Ewch i’r prif gynnwys

Gwneud y dewis cywir o ran gyrfa

19 Ionawr 2012

Career Choice

Mae ymgynghorwyr gyrfaoedd yng Nghymru a Lloegr yn dechrau cwrs peilot yng Nghaerdydd i helpu i wella cyngor ar gyfer pobl ifanc ym meysydd gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg a mathemateg (STEM).

Wedi'i ariannu gan Raglen Genedlaethol Addysg Uwch STEM yng Nghymru, mae'r cwrs wedi cael ei ddatblygu mewn ymateb i'r angen am fwy o gymorth i bobl sy'n cynghori ar yrfaoedd mewn ysgolion a cholegau. Yn dilyn ysgydwad diweddar i gyngor ar yrfaoedd lefel ysgol yn Lloegr, mae gofyn i ysgolion erbyn hyn ddatblygu eu systemau eu hunain i gyflwyno cyngor diduedd ar yrfaoedd.

Bydd 18 ymgynghorydd gyrfaoedd a 6 athro yn cymryd rhan yn y cwrs, sy'n cynnwys astudio ar-lein dan arweiniad, a bydd yn cael ei gynnal yng Ngwasanaeth Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd y Brifysgol. Mae'r cynnwys wedi cael ei ddatblygu gan Brifysgol Warwick tra bod Prifysgol Sheffield Hallam a Babcock Careers Management wedi cynllunio tasgau asesu ar gyfer modiwlau.

Mae partneriaid eraill, ynghyd â Gwasanaeth Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd Caerdydd, yn cynnwys Cesagen - canolfan ymchwil ar y cyd rhwng prifysgolion Caerdydd a Lancaster, Sefydliad Gwyddorau Cyfrifiadurol a Mathemategol Cymru (WIMCS), Sefydliad Mathemateg a'i Gymwysiadau (IMA) a Chanolfan Genedlaethol STEM.

Wrth siarad am y cwrs, dywedodd Alison Braddock, o WIMCS a Chyfarwyddwr Rhaglen Genedlaethol Addysg Uwch STEM Cymru: ''Mae'n ymddangos bod cytundeb eang nad yw'r cyngor ar yrfaoedd STEM ar gyfer pobl ifanc ynglŷn â'r gyrfaoedd sydd ar gael i'r rheiny sy'n astudio pynciau STEM a'r cyfuniad priodol o bynciau i'w cymryd yn yr ysgol a choleg, mor effeithiol ag sydd angen iddo fod. Wrth weithio gyda Chanolfan Genedlaethol STEM a phartneriaid eraill, mae'r cwrs peilot hwn hefyd yn darparu cyfle i ddatblygu modiwl achrededig lefel meistr sy'n agored i'r rheiny sy'n cynghori pobl ifanc yn y DU."

Dywedodd Julie Hepburn, Dirprwy Gyfarwyddwr Gwasanaeth Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd Prifysgol Caerdydd: "Mae'n hanfodol bwysig bod myfyrwyr sy'n ystyried astudio pynciau STEM ar lefel gradd yn hysbys ynglŷn â'r dewisiadau posibl o ran gyrfaoedd yn dilyn y graddau amrywiol sydd ar gael. Bydd y cwrs hwn ar gyfer ymgynghorwyr gyrfaoedd yn helpu i sicrhau bod gwybodaeth ac arweiniad ynglŷn â gyrfaoedd sy'n gysylltiedig â STEM ar gael i fyfyrwyr wrth wneud y penderfyniadau pwysig hyn."

Mae'r cwrs hwn wedi cael ei groesawu hefyd gan Michael Grove, Cyfarwyddwr Rhaglen Genedlaethol Addysg Uwch STEM: "Rwy'n croesawu'r fenter hon fel enghraifft o gydweithredu trawsgenedlaethol dan arweiniad addysg uwch, i helpu i fynd i'r afael â'r angen am arweiniad gwybodus ar yrfaoedd STEM ar lefel briodol yn y ddwy wlad," meddai.

Yn dilyn y peilot, gallai rhaglen gael ei gweithredu fel modiwl achrededig lefel meistr.

Rhannu’r stori hon