Ewch i’r prif gynnwys

Archwilio’r Gorffennol

5 Rhagfyr 2012

Exploring the Past

Mae cynllun unigryw sy'n cynnig cyfle i oedolion sy'n ddysgwyr gael mynediad at addysg uwch wedi helpu saith dysgwr lleol sy'n oedolion, i drawsnewid eu bywydau a symud ymlaen at gynllun gradd.

Mae cynllun Llwybr Archwilio'r Gorffennol wedi ennill sawl gwobr ac yn dathlu ei ail flwyddyn gan sicrhau lleoedd gradd ar gyfer dau oedolyn sy'n ddysgwyr eisoes yn 2010/11.

Mae'n cael ei gynnal ar y cyd gan y Ganolfan ar gyfer Addysg Gydol Oes a'r Ysgol Hanes, Archaeoleg a Chrefydd, ac fe'i ddyluniwyd i roi cyfle i ddysgwyr sy'n oedolion brofi yn uniongyrchol addysgu sy'n cael ei lywio gan ymchwil a symud ymlaen i astudio gradd mewn archaeoleg, hanes neu grefydd.

Joanne Wesley-Williams yw un o'r saith myfyriwr sydd wedi llwyddo i gwblhau Llwybr Archwilio'r Gorffennol drwy Ganolfan Caerdydd ar gyfer Addysg Gydol Oes ac mae bellach wedi dechrau ar radd ym Mhrifysgol Caerdydd.

Fel llawer o ddysgwyr eraill sy'n oedolion, ni wnaeth Joanne ati i astudio mewn addysg uwch ar ôl gadael ysgol. Felly, penderfynodd roi cynnig ar y Llwybr fel ffordd yn ôl at addysg a defnyddiodd hyn fel modd i wella ei bywyd.

Dywedodd Joanne: "Fel mam i dri phlentyn ifanc mae'n bwysig bod yn fodel rôl cadarnhaol, ond o ran addysg nid oedd gennyf unrhyw beth i glochdar amdano ar ôl gadael ysgol 25 mlynedd yn ôl gyda'm arholiadau TGAU yn unig. Rwyf bellach wedi dod o hyd i ffordd i newid hyn ac rwy'n teimlo fy mod mewn sefyllfa llawer gwell i annog fy mhlant i astudio'n galed ar gyfer y dyfodol.

"Mae pob cwrs wedi cynnig gwahanol set o sgiliau i mi, gan ehangu fy ngwybodaeth a hybu fy hyder. Erbyn i mi orffen rhai modiwlau roeddwn yn credu fy mod yn barod i ymestyn fy addysg ac yn awr mae gennyf agwedd hollol newydd at y dyfodol. Rwyf wedi cael cynnig y cyfle i ddychwelyd at astudio ac yn gobeithio dilyn gyrfa newydd yn gwneud rhywbeth rwyf yn hoff iawn ohono."

Mae Llwybr Archwilio'r Gorffennol yn cynnig cyfleoedd go iawn i fyfyrwyr newid eu bywydau ac yn cael ei gydnabod gan Gymdeithas Dysgu Gydol Oes y Prifysgolion – sef y corff cenedlaethol sy'n cynrychioli addysg rhan amser mewn prifysgolion. Derbyniodd y Llwybr wobr gymeradwyaeth uchel gan UALL yn Ebrill 2012.

Mae'r cyrsiau'n cael eu haddysgu gan bobl sydd â gwybodaeth arbenigol am y pwnc yn ogystal â'r gallu i gefnogi ac ysbrydoli dysgwyr sy'n oedolion o fewn amserlen, fframwaith ac amgylchedd hyblyg. Bydd mwy o gyrsiau'n cychwyn ym mis Ionawr 2013.

Rhannu’r stori hon