Ewch i’r prif gynnwys

Model 3D 'cyntaf erioed' o chwaren laeth

27 Hydref 2016

Model Mammary Gland v.1

Mae tîm o ymchwilwyr o Brifysgol Caerdydd a Sefydliad Darganfod Biofeddygaeth Monash wedi llwyddo i greu model tri dimensiwn o chwaren laeth fydd yn paratoi'r ffordd ar gyfer deall hanfodion canser y fron yn well.

Drwy ddefnyddio cymysgedd o ffactorau twf, roedd gwyddonwyr yn gallu tyfu celloedd tethi llygod a'u troi yn feinweoedd tethi tri dimensiwn.

'Organoid' yw'r enw ar y model hwn sy'n dynwared strwythur a swyddogaeth chwarren laeth go iawn. Mae hyn yn galluogi ymchwilwyr i wella eu dealltwriaeth o sut mae meinwe'r fron yn datblygu, ac mae'n rhoi model gweithredol ar gyfer astudio clefydau a sgrinio cyffuriau. Yn y dyfodol, gallai hyd yn oed helpu i greu meinweoedd newydd ar gyfer bronnau sydd wedi cael niwed.

Yn ogystal â phenderfynu sut i dyfu'r chwarenni realistig hyn, dysgodd yr ymchwilwyr sut i'w meithrin a'u cynnal hefyd er mwyn gallu cynnal arbrofion parhaus. Dyma'r tro cyntaf i hyn gael ei wneud mewn labordy.

Wrth egluro arwyddocâd yr ymchwil hon, dywedodd yr Athro Trevor Dale o Ysgol y Biowyddorau Prifysgol Caerdydd: "Hyd yma, mae llawer nad ydym yn ei wybod am sut mae meinweoedd y fron yn ymateb i stimwli allanol fel hormonau...”

“Er mwyn mynd i'r afael yn llawn â'r hyn sy'n achosi canser y fron, rhaid i ni ddeall yn y lle cyntaf sut mae meinweoedd iach y fron yn datblygu. Felly, mae datblygu model o fron gyffredin sy'n seiliedig ar strwythur chwaren laeth go iawn, wedi bod yn 'Greal Sanctaidd' i ymchwilwyr canser ers amser maith."

Yr Athro Trevor Dale Deputy Head of Molecular Biosciences Division

Ychwanegodd Dr Thierry Jarde, o Sefydliad Darganfod Biofeddygaeth Monash: "Mae'r model hwn yn caniatáu i ni astudio bioleg sylfaenol datblygiad y fron – sut mae hormonau yn gweithio a beth yw'r dylanwadau genetig. Maes o law, rydym yn gobeithio defnyddio'r model hwn ochr yn ochr â modelau o ganser y fron er mwyn sgrinio cyffuriau yn effeithiol."

Model Mammary Gland - v.2

Cyhoeddir yr ymchwil yn y cyfnodolyn Nature Communications.

Rhannu’r stori hon

Mae manylion llawn am ein rhaglenni PhD a MRes, yn cynnwys sut i ymgeisio, ar gael yn y darganfyddwr cwrs.