Ewch i’r prif gynnwys

Hyrwyddo'r Gymraeg

10 Ionawr 2017

Student ambassadors

Mae'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol wedi recriwtio myfyrwyr o Brifysgol Caerdydd i geisio annog rhagor o ddarpar fyfyrwyr i astudio rhan o'u cyrsiau gradd yn Gymraeg.

Bydd y llysgenhadon, sydd wedi'u lleoli mewn saith o brifysgolion ledled Cymru gan gynnwys Prifysgol Caerdydd, yn dechrau eu gwaith y mis hwn ac fe fyddant yn gyfrifol am gwblhau amrywiaeth o dasgau drwy gydol y flwyddyn.

Eu prif rôl fydd darbwyllo disgyblion ysgol i ddilyn rhan o'u hastudiaethau yn y brifysgol drwy gyfrwng y Gymraeg ac egluro'r manteision a ddaw yn sgîl hynny.

Byddant yn cynrychioli'r Coleg Cymraeg ar ymweliadau ysgolion, ffeiriau UCAS ac mewn eisteddfodau yn ogystal â chofnodi eu profiadau mewn blog newydd sbon.

Bydd blog ‘Llais y Llysgennad’ yn rhoi cipolwg ar eu bywydau trwy luniau a fideos.

Gwenllian Mair Jones, sy'n astudio'r Gyfraith ym Mhrifysgol Caerdydd, oedd un o'r rhai cyntaf ar y blog. Roedd hi'n falch iawn o gael y cyfle i astudio drwy gyfrwng y Gymraeg yn y brifddinas ar ôl gadael Ysgol Gyfun y Strade.

"Rwy'n falch iawn o'r iaith, a chan fy mod wedi cael fy addysg yn Gymraeg hyd yma, roedd astudio fy ngradd yn Gymraeg yn gam naturiol i mi."

Gwenllian Mair Jones Myfyrwraig y Gyfraith, Prifysgol Caerdydd

Meddai Gwenllian: "Mae gallu astudio pwnc mewn dwy iaith yn gwneud y dysgu'n haws. Hoffwn barhau i fyw yng Nghymru yn y dyfodol a dylai'r ffaith mod i'n gallu gweithio yn Gymraeg fod yn fuddiol."

Bydd angen i'r llysgenhadon ymgyfarwyddo â Chynllun Ysgoloriaethau Israddedig y Coleg Cymraeg hefyd a siarad am y cyfleoedd a ddaw yn sgîl astudio yn Gymraeg.

Mae blog y Coleg Cymraeg ar gael yma.

Rhannu’r stori hon

O wybodaeth am ysgoloriaethau i gynlluniau ariannu staff, dysgwch mwy am sut gall ein Cangen eich helpu chi.