Ewch i’r prif gynnwys

Y Brifysgol yn penodi swyddog rygbi amser llawn

18 Hydref 2016

University Club Officers

Mae Prifysgol Caerdydd, Prifysgol Metropolitan Caerdydd a Phrifysgol De Cymru wedi penodi swyddogion i annog cymaint o ddynion a menywod â phosibl i chwarae rygbi ar bob lefel, gwella cysylltiadau ag ysgolion a chlybiau lleol, a rhoi cyfleoedd i fyfyrwyr arwain gweithgareddau hyfforddi a dyfarnu.

Mae Alun-Wyn Davies (Prifysgol Caerdydd), Louis Messer (Met Caerdydd) a Ben Daniels (Prifysgol De Cymru) wedi ymuno â thimau datblygu chwaraeon eu prifysgolion mewn da bryd ar gyfer dechrau'r flwyddyn academaidd, ac mae yna fuddiannau amlwg yn barod.

Mae'r swyddi hyn wedi eu hariannu'n rhannol gan Undeb Rygbi Cymru, a bydd y tri ohonynt yn ymuno â Llŷr Thomas o Brifysgol Aberystwyth, y swyddog rygbi cyntaf a benodwyd. Mae disgwyl y bydd prifysgolion eraill yn penodi swyddogion rygbi yn y dyfodol agos.

Mae cyfanswm o 87 o swyddogion wedi eu cyflogi gan sefydliadau academaidd ledled Cymru, ac o ganlyniad mae myfyrwyr gwrywaidd a benywaidd yn chwarae llawer mwy o rygbi o bob math ac ar bob lefel.

Dywedodd Stuart Vanstone, Pennaeth Chwaraeon ym Mhrifysgol Caerdydd: "Rydyn ni'n rhoi amrywiaeth o gyfleoedd chwarae, hyfforddi a gwirfoddoli i'n myfyrwyr gwrywaidd a benywaidd, a bydd y berthynas hon yn ein helpu i gynnig rhagor.

"Rydym yn ymwybodol nad oes gennym ddigon o adnoddau ar hyn o bryd i ateb y galw i fod yn rhan mewn mentrau rygbi, ac rydym yn hyderus y bydd bod yn rhan o'r cynllun hwn yn ein galluogi i gyflawni'n nod o gynyddu nifer y myfyrwyr sy'n chwarae rygbi, a manteisio ar y cyfleoedd ehangach sy'n deillio o hynny.

"Cynhaliwyd sgyrsiau yn barod â nifer o glybiau cymunedol ar bob lefel o'r gêm, sy'n cynnig llwybr ymlaen o rygbi yn y brifysgol, er mwyn cefnogi'r gêm yn lleol."

Dywedodd Adrian Evans, rheolwr cysylltiadau Undeb Rygbi Cymru: "Mae prifysgolion yn cynnig cyfle arbennig o dda i ddenu oedolion ifanc i bob math o rygbi, a'u hannog i barhau, a bydd cael swyddog rygbi yn golygu y bydd cyfleoedd ychwanegol i fyfyrwyr chwarae, ynghyd â hyfforddi, dyfarnu a rheoli gemau a thimau."

Rhannu’r stori hon

Ymunwch cyn i chi gyrraedd Prifysgol Caerdydd a dechreuwch ymarfer a gwneud ffrindiau newydd yn syth.