Ewch i’r prif gynnwys

Climate change to have ‘little effect’ on common landslides

7 Hydref 2016

Avalanche
Image credit: G. Hancox, GNS Science

Astudiaeth newydd yn awgrymu na fydd y newid yn yr hinsawdd yn achosi tirlithriadau mwy aml mewn ardaloedd yr effeithir arnynt gan stormydd

Yn ôl ymchwil newydd gan Brifysgol Caerdydd, nid ydym yn debygol o weld tirlithriadau cyffredin yn fwy aml o ganlyniad i ragor o stormydd glaw.

Er bod amcanestyniadau y gallai stormydd glaw ddigwydd 10% yn fwy aml oherwydd y newid yn yr hinsawdd, mae arbenigwyr yn Ysgol Gwyddorau'r Ddaear a'r Amgylchedd wedi dangos mai prin iawn (llai na 0.5%) fydd y cynnydd o ran pa mor aml y bydd tirlithriadau bas yn digwydd yn y tymor hir.

Tirlithriadau bas yw'r math mwyaf cyffredin o dirlithriad, a glaw trwm sy'n achosi'r rhain yn aml. Maent yn digwydd o ganlyniad i gwymp mewn pridd, gan arwain at greu llifoedd cyflym a hynod beryglus o weddillion creigiau a mwd.

Mae'r canfyddiadau newydd, sydd wedi eu cyhoeddi yn y cyfnodolyn Scientific Reports, yn herio damcaniaethau cyfredol sy'n awgrymu y bydd nifer y tirlithriadau yn cynyddu yn ôl yr un gyfradd â rhagor o law.

Yn hytrach, mae canfyddiadau'r ymchwil yn dangos bod yr hyn sy'n ysgogi tirlithriadau yn dibynnu llawer mwy ar y pridd – neu'r casglifiad - ar lethrau bryniau serth, yn hytrach nag ar y glaw yn ystod stormydd.

Yn ôl yr ymchwilwyr, mae tirlithriadau bas yn digwydd pan mae'r pridd yn ymgasglu'n raddol ar ochr mynydd dros gyfnod hir iawn o amser. Gall hyn bara rhwng miloedd a degau o filoedd o flynyddoedd. Yn ystod storm, y dŵr daear sy'n llifo i'r un cyfeiriad, a'r glaw sy'n mynd i mewn i'r casglifiad, sy'n achosi tirlithriadau.

Wedi hynny, mae'n cymryd miloedd o flynyddoedd i'r pridd gronni unwaith eto ar ochr y mynydd cyn y gall tirlithriad ddigwydd eto. Felly, ychydig iawn o effaith y bydd stormydd mwy aml yn ei chael yn ystod y cyfnod hwn o ran pa mor aml y mae tirlithriadau yn digwydd.

Yn ôl Dr Rob Parker, o Ysgol Gwyddorau'r Ddaear a'r Amgylchedd: "Mae ein canlyniadau wedi dangos mai ychydig iawn o dirlithriadau ychwanegol sy'n cael eu hachosi o ganlyniad i lawer mwy o stormydd. Er bod arsylwadau yn awgrymu mai glaw trwm sy'n achosi tirlithriadau, y broses o gronni pridd dros gyfnod o filoedd o flynyddoedd cyn y tirlithriad yw'r ffactor pwysicaf o ran pa mor aml y mae tirlithriadau yn digwydd.

"Er ein bod yn disgwyl i dirlithriadau bas barhau i fod yn berygl mawr yn ein hinsawdd gwlypach yn y dyfodol, nid ydym yn disgwyl i dirlithriadau ddigwydd yn fwy aml yn yr un modd â gwaddodiadau eithafol."

Daeth y tîm ymchwil i'w casgliadau drwy gynnal ymchwiliadau maes ym Mynyddoedd Deheuol Appalachia. Edrychwyd yn benodol ar sut mae'r amser mae'n ei gymryd i'r pridd gronni yn effeithio ar ba mor aml yr achosir tirlithriadau. Aeth y tîm ati wedyn i ddefnyddio modelau cyfrifiadurol i gyfrifo sut y gallai peryglon tirlithriadau ddatblygu o ganlyniad i'r newid yn yr hinsawdd.

"Mae tirlithriadau yn berygl enfawr i fywyd a seilwaith, ac maent yn effeithio ar tua 12% o boblogaeth y byd sy'n byw yn y mynyddoedd," meddai Dr Parker.

"Yn ogystal â'r perygl uniongyrchol a achosir ganddynt, tirlithriadau yw prif ffynhonnell gwaddod ar fynyddoedd. O ganlyniad, caiff hyn effaith sylweddol ar systemau afonydd, gorlifdiroedd ac aberoedd, yn ogystal â rôl bwysig mewn cylchoedd biogemegol byd-eang.

"Mae goblygiadau tirlithriadau yn amlwg yn rhai pellgyrhaeddol, felly mae'n hanfodol ein bod yn cael gwell dealltwriaeth o sut y gallen nhw ddatblygu o dan amodau hinsawdd yn y dyfodol."

Rhannu’r stori hon