Ewch i’r prif gynnwys

Ieithoedd i Bawb yn cyrraedd y rhestr fer yng Ngwobrau nodedig ‘Times Higher Education’

5 Rhagfyr 2016

Tîm Ieithoedd i Bawb wrth lansio eu Canolfan Ieithoedd.
Tîm Ieithoedd i Bawb wrth lansio eu Canolfan Ieithoedd.

Llwyddodd rhaglen unigryw Ieithoedd i Bawb y Brifysgol i gyrraedd rhestr fer yn ddiweddar yng Ngwobrau Times Higher Education (THE) eleni.

Mae rhaglen Ieithoedd i Bawb yn rhoi cyfle i fyfyrwyr Caerdydd wella eu sgiliau iaith ochr yn ochr â’u hastudiaethau israddedig ac ôl-raddedig. Mae dosbarthiadau yn hyblyg ac addas i bobl o bob gallu, o ddechreuwyr i lefelau uwch, a gall myfyrwyr gofrestru yn rhad ac am ddim.

Mae'r cynllun yng Nghaerdydd yn unigryw yn y DU, oherwydd mae myfyrwyr yn gallu mynd i'r dosbarthiadau hyn am ddim. Roedd y tîm Ieithoedd i Bawb, felly, yn teimlo bod gwneud cais i'r categori 'Cefnogaeth Ragorol i Fyfyrwyr' yn acolâd priodol ar gyfer y rhaglen.

Ers dechrau'r rhaglen yn 2014/15, mae nifer y myfyrwyr israddedig ac ôl-raddedig sydd wedi ymrestru wedi cyrraedd bron 8,000 mewn amrywiaeth o ieithoedd modern. Yn wreiddiol, roedd modd i fyfyrwyr ddewis o blith chwe iaith, ond mae nifer yr ieithoedd bellach wedi cynyddu i naw, ac ychwanegwyd Portiwgaleg i'r portffolio a addysgir yn 2017.

Wrth sôn am y rhestr fer, dywedodd cyfarwyddwr y rhaglen Ieithoedd i Bawb, Dr Catherine Chabert, "Rwy'n falch iawn o weithio mewn Prifysgol sy'n rhoi ieithoedd a symudedd rhyngwladol ei fyfyrwyr wrth wraidd ei strategaeth. Ar ôl ennill Gwobr Prifysgol Caerdydd ar gyfer Cyfraniad Rhagorol i Weithgareddau Rhyngwladol y Brifysgol y llynedd, roedd gwneud cais ar gyfer gwobrau THE yn gam nesaf amlwg. Rwy'n falch bod y panel wedi cydnabod ein llwyddiannau, ac rydym yn edrych ymlaen at ehangu'r rhaglen dros y blynyddoedd nesaf. Ein nod yw datblygu'r hyn yr ydym yn ei gynnig drwy ddefnyddio mwy o dechnolegau digidol er mwyn parhau i wella ein dull o ddysgu ieithoedd."

Aeth staff rhaglen Ieithoedd i Bawb i'r seremoni wobrwyo THE yng Ngwesty Grosvenor House, Llundain ar 24 Tachwedd, fodd bynnag, y rhaglen a enillodd oedd "Tair Munud i Achub Bywyd" gan Brifysgol Wolverhampton a enillodd gategori Cefnogaeth Ragorol i Fyfyrwyr. Crëwyd y gweithdai i gynnig cymorth i fyfyrwyr sy'n meddwl am ladd eu hun, a hyd yma, mae bron i 200 o bobl wedi cael hyfforddiant ynglŷn â mynd i'r afael â hunanladdiad, hunan-niwed, a gwydnwch emosiynol. Mae'r rhain wedi addysgu staff i adnabod arwyddion cynnar mewn myfyrwyr sydd mewn perygl, gan esbonio sut i uwchgyfeirio pryderon mewn modd cymesur a thosturiol.

Rhannu’r stori hon