150 mlynedd o hanes Prydain
11 Ionawr 2017
Beth ellid ei ddysgu am y byd pe bai modd darllen y newyddion mewn mwy na 100 o bapurau lleol dros gyfnod o 150 mlynedd?
Dyma beth mae tîm o ymchwilwyr o Brifysgol Caerdydd a Phrifysgol Bryste wedi'i wneud drwy ddefnyddio deallusrwydd artiffisial i ddadansoddi 150 mlynedd o bapurau newydd rhanbarthol Prydain.
Mae'r patrymau sydd wedi ymddangos yn y dadansoddiad awtomatig yn cynnwys digwyddiadau mawr, ac amrywiaethau cynnil yn y gogwydd o ran rhyw dros y degawdau. Mae'r astudiaeth wedi ymchwilio i gyfnodau pontio megis technolegau newydd a hyd yn oed syniadau gwleidyddol newydd, a hynny mewn modd newydd sy'n debycach i astudiaethau genomig nag ymchwiliadau hanesyddol traddodiadol.
Cydweithiodd y tîm o academyddion â chwmni findmypast, sy'n digideiddio papurau newydd hanesyddol o'r Llyfrgell Brydeinig fel rhan o'u prosiect Archif Papurau Newydd Prydeinig.
Prif ffocws yr astudiaeth oedd canfod a oes modd nodi newidiadau hanesyddol a diwylliannol drwy'r olion traed ystadegol cynnil a adawyd mewn cynnwys cyfunol papurau newydd lleol. Faint o fenywod y soniwyd amdanynt? Ym mha flwyddyn y dechreuwyd sôn am drydan yn fwy na stêm? Yn hanfodol, mae'r gwaith hwn yn mynd ymhell y tu hwnt i gyfri geiriau, ac yn defnyddio dulliau Deallusrwydd Artiffisial i nodi pobl a'u rhyw, neu leoedd a'u lleoliad ar y map.
Fel rhan o'r astudiaeth fawr hon, casglwyd nifer enfawr o bapurau newydd rhanbarthol y DU at ei gilydd, sy'n cynnwys gwybodaeth ddaearyddol a gwybodaeth sy'n benodol i adegau penodol nad yw ar gael mewn ffynonellau data testun eraill megis llyfrau. Defnyddiodd yr astudiaeth fwy na 35 miliwn o erthyglau a 28.6 biliwn o eiriau o gasgliad papurau newydd y Llyfrgell Brydeinig, sef 14 y cant o'r holl gyhoeddiadau rhanbarthol ym Mhrydain rhwng 1800 a 1950.
Dywedodd arweinydd yr astudiaeth, Nello Cristianini, Athro Deallusrwydd Artiffisial ym Mhrifysgol Bryste: "Nod allweddol yr astudiaeth oedd dangos dull o ddeall parhad a newid mewn hanes, yn seiliedig ar ddarllen trwy gronfa enfawr o newyddion, sy'n cyd-fynd â'r hyn y mae haneswyr yn ei wneud yn draddodiadol..."
Trwy wneud dadansoddiad syml o'r cynnwys, roedd modd i'r ymchwilwyr nodi digwyddiadau allweddol megis rhyfeloedd, epidemigion, coroniadau neu gynulliadau yn fanwl. Trwy ddefnyddio dulliau deallusrwydd artiffisial manylach, roedd modd i'r tîm ymchwil symud y tu hwnt i gyfri geiriau, a darganfod enghreifftiau o gyfeirio at bethau penodol, megis unigolion, cwmnïau a lleoedd.
Roedd rhai canlyniadau'n cyd-fynd â'r hyn y byddem yn ei ddisgwyl, ac yn fodd o wirio'r dull, ond roedd canlyniadau eraill yn llai amlwg wrth ddechrau'r dadansoddiad.
Ym meysydd gwerthoedd, credoau a gwleidyddiaeth y DU, canfu'r ymchwilwyr fod Gladstone yn ymddangos lawer mwy na Disraeli yn y 19fed ganrif; hyd at y 1930au soniwyd mwy am y Rhyddfrydwyr na'r Ceidwadwyr, ac mai yn yr 20fed ganrif y daeth cyfeirio at hunaniaeth Brydeinig yn boblogaidd.
Ym meysydd technoleg a'r economi, gwnaeth y tîm ymchwil olrhain dirywiad graddol stêm, a phoblogrwydd cynyddol trydan, a ddaeth yn fwy poblogaidd yn 1989. Daeth trenau'n fwy poblogaidd na cheffylau yn 1902, a'r pedwar achlysur lle defnyddiwyd y gair 'panic' fwyaf oedd y marchnadoedd negyddol o ganlyniad i'r argyfyngau bancio ym 1826, 1847, 1857 ac 1866.
Ym mhynciau newid cymdeithasol a diwylliant poblogaidd, mae'r ymchwilwyr wedi dangos bod mudiad y Swffragetiaid wedi digwydd o fewn cyfnod penodol rhwng 1906 a 1918; bod nifer yr 'actorion', 'cantorion' a 'dawnswyr' wedi dechrau cynyddu yn y 1890au, a chynyddu'n fawr o'r adeg honno ymlaen, tra roedd cyfeiriadau at 'wleidyddion', i'r gwrthwyneb, wedi lleihau'n raddol o ddechrau'r 20fed ganrif; a bod 'pêl droed' yn fwy cyffredin na 'chriced' o 1909 ymlaen.
Gan ail-greu astudiaeth flaenorol a wnaed am gynnwys llyfrau, aeth yr ymchwilwyr ati i gysylltu pobl enwog yn y newyddion â'u swydd, a chanfod mai gwleidyddion ac awduron yw'r mwyaf tebygol o ddod yn enwog yn eu bywydau, tra bod gwyddonwyr a mathemategwyr yn llai tebygol o ddod yn enwog, ond yn dirywio'n llai sydyn yn hynny o beth.
Yn bwysicach, canfu'r ymchwilwyr fod dynion yn ymddangos yn amlach na menywod yn systematig drwy'r cyfnod cyfan a astudiwyd, ond bod cynydd araf yn nifer y menywod ar ôl 1900, er nad yw'n hawdd priodoli'r cynnydd hwn i un ffactor penodol ar y pryd. Diddorol yw gweld nad yw maint y gogwydd o ran rhyw yn y newyddion dros gyfnod yr ymchwiliad yn wahanol iawn i'r lefelau presennol.
Dywedodd yr Athro Justin Lewis, o Ysgol Newyddiaduraeth, Cyfryngau ac Astudiaethau Diwylliannol Prifysgol Caerdydd, a oedd yn rhan o'r astudiaeth: "Er na fydd yn disodli dulliau mwy ansoddol o ddadansoddi, mae’r dull yn ein galluogi i olrhain cynnwys eang y cyfryngau ar draws nifer o gyhoeddiadau dros gyfnodau hir. Yn y dyfodol, bydd y dull hwn yn gwella ein gallu i archwilio materion allweddol, gan gynnwys didueddrwydd gwleidyddol a chynrychiolaeth a dylanwad cymdeithasol.”
Mae Content analysis of 150 years of British periodicals gan Lansdall-Welfare et al wedi'i gyhoeddi yng nghyfnodolyn Proceedings of the National Academy of Sciences.