Ewch i’r prif gynnwys

Gyfarfod Neuadd y Dref

19 Rhagfyr 2012

Cardiff University logo

Bydd y Dirprwy Is-ganghellor Ymchwil, Arloesedd a Mentergarwch, ynghyd â'r Deoniaid Ymchwil yn cynnal dau gyfarfod 'Neuadd y Dref' ym mis Ionawr 2013. Diben y cyfarfodydd hyn yw cyflwyno'r strwythurau, y mecanweithiau a'r mentrau sydd ar waith i gynnal Ymchwil, Arloesedd a Mentergarwch.

Bydd y cyfarfodydd yn :

  • rhoi cyflwyniad i'r Dirprwy Is-ganghellor Ymchwil, Arloesedd a Mentergarwch, y pedwar Deon Ymchwil a'u portffolios;
  • trafod gweithgareddau a mentrau i gynnal Ymchwil, Arloesedd a Mentergarwch;
  • trafod cyllid ar gyfer Ymchwil ac Arloesedd.

Mae'r cyfarfodydd wedi'u hamserlennu ar gyfer yr amserau canlynol ar Ddydd Iau 10 Ionawr 2013:

  • 9am-12pm yn Narlithfa Fawr Shandon, Y Prif Adeilad
  • 2pm-5pm yn Narlithfa 3, Y Prif Ysbyty.

Mae'r digwyddiad hwn yn agored i bob aelod o staff sydd â diddordeb mewn ymchwil – mae croeso i bawb. Dylai unrhyw un sy'n dymuno bod yn bresennol gadarnhau eu sesiwn o ddewis drwy anfon neges e-bost at planning@caerdydd.ac.uk.

Mae'r cyfarfod hwn yn rhan o gyfres o ddigwyddiadau sy'n gysylltiedig ag ymchwil sy'n digwydd ym mis Ionawr ac yn gynnar ym mis Chwefror sy'n agored i bob aelod o staff sydd â diddordeb mewn ymchwil. Dyma'r cyfarfodydd 'Neuadd y Dref' eraill:

  • Cyhoeddiadau Mynediad Agored a data ffynhonnell hygyrch:

8 Ionawr (2pm, Darlithfa Julian Hodge, Cathays)

11 Ionawr (2pm, Darlithfa 4, Prif Adeilad yr Ysbyty).

Bydd uwch aelodau staff o'r Gwasanaethau Gwybodaeth ac RACDV yn darparu diweddariad ar y datblygiadau o ran cyhoeddiadau Mynediad Agored, a sut mae'r Brifysgol yn mynd i'r afael â nhw, ac ar reoli a chadw data a gwybodaeth ymchwil. Bydd y ddwy sesiwn yn para am hyd at 2 awr. Caiff system archebu lle ei sefydlu yn fuan.

  • Cyfarfodydd Gwybodaeth am y REF:

31 Ionawr (9-10:30am, Darlithfa Michael Griffiths, Y Mynydd Bychan)

1 Chwefror (2-3.30pm, Darlithfa CLAWS, Cathays)

Bydd cadeirydd is-grŵp y REF, Yr Athro Chris McGuigan a Chadeirydd Grŵp Cydraddoldeb ac Amrywiaeth y REF, yr Athro Terry Threadgold, yn cynnal y cyfarfodydd hyn, gan ganolbwyntio'n benodol ar Gydraddoldeb ac Amrywiaeth yn y REF ac yn rhoi diweddariad ar baratoadau sefydliadol ar gyfer y REF. Gofynnir i'r rhai sydd eisiau bod yn bresennol yn y naill gyfarfod neu'r llall gadarnhau eu dyddiad o ddewis drwy anfon neges e-bost at ref@caerdydd.ac.uk.

Rhannu’r stori hon