Ewch i’r prif gynnwys

Safbwyntiau Cristnogol ynghylch marwolaeth a marw

14 Hydref 2016

Church Pews

Bydd prosiect newydd a arweinir gan Brifysgol Caerdydd yn cynnig cyfleoedd i Gristnogion o ystod eang o gefndiroedd a gwahanol eglwysi drin a thrafod materion sy'n ymwneud â marwolaeth a marw.

Gyda marwolaeth yn dod yn bwnc trafod sy'n llai o dabŵ erbyn hyn, ochr yn ochr â'r technolegau meddygol sy'n gwneud penderfyniadau diwedd bywyd yn fwy cymhleth, bydd y cynllun yn ystyried yr amrywiaeth o safbwyntiau Cristnogol ar y mater.

Mae Safbwyntiau Cristnogol ynghylch Marwolaeth a Marw yn cynnwys cyfres o gynadleddau i'w cynnal ledled y DU i hyrwyddo trafodaeth gyhoeddus am farwolaeth a marw. Caiff ei ariannu gan yr elusen Paristamen CIO o Efrog.  Mae'r pynciau trafod yn cynnwys:

  • Sut mae gwerthoedd, credoau a ffydd grefyddol pobl yn llywio’u dymuniadau ynglŷn â’u gofal ar ddiwedd eu hoes?
  • Beth yw ‘Penderfyniad Ymlaen Llaw’ a beth yw’r gwahanol safbwyntiau Cristnogol ynghylch gwrthod triniaeth sy'n ymestyn bywyd?
  • Y dadleuon cymdeithasol, moesegol a diwinyddol ynglŷn â 'Chymorth i Farw’ gweithredol?

Bydd y prosiect blwyddyn o hyd yn cael ei lansio gyda’r ddwy gynhadledd gyhoeddus gyntaf yng Nghaerloyw (5 Tachwedd) a Chaerdydd (16 Tachwedd). Bydd y rhain yn cynnwys amrywiaeth eang o siaradwyr, gan gynnwys arweinwyr crefyddol ac arbenigwyr mewn agweddau cyfreithiol a meddygol o ofal diwedd oes.

Dyma rai o'r siaradwyr sydd wedi'u cadarnhau ar gyfer ddwy gynhadledd:

  • Y Parchedig Athro Paul Badham (y Drindod Dewi Sant)
  • Y Parchedig Gareth Powell (Ysgrifennydd y Gynhadledd Fethodistaidd)
  • Y Parchedig Dr. Royse Murphy (Esgobaeth Caerloyw)
  • Canon Rosie Harper (Esgobaeth Rhydychen)
  • Yr Athro Malcolm Johnson (Prifysgol Caerfaddon)
  • Robert Preston (Dignity in Dying),
  • Usha Grieve (elusen 'Compassion in Dying')
  • Yr Athro Sue Wilkinson ('Advance Decision Assistance')
  • Yr Athro Jenny Kitzinger ac Athro Celia Kitzinger (Canolfan Ymchwil Coma ac Anhwylderau Ymwybod, Prifysgolion Caerdydd/Efrog).

Arweinir y prosiect gan yr Athro Jenny Kitzinger o Ysgol Newyddiaduraeth, Cyfryngau ac Astudiaethau Diwylliannol Prifysgol Caerdydd.  Yn flaenorol, curadodd yr Athro Kitzinger Gŵyl Gelfyddydau 'Cyn i Mi Farw' yng Nghaerdydd yn 2014 ac mae'n arbenigo yn yr anawsterau moesegol a chyfreithiol sy'n wynebu teuluoedd sy'n rhan o'r broses o wneud penderfyniadau ar gyfer perthnasau mewn coma hirdymor.

Dywedodd yr Athro Jenny Kitzinger: "Mae'r fenter 'Safbwyntiau Cristnogol ynghylch Marwolaeth a Marw' newydd hon yn rhan o'r mudiad rhyngwladol i fynd i'r afael â heriau a godir gan feddygaeth yr 21ain ganrif a myfyrio ar faterion moesegol a chymdeithasol yr ydym oll yn eu hwynebu. Mae hwn yn gyfle i ddod ynghyd i fyfyrio ar ein gwerthoedd, credoau a ffydd, a sut y maent yn rhoi trefn ar y dewisiadau a wnawn – yn ogystal â dysgu am safbwyntiau diwinyddol gwahanol ar y materion hyn. Rydym yn gobeithio bydd y diwrnod hwn yn rhoi gwybodaeth hanfodol am ddewisiadau diwedd bywyd ac yn agor y sgwrs am farwolaeth."

Cydlynir y prosiect gan Julie Latchem, Gwyddonydd Cymdeithasol a ffisiotherapydd niwrolegol sy’n astudio am ei doethuriaeth ym Mhrifysgol Caerdydd.  Ychwanegodd:  "Rydym wedi’n calonogi gan faint o ddiddordeb ac ymgysylltu mae’r fenter yn ei chael gan y gymuned Gristnogol.  Mae llawer o bobl yn dweud wrthym yr hoffen nhw weld mwy o drafodaeth am farwolaeth, ac felly'n teimlo bod y prosiect o'r pwysigrwydd mwyaf."

Croesewir pawb i’r digwyddiadau a fydd yn cynnwys trafodaeth banel 'Penderfyniadau Ymlaen Llaw’ ('Ewyllysiau Byw'), y ddadl am 'Gymorth i Farw', yn ogystal â chelf, cerddoriaeth a theatr bypedau gysgod.

Gallwch gadw lleoedd ar gyfer y digwyddiad yng Nghaerloyw, a gynhelir rhwng 11.30am a 6.00pm yn Eglwys St Paul a St Stephen, Tredworth, Caerloyw yma.

Gallwch gadw lle ar gyfer y digwyddiad yng Nghaerdydd a gynhelir rhwng 9.30am a 5.00pm yn y Deml Heddwch ac Iechyd, Parc Cathays, Caerdydd yma.

Rhannu’r stori hon

Mae'r Ysgol yn ganolfan sydd ar flaen y gad ar gyfer addysgu ac ymchwil ym maes y cyfryngau.