Profi gofal iechyd byd-eang
5 Rhagfyr 2012
Mae cyfleoedd i fyfyrwyr meddygol Caerdydd gael profiad personol o ofal iechyd mewn gwledydd eraill, yn ogystal â sgiliau a phrofiadau newydd, wedi cael hwb elusennol o £10,000.
Mae Ysgol Feddygaeth y Brifysgol wedi derbyn rhodd elusennol gan The Hospital Saturday Fund i roi hwb i'w rhaglen 'Dewisol'.
"Mae'r rhaglen 'Dewisol' wedi'i hen sefydlu ac yn cynnig cyfle i fyfyrwyr brofi a gweld arferion clinigol a dulliau o ddarparu gofal iechyd yn fyd-eang," meddai'r Athro Paul Morgan, Deon yr Ysgol Feddygaeth.
"Er gwaethaf y diddordeb brwd a fynegir gan ein myfyrwyr yn y rhaglen 'Dewisol', mae costau'n cyfyngu ar nifer y myfyrwyr a gaiff achub ar y cyfle unigryw hwn.
"Rydym yn falch iawn o gael y cyllid ychwanegol hwn gan The Hospital Saturday Fund. Bydd yn rhoi hwb ariannol y mae mawr angen amdano i'n rhaglen 'Dewisol' ac yn caniatáu i hyd yn oed mwy o'n myfyrwyr meddygol, a fydd yn feddygon Cymru yn y dyfodol, gael sgiliau a phrofiadau newydd hollbwysig," ychwanegodd.
Mae'r flwyddyn olaf fel myfyriwr meddygol wedi'i chynllunio i gynyddu hyder a sgiliau cyfathrebu myfyrwyr fel bod ganddynt y sgiliau clinigol angenrheidiol i weithio fel Meddyg Iau.
Yn ogystal â lleoliadau ffurfiol mewn ysbytai ac yn y gymuned, gall myfyrwyr hefyd ddewis ymgymryd â chyfnod 'dewisol' wyth wythnos sy'n cynnig y cyfle i ennill sgiliau newydd a phrofi gwasanaeth iechyd gwlad arall.
Wrth gyflwyno'r dyfarniad, meddai Paul Jackson, Prif Weithredwr The Hospital Saturday Fund: "Mae The Hospital Saturday Fund yn falch iawn o gefnogi'r Ysgol Feddygaeth ym Mhrifysgol Caerdydd.
"Mae'n dda gwybod y bydd ein rhodd yn mynd tuag at hyfforddi meddygon yfory."
Mae'r rhaglen 'Dewisol' eisoes yn nodwedd sefydledig o radd feddygol Caerdydd.
Mae myfyrwyr meddygol Caerdydd sydd wedi cymryd rhan yn y rhaglen yn y gorffennol wedi ymarfer meddygaeth mewn gwledydd sy'n datblygu yn Affrica; archwilio clefydau heintus yn Ne-ddwyrain Asia; a phrofi heriau ymarfer meddygaeth yn y gwyllt yn Awstralia.
Ychwanegodd John Robertson, Cyfarwyddwr Datblygiad a Chysylltiadau Cyn-fyfyrwyr: "Mae'r Brifysgol yn ddiolchgar iawn i'r Hospital Saturday Fund oherwydd rhoddion fel y rhain sy'n gwneud gwir wahaniaeth i brofiad myfyrwyr, gan ddarparu cyfleoedd hyfforddi a datblygu ychwanegol na fyddent wedi bod ar gael fel arfer."