Diffyg ofn mewn troseddwyr ifainc
12 Tachwedd 2012
Mae gan droseddwyr ifainc nam ar ddysgu emosiynol ac mae'n annhebygol y bydd camau i'w cosbi i reoli eu hymddygiad yn effeithiol, yn ôl ymchwil gan dîm o'r Brifysgol.
Dan arweiniad yr Athro Stephanie van Goozen o'r Ysgol Seicoleg a Dr Simon Moore o'r Ysgol Ddeintyddiaeth, nod y tîm oedd darganfod a oedd cysylltiad rhwng diffyg ofn a throseddu gan bobl ifanc, ac a oedd cysylltiad rhwng cyfraddau troseddu a difrifoldeb y nam hwn ar ddysgu emosiynol.
"Dywedwyd bod diffyg bod ag ofn yn tueddu i fod yn ffactor o ran troseddu," meddai'r Athro van Goozen.
"Mae unigolion sydd heb ofn yn llai tebygol o osgoi ymddygiad gwrthgymdeithasol a throseddol sy'n gysylltiedig â chosb yn ddiweddarach. Roeddem am asesu a yw hyn yn wir yn achos troseddwyr ifainc," ychwanegodd.
Bu'r tîm yn mesur ymatebion i symbyliadau mewn 45 o droseddwyr ifainc rhwng 12 a 18 oed. Canfuwyd bod gan droseddwyr ifainc broblemau o ran dysgu ymateb ag ofn i symbyliadau a oedd yn rhagweld digwyddiadau annymunol.
Dywedodd yr Athro van Goozen: "Mae ein canfyddiadau yn ategu'r syniad fod gan lanciau sy'n troseddu ddiffygion yn y cyfundrefnau niwral sy'n gysylltiedig â dysgu emosiynol. Mae hyn yn tanlinellu'r angen i ystyried gwahaniaethau rhwng troseddwyr unigol wrth sefydlu rhaglenni i fynd i'r afael â phroblemau ymddygiad.
"Ni fydd effeithiau diffyg ofn yn dod i'r amlwg ond yn ddiweddarach ym mywydau troseddwyr ifainc, sy'n gwneud synnwyr oherwydd yn ddiweddarach hefyd y daw'r cosbau yn amlwg. Dim ond pobl dros 15 oed sy'n cael dedfrydau o garchar, er enghraifft.
"O ran y berthynas rhwng diffyg bod ag ofn a chyfraddau troseddu, mae ein canlyniadau'n dangos fod troseddwyr ifainc a oedd yn gallu dysgu ymateb i ofn yn troseddu'n llai aml na throseddwyr nad oedd yn arddangos y math hwn o ddysgu. Mae gan y canfyddiadau hyn oblygiadau amlwg i'n dealltwriaeth o ddilyniant ymddygiad gwrthgymdeithasol a throseddol: unigolion sy'n arafach yn dysgu'r berthynas rhwng digwyddiadau a chanlyniadau negyddol yw'r rhai sy'n ymwneud â chyflawni mwy o droseddau.
"Mae troseddwyr ifainc cyson yn gyfrifol am niwed sylweddol yn eu cymunedau. Mae ein canfyddiadau'n cynnig gwell dealltwriaeth o'r prosesau seicolegol sy'n cyfrannu at droseddu cronig a gall y byddant yn helpu wrth lunio ymyraethau wedi'u targedu."
Cyhoeddir y papur, 'Fearlessness in juvenile offenders is associated with offending rate' gan Syngelaki, Fairchild, Moore, Savage & van Goozen yn y cyfnodolyn Developmental Science.