Ewch i’r prif gynnwys

Dyfodol addysg uwch ar-lein

14 Rhagfyr 2012

Online future of higher education

Bydd myfyrwyr o Gymru, ledled y DU ac ym mhob cwr o'r byd yn cael mynediad am ddim i rai o brifysgolion gorau'r byd, diolch i Futurelearn Ltd, sef cwmni cwbl newydd sy'n cael ei lansio gan Y Brifysgol Agored (OU).

Mae Caerdydd yn ymuno â phrifysgolion Birmingham, Bryste, Dwyrain Anglia, Caerwysg, Coleg y Brenin Llundain, Caerhirfryn, Leeds, Southampton, St. Andrews a Warwick sydd i gyd wedi cofrestru i ymuno â Futurelearn.

Bydd Futurelearn yn annibynnol ond y Brifysgol Agored fydd yn berchen ar y rhan fwyaf ohono. Bydd:

  • Yn dwyn ynghyd ystod o gyrsiau ar-lein, agored, am ddim o brifysgolion blaenllaw yn y DU, a fydd yn glir, yn syml i'w defnyddio ac yn hygyrch;
  • Yn defnyddio arbenigedd y Brifysgol Agored wrth gyflwyno dysgu o bell ac adnoddau addysg agored arloesol i ategu cynnig unedig a chydlynus gan ei holl bartneriaid;
  • Yn cynyddu hygyrchedd i addysg uwch i fyfyrwyr ledled y DU ac yng ngweddill y byd.

Dywedodd yr Athro Colin Riordan, Is-Ganghellor Prifysgol Caerdydd: "Mae Caerdydd yn cymryd rhan yn fyd-eang, mae ynddi gymuned academaidd sy'n cael ei chydnabod am ei harbenigrwydd a'i heffaith ryngwladol. Rydym ni'n falch o ymuno â'r Brifysgol Agored fel un o'r prifysgolion cyntaf i ymuno â Futurelearn ac arwain y sector yng Nghymru. Mae'r fenter gyffrous hon yn gyfle gwirioneddol i ymestyn mynediad ledled y byd i'n profiad addysg rhagorol."

Galw byd-eang

Mae Futurelearn wedi cael croeso brwd gan y llywodraeth. Dyma a ddywed y Gweinidog dros Brifysgolion a'r Gwyddorau sy'n gyfrifol am addysg uwch yn Lloegr, David Willetts:

"Rhaid i'r DU fod ar flaen y gad o ran datblygiadau mewn technoleg addysg. Mae Cyrsiau Ar-lein Agored Enfawr (MOOCS) yn rhoi cyfle i ni ehangu mynediad at addysg uwch, a bodloni'r galw amdani yn fyd-eang. Mae'r galw hwn yn tyfu'n gynyddol mewn economïau datblygol fel Brasil, India a Tsieina.

"Mae gan Futurelearn y potensial i sicrhau bod y DU yn cael lle canolog yn yr agenda technoleg ar gyfer dysgu trwy chwyldroi modelau addysg ffurfiol. Bydd offer cyflwyno ar-lein newydd hefyd yn creu cyfleoedd gwych i entrepreneuriaid o'r DU gyrraedd marchnadoedd y byd trwy reoli technoleg ac arloesedd ym maes addysg."

Cymorth

Croesawyd y newyddion hefyd gan Leighton Andrews AC, y Gweinidog Addysg a Sgiliau yn Llywodraeth Cymru. Dywedodd: "Mae maes Adnoddau Addysgol Agored yn faes sy'n symud yn gyflym lle gall pŵer y rhyngrwyd a thechnoleg gwybodaeth drawsnewid mynediad at ddysgu yn fyd-eang. Rwyf wedi annog y sector addysg uwch yng Nghymru gyfan i ymgymryd â hyn o ddifrif, ac rwy'n falch iawn fod y fenter newydd hon gan y Brifysgol Agored – sydd eisoes yn cyrraedd pob cwr o'r DU a'r byd – yn arwain y ffordd at amlygu llwybr cyffrous yn y dyfodol a fydd o fantais i ddysgwyr yng Nghymru. Mae'n arbennig o galonogol gweld y bydd y Brifysgol Agored yn gweithio gyda Phrifysgol Caerdydd i archwilio ffyrdd newydd o ddarparu cyfleoedd dysgu sy'n gallu mynd â rhywfaint o blith yr addysg uwch orau yng Nghymru i'r byd, a dod â'r byd at ddysgwyr ac AU yng Nghymru."

The Open University

Arbenigedd y Brifysgol Agored

Dywedodd Martin Bean, Is-Ganghellor y Brifysgol Agored: " Mae Cyrsiau Ar-lein Agored Enfawr (MOOCS) yn ddatblygiad enfawr mewn Addysg Uwch, sydd â'r potensial i ysgogi newid hirbarhaus yn y sector AU ac yn cynnig mynediad at ddysgu i ystod ehangach o fyfyrwyr nag erioed o'r blaen. Mae gan y Brifysgol Agored ddegawdau o brofiad mewn dysgu o bell o'r radd flaenaf – bob blwyddyn, rydym yn addysgu tua 250,000 o fyfyrwyr cofrestredig, gyda miliynau o bobl eraill yn llythrennol yn manteisio ar ein cynigion ar-lein anffurfiol am ddim. Bydd Futurelean yn mynd â'r dreftadaeth falch hon ac yn gweithio gyda rhai o brifysgolion mwyaf adnabyddus Prydain i ysgrifennu'r bennod nesaf yn hanes addysg uwch ym Mhrydain."

Arweinyddiaeth

Mae'r Brifysgol Agored wedi recriwtio un o benseiri allweddol y datblygiad BBC Online, Simon Nelson, i fod yn bennaeth y cwmni fel Prif Swyddog Gweithredol lansio. Treuliodd Nelson 14 mlynedd yn y Gorfforaeth lle cynorthwyodd i sefydlu iPlayer a'i ragflaenydd, Radio Player ac arweiniodd yr holl weithgareddau digidol ar gyfer ei adran radio yn gyntaf ac wedyn ar draws yr holl gynnwys teledu. Dywedodd: "Bu twf cyflym ac eang mewn cyrsiau ar-lein agored ond tan nawr, mae prifysgolion y DU ond wedi cael y dewis o weithio gyda llwyfannau yn UDA. Nod Futurelearn fydd dod â phrifysgolion blaenllaw y DU at ei gilydd i greu cynnig cyfunol a chydlynus i fyfyrwyr yn y DU ac yn rhyngwladol. Rwy'n edrych ymlaen at ddefnyddio hanes balch y Brifysgol Agored o arloesedd a rhagoriaeth academaidd i greu rhywbeth y bydd y DU yn falch ohono ac y bydd y byd am gael bod yn rhan ohono."

Cymru

Dywedodd Rob Humphreys, Cyfarwyddwr Y Brifysgol Agored yng Nghymru: "Mae cenhadaeth y Brifysgol Agored i ehangu addysg uwch i bawb sy'n gallu elwa, p'un a ydynt yng Nghymru, y DU neu ledled y byd, wedi cael ei seilio erioed ar wneud y defnydd gorau o dechnoleg fodern a chanolbwyntio ar y dysgwr. Rwyf wrth fy modd y bydd blas Cymreig cryf i Futurelearn, a bod Y Brifysgol Agored yng Nghymru a Phrifysgol Caerdydd, gyda'i gilydd, ar flaen y gad o ran cyflawni'r heriau a nodwyd gan y Gweinidog ym maes adnoddau addysgol."

Lansiwyd cyfres o ddigwyddiadau yn y Lanfa yn ddiweddar hefyd gan Brifysgol Caerdydd a'r Brifysgol Agored yng Nghymru, sydd wedi eu hanelu at hyrwyddo a hwyluso trafodaethau am wleidyddiaeth a'r llywodraeth yn y Gymru fodern a thu hwnt. Bydd y digwyddiadau hyn, megis darlith Canolfan Llywodraethu Cymru a draddodwyd gan y Dirprwy Brif Weinidog yn gynharach eleni, ar gael i'r byd trwy lwyfannau OpenLearn ac iTunesU y Brifysgol Agored.

Y DU

Mae Futurelearn wedi cael croeso brwd gan arweinwyr addysg uwch yn y DU. Dywedodd yr Athro Sir Leszek Borysiewicz, Is-Ganghellor Prifysgol Caergrawnt:

"Mae addysg ar-lein yn dod yn ddull pwysig a allai gynnig cyfleoedd sylweddol i'r rheiny nad oes ganddynt fynediad at brifysgolion confensiynol. Mae menter y Brifysgol Agored yn ffordd gyffrous o adeiladu ar ei llwyddiant sefydledig ac ehangu ei chenhadaeth."

Bydd Futurelearn yn cyhoeddi manylion am ei strwythur a'i gyrsiau yn y dyfodol ar ddechrau'r Flwyddyn Newydd.

Rhannu’r stori hon