Ewch i’r prif gynnwys

Hwyl fawr ... Yr Athro Terry Threadgold

18 Rhagfyr 2012

Professor Terry Threadgold

Mae gweithio ym Mhrifysgol Caerdydd dros y 13 blynedd a hanner diwethaf wedi bod yn brofiad arbennig ac rwy'n gwerthfawrogi'n enfawr bopeth y mae Caerdydd wedi'i ddysgu i mi, pob un o'r heriau y mae gweithio yma wedi'u cynnig, a'r holl bobl wych sydd wedi bod yn rhan o'r gwersi a'r heriau hynny.

Des i Gaerdydd ar adeg freintiedig iawn pan oedd Syr Brian Smith yn paratoi'r Brifysgol at Ymarfer Asesu Ymchwil 2001 ac roedd ganddo symiau rhagorol o arian i'w buddsoddi yn yr ymarfer hwnnw – yn arbennig o ragorol pan oeddech chi wedi bod yn 'torri'n ôl' yn Awstralia ers tro. Roedd cael cynnig cadair ymchwil – hyd yn oed ar ochr draw'r byd – yn ormod i mi – a des yn un o fuddsoddiadau Syr Brian, a'r Brifysgol.

Cafodd yr ymdeimlad o fod yn freintiedig oedd gen i wrth adael Awstralia dipyn o ergyd yn ystod fy ychydig flynyddoedd cyntaf yng Nghaerdydd. A dweud y gwir, roedd y sioc ddiwylliannol yn enfawr! Roedd y Brifysgol yn lle gwahanol iawn yn y dyddiau hynny. Gadewch i ni ddweud cymaint â hyn, bod egwyddorion urddas a pharch, ac (o leiaf y nod o gael) cydraddoldeb rhywedd, yn y gweithle, rhywbeth sydd wedi'i wreiddio'n rhesymol o dda erbyn hyn – yn reit bell o hyd mewn rhai mannau. Roedd y ffyrdd o ddelio â'r materion hynny hefyd yn ddiwylliannol benodol i'r amser a'r lle: dynion yn tra-arglwyddiaethu'n garedig, yn unrhyw beth ond tryloyw, a phob amser yn anuniongyrchol a'r tu ôl i ddrysau caeedig os oedd hynny'n bosibl o gwbl. Gwers ddiddorol iawn i'w dysgu i ferch o'r trefedigaethau!

Aeth y wers hon â mi drwy dair blynedd yn athro ymchwil yn Ysgol Newyddiaduraeth, y Cyfryngau ac Astudiaethau Diwylliannol, i gael fy mhenodi'n Bennaeth Ysgol. Mwynheais bob munud o'r cyfnod yn Bennaeth JOMEC: dysgu i ddeall diwydiant y cyfryngau'n ymarferol, ysgrifennu a dilysu graddau ôl-raddedig wedi'u dysgu i ddenu myfyrwyr rhyngwladol i'r Ysgol, ymwneud yn uniongyrchol â'r busnes o hyfforddi newyddiadurwyr, ar gyfer diwydiannau'r DU a rhai rhyngwladol, datblygu diwylliant ymchwil ôl-raddedig yr Ysgol, a chael y cyfleoedd mwyaf anhygoel i wneud ymchwil. Rwy'n dal i gofio gyda chryn gyffro'r tripiau recriwtio ac ymchwil i China, gweithio yn y Pentagon tua adeg rhyfel Iraq yn 2003, ymchwil gyda phrif ddarlledwyr y DU a'r gwaith ar gynhwysiant a chydlyniad cymunedol yn ne Cymru yn ogystal ag arolygu cymaint o fyfyrwyr PhD anhygoel o alluog. Ac roedd y bobl yn wych, yn bobl mor dda ac ymrwymedig i weithio gyda nhw a phawb yn gwneud pethau rhyfeddol ac arwyddocaol. Roedd yn rhoi cryn foddhad i mi fod mewn sefyllfa lle gallwn gefnogi, datblygu a galluogi'r amrywiaeth o bobl a oedd yn JOMEC ar y pryd. Llwyddiant JOMEC yn Ymarfer Asesu Ymchwil 2008 oedd yr eisin ar gacen oedd eisoes yn gyfoethog iawn!!

Erbyn hynny roeddwn i wedi dod yn Ddirprwy Is-Ganghellor dros Staff ac Amrywiaeth, rôl lle cefais gynnig yr hyn roedd Dr David Grant, yr Is-Ganghellor ar y pryd, yn galw'n 'gyfle gyrfaol': Pennaeth Dros Dro Ysgol Saesneg, Cyfathrebu ac Athroniaeth i ddechrau ac yna Ysgol Hanes, Archaeoleg a Chrefydd – ar ben y gwaith bob dydd! Roedd pob Ysgol yn cynnig heriau gwahanol iawn, staff ac agweddau staff cwbl wahanol tuag at newid a chael eu harwain a'u rheoli, a chyfoeth anhygoel addysgu a dysgu, gweithgareddau ymchwil ac arloesedd ac ymgysylltu. Mae hi wir wedi bod yn anhygoel cael cyfle i weithio gyda chynifer o'r ysgolheigion, athrawon a'r athrawon, y trefniannau disgyblaethol a'r cymunedau gorau oll. Rwyf mor ddiolchgar i'r holl bobl hyn am yr hyn maen nhw wedi'i ddysgu i mi a'r hyn y maen nhw wedi'i roi yn y cyd-destunau sy'n gallu bob yn anodd lle mae angen i benaethiaid Ysgol dros dro weithio.

Ond mae mwy fyth! Fel Dirprwy Is-Ganghellor, gyda chefnogaeth o leiaf ddau Is-Ganghellor, David Grant a nawr Colin Riordan, nifer o fenywod hŷn o bwys, Timau Rheoli Uwch gwych, a chan weithio'n agos gyda nifer o'r cyn gyfarwyddiaethau, ond yn arbennig fy ffrindiau a'm cydweithwyr gwych yn Adnoddau Dynol, Llywodraethu a Chydymffurfio, Gwasanaethau Myfyrwyr, y Gofrestrfa ac Ystadau a Chyllid, rwyf wedi cael rhwydd hynt yn y Brifysgol a phob un o'i Hysgolion yn ogystal â'i holl staff. Nawr hon yw'r ffordd fwyaf anhygoel o ddysgu sut mae sefydliadau'n gweithio. Tybed faint o bobl sydd byth yn dod i ben â gwneud hynny?

Mae'r prosiectau Ymchwil rwy'n arbennig o falch ohonyn nhw'n cynnwys Buddsoddwyr mewn Pobl, Athena Swan, ein safle ym Mynegai Cydraddoldeb yn y Gweithle Stonewall, ein gwaith gyda staff ymchwil, yr arolygon staff rydyn ni wedi'u gwneud, prif-ffrydio Cydraddoldeb ac Amrywiaeth, ein gwaith Cydraddoldeb ac Amrywiaeth ar REF, y gwaith sydd ar y gweill ar lwybrau gyrfaol, dyrchafiadau a llwyth gwaith academaidd, a'n llwyddiannau enfawr o ran hyfforddiant arwain a rheoli.

Mae'r prosiectau hyn wedi bod yn fodd i'n helpu ni i yrru newid mawr ymlaen ar draws y Brifysgol, ac i ymgysylltu â holl staff amrywiol y Brifysgol wrth wneud. Mae gwrando a dysgu a hwyluso wedi bod yn ganolog i'r prosesau hyn ac rwyf mor ddiolchgar i'r timau a'r unigolion sydd wedi dod gyda fi ar y teithiau hyn sydd bob amser yn gymhleth, weithiau'n anodd ond sydd bob amser yn rhoi boddhad. Byddaf bob amser yn trysori ymdeimlad o fenter ar y cyd, gwerthoedd cyffredin, chwerthin ac ymrwymiad yr ymdrechion tîm mawr yma.

Ac i gloi, y chwe mis diwethaf hyn! Efallai'r tri mis diwethaf yn arbennig, pan wyf wedi cael cyfle, a minnau bron allan drwy'r drws, i weithio gydag uwch dîm a bwrdd gweithredol newydd y Brifysgol ac i rannu yn y gwaith o wneud o leiaf un o'r colegau newydd! Mae hon yn adeg mor gyffrous i Gaerdydd, ac mae ymdeimlad mawr o adnewyddu a dyfodol newydd. Allaf i ddim meddwl am well adeg i ymddeol ac ymadael yn derfynol – ac rwyf mor ddiolchgar am y profiad cyffrous a blinedig o fod yn rhan ohono.

Gobeithio y byddwch chi'n ymafael yn y cyfleoedd gwych yma i newid ac yn gweithio gyda nhw i symud y Brifysgol yn ei blaen. Diolch i chi am weithio gyda mi dros y blynyddoedd, ac rwy'n dymuno i chi oll Nadolig Llawen, blwyddyn newydd dda lwyddiannus a llawn boddhad, a dyfodol gwych i chi a'r Brifysgol.

Terry Threadgold

Rhannu’r stori hon