Ewch i’r prif gynnwys

Ehangu cymorth mathemateg yn Namibia

9 Ionawr 2017

International delegation outside School of Maths

Yn dilyn cynllun peilot llwyddiannus a gynhaliwyd ar y cyd gan Brifysgol Caerdydd a Phrifysgol Namibia (UNAM), mae ysgol mathemateg ddwys i fynd i'r afael â'r gyfradd uchel o wyddonwyr posibl sy'n gadael y maes yn ehangu.

Mae'n rhaid i fyfyrwyr sy'n astudio gradd wyddoniaeth yn UNAM lwyddo mewn modiwlau mathemateg, ond mae llawer ohonynt wedi methu â chwblhau eu cyrsiau oherwydd diffyg sgiliau mathemateg.

Cymerodd tua 70 o fyfyrwyr UNAM ran mewn ysgol haf mathemateg yn 2016, a drefnwyd gan Brifysgol Caerdydd ac UNAM, i wella eu sgiliau, gwybodaeth a hyder.

Roedd y cynllun peilot yn llwyddiant, felly bydd ail ysgol mathemateg yn cael ei chynnal rhwng 11 a 20 Ionawr 2017 – pan mae'n haf yn Namibia – ac mae disgwyl y bydd hyd at 120 o fyfyrwyr yn mynd iddi.

Mae'r cwrs dwys yn rhan o Brosiect Phoenix Prifysgol Caerdydd. Prosiect ymgysylltu yw hwn sy'n gweithio gydag UNAM ar lu o weithgareddau sy'n ymwneud ag addysg, iechyd a gwyddoniaeth.

Dywedodd Dr Rob Wilson, Deon Arloesedd Addysg ym Mhrifysgol Caerdydd, sy'n rhan o'r Ysgol Mathemateg: "Roedd cynllun peilot llynedd yn boblogaidd iawn ymhlith y myfyrwyr ac UNAM, a dyna pam roedden nhw am barhau â'r rhaglen eleni.

"Rydym yn cynllunio ar gyfer 120 o fyfyrwyr eleni, er mwyn sicrhau bod y rhaglen yn cyrraedd cynifer o bobl â phosibl..."

"Rydym am wella hyder y myfyrwyr, ynghyd â gloywi syniadau mathemategol ymarferol."

Dr Robert Wilson Senior lecturer/Director of Learning and Teaching

Y gobaith yw y bydd yr ysgol haf, a gynhelir yng nghampws Windhoek UNAM, yn dod yn rhan arferol o ddarpariaeth UNAM.

Bydd Dr Wilson yn teithio i Namibia gyda'i gydweithiwr o'r Ysgol Mathemateg, Dr Vince Knight, a phedwar myfyriwr ôl-raddedig, i gynnal yr ysgol haf ochr yn ochr â staff UNAM, gan gynnwys Pennaeth Mathemateg UNAM, Dr Martin Mugochi.

Dywedodd Dr Mugochi: "Mae'r Adran Mathemateg yn UNAM yn falch o'r bartneriaeth gref a ffurfiwyd ag Ysgol Mathemateg Prifysgol Caerdydd drwy ymdrechion Dr Wilson, Dr Knight, arweinydd Prosiect Phoenix, yr Athro Judith Hall, ac eraill.

"Lansiwyd yr ysgol haf mathemateg gyntaf yn Ionawr 2016, a'i nod oedd gwella agweddau a defnyddio arferion arloesol wrth addysgu mathemateg i fyfyrwyr yn eu blwyddyn gyntaf..."

"Rydym yn edrych ymlaen at ddigwyddiad rhagorol arall gydag ysgol haf mathemateg Ionawr 2017, ac yn y dyfodol agos gobeithiwn ehangu'r ysgol i gynnwys cydweithwyr a myfyrwyr mathemateg o ganolfannau a champysau UNAM ledled Namibia."

Dr Martin Mugochi Pennaeth Mathemateg UNAM

Mae Prosiect Phoenix, sy'n cefnogi Rhaglen Cymru o Blaid Affrica Llywodraeth Cymru, yn gydweithrediad rhwng Prifysgol Caerdydd ac UNAM ac mae o fudd i'r naill ochr fel y llall.

Mae'n un o brosiectau ymgysylltu blaenllaw Prifysgol Caerdydd, sydd hefyd yn cael ei alw'r Rhaglen Trawsnewid Cymunedau, sy'n gweithio gyda chymunedau yng Nghaerdydd, Cymru a thu hwnt ym meysydd iechyd, addysg a lles ymhlith eraill.

Rhannu’r stori hon

Tîm y prosiect sy'n rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am ddatblygiadau'r prosiect.