam III treial mawr a ariannwyd gan Cancer Research UK, dan arweiniad Prifysgol Caerdydd.

O'r 1,115 o gleifion a gymerodd ran yn y treial, cafodd 68% o'r rhai a oedd ar y driniaeth newydd bwl arall o fewn tair blynedd, o'i gymharu â 76% o'r rheiny a gafodd y driniaeth safonol. Roedd 25% ohonynt yn dal i fod yn fyw ar ôl tair blynedd, o'i gymharu â 20% o'r rheiny a gafodd y driniaeth safonol.

Mae'r cyffur - o'r enw Gemtuzumab Ozogamicin (GO) – yn rhan o ddosbarth newydd o gyffuriau 'cyfunol gwrthgorff', sy'n glynu moleciwlau cemotherapi at wrthgyrff sydd wedi'u cynllunio'n benodol i adnabod proteinau ar arwyneb celloedd canser, a thrwy hynny, targedu'r canser a gadael y celloedd iach heb eu niweidio.

Mae canlyniadau'r treial yn dangos y gallai ychwanegu GO at y driniaeth wella effeithiolrwydd cemotherapi heb gynyddu'r sgil effeithiau'n ormodol, a darparu llinell fywyd bosibl i gleifion AML hŷn sy'n rhy fregus yn aml i oddef mwy o driniaethau cemotherapi dwys.

Cyhoeddwyd y canlyniadau yn y Journal of Clinical Oncology.

Dywedodd y prif ymchwilydd, yr Athro Alan Burnett, yr Ysgol Feddygaeth: "Mae'r canlyniadau addawol hyn yn arddangos sut y gall targedu protein sy'n bresennol mewn mwy na 90% o gleifion AML hybu triniaeth heb gynyddu sgil effeithiau'n ormodol.

"Er bod ychydig o ddadlau wedi bod ynglŷn â defnyddio GO ar ôl iddo gael ei dynnu'n ôl o'r UD ddwy flynedd yn ôl, mae'r canlyniadau hyn yn ymddangos yn hynod addawol ac yn awgrymu nad oes unrhyw achos i bryderu os rhoddir y dos priodol. Yn hanfodol, mae'n cynrychioli'r cynnydd cyntaf o ran trin cleifion AML o'r grŵp oedran hwn ers o leiaf 20 mlynedd."

Recriwtiwyd cyfranogwyr y treial mewn 149 o ysbytai ledled y DU a Denmarc. Roedd yr holl gleifion wedi cael diagnosis diweddar o naill ai AML neu syndrom myelodysplastic risg uchel, a all ddatblygu i fod yn AML, ac roedd y mwyafrif ohonynt yn hŷn na 60 oed. Neilltuwyd pob claf ar hap i dderbyn un o ddwy driniaeth cemotherapi safonol, naill ai gyda GO neu hebddo.

Dywedodd Kate Law, cyfarwyddwr ymchwil clinigol Cancer Research UK: "Yn gyffredinol, mae'r rhagolwg ar gyfer cleifion lewcemia wedi gwella'n ddramatig yn y degawdau diweddar. Ond pan mae pobl hŷn yn cael diagnosis o lewcemia, mae'n anoddach ei drin, ac mae angen gwirioneddol am driniaethau effeithiol sy'n addas ar gyfer y grŵp oedran hwn.

"Yn bwysig, mae'r treial newydd hwn yn dangos y gall fod gan GO fuddion penodol i gleifion dros 60 oed, a all fod yn anaddas ar gyfer triniaethau eraill mwy dwys. Mae hyn yn newyddion da ac rydym nawr yn edrych i gael gweld a ellir ailadrodd y canlyniadau hyn mewn cleifion iau."

Rhannu’r stori hon