Ewch i’r prif gynnwys

Cydnabod gwasanaeth

18 Rhagfyr 2012

Recognising staff commitment

Cafodd cyfanswm o dros 1,000 o flynyddoedd o wasanaeth ei anrhydeddu yn nigwyddiad Cydnabod Gwasanaeth y Brifysgol yn ddiweddar.

Derbyniodd cyfanswm o 35 aelod o staff wobrau am gyrraedd 40 a 25 mlynedd o wasanaeth. Llongyfarchwyd nhw a diolchwyd iddynt am eu cyfraniad i'r Brifysgol gan yr Athro Colin Riordan, yr Is-Ganghellor a'r Athro Terry Threadgold, y Dirprwy Is-Ganghellor ar gyfer Staff ac Amrywiaeth.

Wrth siarad am y digwyddiad, meddai'r Athro Threadgold: "Hoffwn ddiolch i bob un o'r rhai sydd wedi'u cydnabod yn nigwyddiad eleni. Eu teyrngarwch, eu hymrwymiad a'u cefnogaeth dros y blynyddoedd i'r Brifysgol, ac i ninnau i gyd, sydd wedi peri i Gaerdydd fod yn brifysgol mor wych heddiw."

staff commitment

Un o'r rhai i dderbyn gwobr oedd Dr Eryl Cox o'r Is-adran Ymchwil a Masnachol. Ar ôl ymuno â'r Brifysgol ym 1987 yn ymchwilydd, newidiodd trywydd gyrfa Eryl yn niwedd y 90au pan gymerodd hi rôl Swyddog Trosglwyddo Technoleg, gan weithio gydag academyddion i fynd â'u hymchwil i'r farchnad.

Wrth sôn am ei chyfnod yn y Brifysgol meddai Eryl: "Dyma'r swydd sydd wedi rhoi'r boddhad mwyaf i mi erioed. Rwy'n cael ymwneud ag academyddion, eu helpu i weithio gyda chwmnïau i ddatblygu eu syniadau a'u hymchwil sy'n rhoi boddhad anhygoel i mi.

"Mae pob diwrnod yn wahanol – yn sicr, allaf i ddim dweud bod fy swydd yn ddiflas. Mewn gwirionedd rwy'n credu'n siŵr fy mod wedi dysgu rhywbeth newydd bob diwrnod o'm diwrnod gwaith.

"Mae gweithio ym Mhrifysgol Caerdydd wedi golygu rhywbeth arbennig iawn i mi. Dyma'r man lle rwyf wedi bod fwyaf cyfforddus a hapus. Mae'r bobl rwy'n gweithio gyda nhw ac rwyf wedi gweithio gyda nhw dros y 25 mlynedd diwethaf i gyd wedi bod mor hyfryd – mae'n teimlo fel teulu mawr."

Mae'r digwyddiad blynyddol i Gydnabod Gwasanaeth yn cael ei drefnu gan yr Is-adran Adnoddau Dynol yn rhan o'r fenter Amgylchedd Gweithio Cadarnhaol.

Negeseuon oddi wrth rai o Fwrdd Gweithredol y Brifysgol

Yr Athro Elizabeth Treasure, Dirprwy Is-Ganghellor: "Mae llwyddiant ac enw da neilltuol Prifysgol Caerdydd yn dibynnu ar ymrwymiad, brwdfrydedd a theyrngarwch ei staff. Heddiw rydyn ni'n dathlu'r aelodau hynny o staff sydd wedi gwasanaethu am 25 neu 40 mlynedd yn y Brifysgol. Mae hyn yn rhywbeth gwych i'w gyflawni ac mae'r Brifysgol yn falch ohono."

Hugh Jones, Prif Swyddog Gweithredol: "Cymunedau yw Prifysgolion, ac mae unrhyw gymuned yn dibynnu ar yr aelodau sydd wedi bod ynddi dros gyfnod. Pa bynnag waith rydych chi wedi ymgymryd ag ef yn ystod eich gyrfa gyda Phrifysgol Caerdydd, eich atgof am ddigwyddiadau pobl a'r rhesymau pam; mae eich presenoldeb, a'r gwerthoedd rydych chi'n eu rhannu, yn helpu i'w creu, ac yn eu trosglwyddo, yn allweddol i les y Brifysgol. Rydych chi'n chwarae rhan fawr yn ein stori ni. Diolch am bopeth rydych chi wedi'i wneud dros y Brifysgol; a llongyfarchiadau mawr ar gyrraedd y garreg filltir hon."

Rhannu’r stori hon