Ewch i’r prif gynnwys

Yr Ysgol yn croesawu Dr Gonçalo Cordeiro o Brifysgol Macau i Gaerdydd

23 Ionawr 2017

Dr Gonçalo Cordeiro o Brifysgol Macau yn ystod ei ymweliad â'r Ysgol Ieithoedd Modern.
Dr Gonçalo Cordeiro o Brifysgol Macau yn ystod ei ymweliad â'r Ysgol Ieithoedd Modern.

Daeth Dr Gonçalo Cordeiro o Brifysgol Caerdydd i ymweld â'r Ysgol Ieithoedd Modern ym mis Rhagfyr. Cafodd ei ymweliad ei ariannu gan raglen Erasmus+ yr Undeb Ewropeaidd, ac mae'n cryfhau cysylltiadau'r Ysgol â Phrifysgol Macau.

Mae Dr Cordeiro'n arbenigo yng ngwaith Miguel Torga, awdur o Bortiwgal, a thraddododd ddarlith ar y stori fer, 'Alma Grande', i fyfyrwyr yn ail flwyddyn eu rhaglen radd ym Mhortiwgaleg. Traddododd ddarlith hefyd i fyfyrwyr yn eu blwyddyn gyntaf am hanes Macau, a oedd yn wladfa Bortiwgalaidd tan 1999, a lle mae Portiwgaleg yn parhau i fod yn un o'r ieithoedd swyddogol. At hynny, cynhaliodd Dr Cordeiro sesiynau trafod unigol â myfyrwyr, cymerodd ran mewn dosbarthiadau iaith, a chafodd gyfle i gwrdd â chydweithwyr yn y Ganolfan Cyfleoedd Byd-eang i drafod mentrau cydweithredol posibl rhwng y rhaglenni Portiwgaleg yng Nghaerdydd ac ym Mhrifysgol Macau.

Roedd ymweliad Dr Cordeiro yn hwb i'r rhaglen Portiwgaleg, a rhoddodd gyfle i fyfyrwyr ddysgu o'i brofiad uniongyrchol o fod mewn rhan arall o'r byd sy'n siarad Portiwgaleg. Mae Erasmus+ hefyd wedi rhoi cefnogaeth i ymweliadau ymchwil hirach i'r Ysgol gan ddau fyfyriwr doethurol o Frasil, Adriano Smaniotto (Prifysgol Curitiba) a Cristiano Reis (Prifysgol Mackenzie).

Dywedodd Dr Rhian Atkin, arweinydd rhaglen Astudiaethau Portiwgaleg a Lusoffon, "Rydym yn cydnabod yn ddiolchgar y bod rhaglen Erasmus+ yr Undeb Ewropeaidd wedi cefnogi ymweliad Dr Cordeiro, ynghyd ag ymweliadau Adriano a Cristiano, ac yn ddiolchgar am y cyfleoedd y mae Erasmus+ yn eu cynnig i staff a myfyrwyr yn y Brifysgol hon a ledled y byd."

"Mae astudio iaith dramor yn agor ein meddwl i'r hyn sy'n debyg a'r hyn sy'n wahanol rhwng cymunedau ledled y byd. Mae pawb wedi dysgu llawer o ymweliad Dr Cordeiro, a'i ddarlithoedd diddorol a thrafodaethau amrywiol â myfyrwyr. Byddwn yn croesawu darlithydd arall fydd yn ymweld drwy Erasmus+ ym mis Chwefror, pan fydd Dr Ana Raquel Fernandes o Brifysgol Lisbon, un o'n partneriaid cyfnewid, yn cynnal dosbarthiadau iaith Portiwgaleg a llenyddiaeth Brasil. Gyda'r ymweliadau hyn a'r cyfraniadau at ein hamgylchedd dysgu gan ein myfyrwyr sy'n ymweld o Frasil, mae rhaglen Erasmus+ yn cynnig cyfleoedd i fyfyrwyr brofi diwylliannau eraill o gwmpas y byd sy'n siarad Portiwgaleg, a hynny cyn iddynt adael Caerdydd ar eu blwyddyn dramor."

Rhannu’r stori hon