Ewch i’r prif gynnwys

Trawsnewid bywydau gyda chynllun cymunedol mwyaf uchelgeisiol y Brifysgol erioed

21 Hydref 2014

Grange Gardens

Mae pum prosiect i drawsnewid bywydau o dde Cymru i Affrica is-Sahara wedi cael eu dadorchuddio fel rhan o gynllun mwyaf uchelgeisiol erioed Prifysgol Caerdydd i gymunedau.

Bydd y Brifysgol yn gweithio gyda chymunedau ar faterion fel mynd i'r afael â thlodi, gan roi hwb i'r economi, a gwella iechyd, addysg a lles.

Bydd yna hefyd fanteision ar gyfer cynhwysiad cymdeithasol, llythrennedd digidol a'r iaith Gymraeg.

Mae Llywodraeth Cymru, y GIG yng Nghymru ac awdurdodau lleol, ymhlith eraill, yn chwarae rhan hanfodol i helpu sicrhau bod y prosiectau yn llwyddiant.

Mae'r weledigaeth hon o ymgysylltu â'r gymuned yn ategu cynlluniau'r Brifysgol - a gyhoeddwyd yn gynharach y mis hwn - i hybu economi Cymru drwy arloesi, sy'n canolbwyntio ar fuddsoddiad £300m mewn campws blaengar.

Mae'r gwaith ymgysylltu yn canolbwyntio ar gymunedau yng Nghymru, ond bydd y manteision yn cael eu teimlo cyn belled â de-orllewin Affrica, lle bydd un prosiect yn defnyddio arbenigedd y Brifysgol i achub bywydau ar y cyd â Phrifysgol Namibia.

Mae gan Brifysgol Caerdydd hanes hir o waith ymgysylltu llwyddiannus, ond nid yw erioed wedi ceisio gwneud unrhyw beth ar y raddfa hon o'r blaen.

Dywedodd yr Athro Colin Riordan, Is-Ganghellor Prifysgol Caerdydd: "Hwn yw cynllun mwyaf uchelgeisiol y Brifysgol hyd yn hyn i gymunedau, a'r ymgais mwyaf o ran meddwl ymlaen o'i fath mewn unrhyw brifysgol yn y DU.

"Bydd yn helpu i drawsnewid bywydau o stepen ein drws yn Grangetown, Caerdydd, i Namibia yn ne-orllewin Affrica.

"Bydd ein hymchwil o'r radd flaenaf yn elwa o falchder ac arbenigedd lleol i gynhyrchu rhywbeth arbennig iawn yn wir.

"Rwy'n hynod o falch o raddfa'r hyn yr ydym yn ceisio ei gyflawni.   Gallwn wneud gwahaniaeth gwirioneddol.

"Mae'r math hwn o waith yn bwysig i'n Prifysgol, sydd wedi cael hanes hir o ymgysylltiad dinesig ers ei sefydlu.

"Rydym bob amser wedi gweithio yn ein cymunedau mewn llu o ffyrdd a byddwn yn parhau i wneud hynny."

Ni fydd y gwaith yn bosibl heb gymorth y cymunedau eu hunain.

Mae'n ymagwedd a rennir rhwng y Brifysgol a'r cymunedau, gyda'r prosiectau'n cael eu siapio gan y rhai sy'n ymwneud â nhw.

Bydd effaith y gwaith yn cael ei fonitro'n ofalus.

Meddai Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones: "Mae'r prosiect uchelgeisiol hwn o Brifysgol Caerdydd i'w ganmol yn fawr.

"Bydd y pum prosiect a gyhoeddwyd heddiw yn gwneud gwahaniaeth sylweddol i gymunedau yng Nghymru ac Affrica Is-Sahara.

"Rwy'n dymuno pob llwyddiant i Brifysgol Caerdydd a'r cymunedau sy'n ymwneud â hyn ac rwy'n siŵr y bydd y manteision yn eang ac yn parhau."

Y pum prosiect ymgysylltu blaenllaw yw:

Mae gwaith y Brifysgol yn chwarae rhan allweddol wrth lunio Prifddinas-Ranbarth Caerdydd fel y mae'n ymdrechu i roi hwb i'r economi a chreu swyddi newydd. Mae'r rhanbarth yn cynnwys deg awdurdod lleol yn ne-ddwyrain Cymru Bro Morgannwg, Rhondda Cynon Taf, Merthyr Tudful, Caerffili, Caerdydd, Casnewydd, Blaenau Gwent, Torfaen, Sir Fynwy a Phen-y-bont.

Bydd trigolion yn gweithio gyda'r Brifysgol fel partneriaid cyfartal i ddod â chynlluniau arloesol yn fyw a fydd o fudd i'w cymuned, gan ddechrau yn Grangetown, Caerdydd.

Mae'r tîm yn awyddus i ddatblygu deg cynllun ac yn awyddus i glywed syniadau o'r tu mewn i'r gymuned ei hun.

Bydd Cymunedau nad oes ganddynt fynediad i newyddion lleol yn cael eu cefnogi i ddatblygu gwefannau newyddion hyperleol.  Mae rhai eisoes wedi eu sefydlu, gan gynnwys yn y Rhondda ac yng Nghaerdydd. Cam nesaf y tîm yw cefnogi Magnet Port Talbot.

Gan weithio ar y cyd â rhaglen Llywodraeth Cymru, Cymru o Blaid Affrica, bydd y prosiect hwn yn gweithredu yn Namibia ac yn anelu at gynnwys popeth o hyfforddi staff meddygol a hybu cyfathrebu, i gryfhau ieithoedd lleol a chynyddu sgiliau mathemateg ymhlith myfyrwyr.  Bydd hefyd yn cyfrannu at gyflawni Amcanion Datblygu'r Cenhedloedd Unedig ar gyfer y Mileniwm.  Mae'r Brifysgol wedi ymuno â Phrifysgol Namibia, a fydd yn chwarae rôl hanfodol yn y prosiect.

This project focuses on health and wellbeing, initially in north Merthyr and the Butetown, Riverside and

Mae'r prosiect yn canolbwyntio ar iechyd a lles, yn y lle cyntaf yn ardaloedd Caerdydd; gogledd Merthyr a Threbiwt, Glan yr Afon a Grangetown.  Mae gan bob un o'r ddwy ardal ei hanes unigryw, daearyddiaeth, economi a hunaniaeth eu hunain, ond maent yn rhannu lefelau tebyg o dlodi ac allgáu cymdeithasol ac economaidd.

Mae'r prosiectau yn ymrwymiad tymor hir gan y Brifysgol i'r cymunedau dan sylw a bydd yn gadael etifeddiaeth gref.

Y gobaith yw, lle y bo'n bosibl, y byddant yn y pen draw yn creu modelau hunangynhaliol.  Gallai hynny fod yn newyddiadurwyr cymunedol yn rhedeg eu gwefannau newyddion eu hunain, neu, yn dilyn cefnogaeth gan y Brifysgol, staff meddygol yn Namibia yn hyfforddi mwy o fyfyrwyr.

Bydd y Brifysgol hefyd yn elwa gan y bydd cyfle i academyddion, staff a myfyrwyr i gymryd rhan.

Dywedodd Roger Lewis, cadeirydd Bwrdd Prifddinas-Ranbarth Caerdydd: "Mae Prifysgol Caerdydd yn chwarae rhan ganolog nid yn unig wrth gynnal y Brifddinas-Ranbarth Caerdydd ond hefyd gyda Llywodraeth Cymru a Chyngor Caerdydd yn darparu adnoddau hanfodol.

"Heb y math o gefnogaeth y mae Prifysgol Caerdydd a'i phartneriaid wedi ei gyflenwi, ni allai'r Bwrdd fwrw ymlaen â'i agenda uchelgeisiol ar gyfer newid."

Dywedodd yr Athro Osmund Mwandemele, Dirprwy Is-Ganghellor, Materion Academaidd ac Ymchwil, Prifysgol Namibia: "Rydym yn credu'n gryf iawn na ddylai prifysgol, yn enwedig prifysgol Affricanaidd, ac ein un ni yn benodol, haeddu bodoli os na ellir chwarae'r rôl hollbwysig honno fel asiant newid ac felly mynd i'r afael â'r heriau sy'n wynebu cymdeithas drwy ddefnyddio ei bŵer ymennydd i ddod o hyd i atebion i'r heriau hynny.

"Mae Prosiectau Ymgysylltu Caerdydd yn gyfle arall i UNAM elwa o brofiadau sefydliad sydd ag athroniaeth debyg o ran ymgysylltu â'r gymuned.

"Mae UNAM yn edrych ymlaen at gymryd rhan weithredol yn y prosiectau ymgysylltu ardderchog hyn."

Rhannu’r stori hon