Ewch i’r prif gynnwys

Pwyllgor Iechyd yn ymweld â Coleg y Gwyddorau Biofeddygol a Gwyddorau Bywyd

14 Hydref 2016

CPR Training

Yn ddiweddar, cafodd pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon y Cynulliad ei groesawu i Brifysgol Caerdydd mewn ymweliad â'r Coleg y Gwyddorau Biofeddygol a Gwyddorau Bywyd fel rhan o'u hymholiad i drefniadau recriwtio meddygol.

Cafodd yr Aelodau Cynulliad eu croesawu gan yr Athro Dylan Jones, Dirprwy Is-Ganghellor Coleg y Gwyddorau Biofeddygol a Gwyddorau Bywyd, cyn cael eu tywys ar daith o amgylch cyfleusterau'r Coleg.

Roedd y daith yn cynnwys ymweliad â'r cyfleuster efelychu a sgiliau o fewn yr Ysgol Feddygol, lle dysgodd yr ACau sut i ddefnyddio'r teclynnau mewn arddangosiad gan rai o fyfyrwyr meddygol y Brifysgol. Aeth yr ACau ar daith dywys o amgylch rhannau eraill o'r Coleg hefyd, gan gynnwys Ffisiotherapi, Nyrsio ac Iechyd Galwedigaethol.

Daeth y daith i ben gyda thrafodaeth am addysg ryngbroffesiynol dan arweiniad Dr Stephen Riley (Deon Addysg Feddygol) ac Elizabeth Evans (Uwch Ddarlithydd, Ffisiotherapi).

Wrth siarad ar ôl yr ymweliad, dywedodd Dr Stephen Riley, Deon Addysg Feddygol: "Roeddem yn hynod falch o groesawu'r Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon mawreddog i'r Coleg yn ddiweddar.

"Roedd yn galonogol gweld ACau yn ymddiddori yn ein gwaith ac yn dysgu mwy am sut rydym yn addysgu meddygon, nyrsys a gweithwyr iechyd y dyfodol. Ein gobaith yw y bydd yr ymweliad hwn yn eu cynorthwyo yn eu hymholiad i drefniadau recriwtio meddygol."

Ychwanegodd Cadeirydd Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon y Cynulliad, Dr Dai Lloyd AC: "Roedd y Pwyllgor yn falch iawn o ymweld ȃ Choleg y Gwyddorau Biofeddygol a Gwyddorau Bywyd Prifysgol Caerdydd i weld y gwaith a wneir i hyfforddi gweithwyr meddygol newydd, gan gynnwys rhai o'r cyfleusterau sydd ar gael ar gyfer hynny.

"Roedd yr ymweliad yn amserol iawn, oherwydd yn ddiweddar rydym wedi lansio ymholiad byr i drefniadau recriwtio meddygol, felly roeddem yn arbennig o falch o gael cyfle i drafod â'r myfyrwyr meddygol y ffactorau a allai dylanwadu ar eu penderfyniad i ymgymryd â hyfforddiant yng Nghymru ac i gael gyrfa yma ar ôl cymhwyso."

Rhannu’r stori hon

Rhan bwysig o baratoi’r gweithlu gofal iechyd ar gyfer heriau byd-eang yr 21ain ganrif.