Ewch i’r prif gynnwys

Gwella iechyd deintyddol Cymru

9 Ionawr 2012

Improving welsh Dental Health

Bydd myfyrwyr deintyddiaeth o Gaerdydd yn darparu triniaeth i gannoedd o gleifion sydd heb ddeintydd ar hyn o bryd mewn uned allgymorth newydd yn ne Cymru.

Bydd yr Uned Addysgu Clinigol yn Ysbyty Cymunedol Cwm Cynon yn darparu ystod eang o ofal deintyddol am ddim gan fyfyrwyr pumed flwyddyn yr Ysgol Deintyddiaeth i drigolion sydd heb ddeintydd.

Mae'r myfyrwyr deintyddiaeth profiadol yn cynnig triniaeth o dan oruchwyliaeth tiwtoriaid yn y cyfleuster modern hwn sydd wedi'i leoli yn Aberpennar. Y nod yw helpu cleifion i gyrraedd safon dda o iechyd deintyddol ac yna eu galluogi i gofrestru'n llawn gyda deintydd. Mae amcangyfrif bod tua 10,000 o bobl yng Nghwm Cynon sydd heb fynediad i ddeintydd.

Mae'r uned arloesol yn darparu 18 o fannau triniaeth. Mae'n cael ei hariannu gan Lywodraeth Cymru a'i rhedeg ar y cyd gan Fwrdd Iechyd Lleol Cwm Taf, BIP Caerdydd a'r Fro, a Phrifysgol Caerdydd. Mae'r fenter newydd yn dilyn llwyddiant yr Uned Addysgu Clinigol gyntaf yn y Gymuned yn Ysbyty Dewi Sant, sy'n cael ei rhedeg gan BIP Caerdydd a'r Fro a Phrifysgol Caerdydd, ac sydd wedi bod yn gweithredu ers wyth mlynedd.

Dywedodd yr Athro Michael Lewis, Deon yr Ysgol Deintyddiaeth a Chyfarwyddwr Is-adran Ddeintyddol Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro: "Mae'r clinig allgymorth newydd yn Aberpennar yn newyddion da dros ben i wasanaethau deintyddol yng Nghymru. Fel Cyfarwyddwr yr Is-adran Ddeintyddol, rwyf wrth fy modd i weld y cyfleuster arloesol hwn sydd o'r radd flaenaf yn darparu gwasanaethau i gleifion mewn ardal o angen mawr. Fel Deon yr Ysgol Deintyddiaeth, rwyf hefyd yn falch i weld bod ein myfyrwyr yn cael eu haddysgu gan ddefnyddio'r cyfarpar gorau posibl a byddan nhw'n elwa ar ddarparu triniaeth ddeintyddol yn uniongyrchol i gleifion yn eu hardal eu hunain."

Dywedodd Peter Ash, Cyfarwyddwr Gofal Deintyddol Sylfaenol Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro, fod yr uned newydd o fudd mawr i iechyd yn yr ardal.

Dywedodd: "Bydd cleifion sydd efallai ag angen difrifol am ofal deintyddol, ond sydd am amrywiaeth o resymau heb allu cael mynediad iddo yn y gorffennol, yn gallu cael triniaeth dda am ddim yma. Ar yr un pryd, bydd yn rhoi mwy o brofiad ymarferol i fyfyrwyr deintyddiaeth yn eu pumed flwyddyn cyn iddynt gymhwyso a mynd ymlaen i swyddi mewn deintyddfeydd. Mae'r uned yn fuddsoddiad nid yn unig yn safon iechyd deintyddol y rhanbarth, ond hefyd yn neintyddion y dyfodol a fydd yn darparu gofal i bobl yng Nghymru a ledled y DU."

Rhannu’r stori hon