Diogelu’r Orang-Wtang sydd mewn perygl
16 Medi 2014
Mae astudiaeth arloesol a gynhaliwyd gan ymchwilwyr o'r Ysgol Biowyddorau wedi nodi ffyrdd newydd o ddiogelu'r orang-wtangiaid sydd mewn perygl yn Borneo. Archwiliodd yr ymchwil gyfleoedd i wella coridorau bywyd gwyllt mewn amgylchedd sy'n newid yn gyflym.
Mae mwy nag 80% o gynefin yr orang-wtang wedi cael ei ddinistrio dros yr 20 mlynedd ddiwethaf oherwydd trawsnewid amaethyddol. Mae orang-wtangiaid yn dibynnu ar y goedwig ar gyfer bwyd a chysgod. Mae darnio mewn coedwigoedd yn bygwth eu gallu i oroesi yn fawr. Mae tiriogaethau bach, ynysig ac agored yn y goedwig yn dod â bygythiadau cynyddol i boblogaeth yr orang-wtangiaid. Mae'r bygythiadau hynny yn debygol o gael eu gwaethygu gan newidiadau amgylcheddol megis newid yn yr hinsawdd.
Caiff coridorau bywyd gwyllt eu defnyddio i gysylltu tiriogaethau a ddiogelir sydd wedi'u darnio. Mae hyn yn caniatáu i'r anifeiliaid symud yn rhydd o un diriogaeth i'r llall sy'n arwain at fwy o amrywiaeth o ran genynnau ac yn lleihau effeithiau negyddol mewnfagu. Mae'r coridorau hyn yn ei wneud yn haws i anifeiliaid sydd mewn perygl ailsefydlu a goroesi. Mae sut a ble y caiff y coridorau hyn eu sefydlu yn seiliedig ar hyn o bryd ar ymchwil amgylcheddol yn y gorffennol a'r presennol. Mae'r astudiaeth newydd yn dangos y gall rhagamcaniadau o ran addasrwydd cynefinoedd yn y dyfodol wella effeithlonrwydd y coridorau mewn amgylchedd sy'n wynebu newid yn yr hinsawdd a thiriogaethau bywyd gwyllt sy'n lleihau ac yn cael eu darnio.
Meddai Dr Benoit Goossens o Ysgol Biowyddorau'r Brifysgol: "Mae ein canlyniadau yn awgrymu y dylai rheolwyr cadwraeth a'r sawl sy'n gwneud penderfyniadau ddefnyddio rhagamcaniadau o ran addasrwydd cynefinoedd a gaiff eu creu'n rhwydd i lywio penderfyniadau ar gadwraeth, megis lleoli coridorau cynefinoedd, fel eu bod yn effeithiol yn y tymor hwy.
"Budd yr ymchwil hon i boblogaethau orang-wtangiaid yw ei bod yn cyfarwyddo dylunio a lleoli coridorau'n well ar gyfer cadwraeth orang-wtangiaid. Bydd hyn hefyd yn helpu rhywogaethau eraill oherwydd bod newid yn yr hinsawdd yn effeithio ar bob rhywogaeth yn ddiarwahân. Yn yr astudiaeth hon, defnyddiom yr orang-wtang fel model ond bydd y wybodaeth a gawsom yn ddefnyddiol ar gyfer rhywogaethau mamaliaid eraill. Bydd gam nesaf ein hymchwil yn canolbwyntio ar sefydlu a gwella coridorau drwy adfer gwarchodfeydd torlannol o blanhigfeydd palmwydd olew, er mwyn hysbysu rheolwyr am y senarios gorau o ran coridorau."
Cafodd yr ymchwil ei hariannu gan Gyngor Ymchwil Awstralia a'i chefnogi gan Adran Bywyd Gwyllt Sabah, WWF Maleisia, Prosiect Cadwraeth Orang-wtangiaid HUTAN a Chanolfan Maes Danau Girang. Roedd y tîm yn cynnwys Dr Benoît Goossens o Brifysgol Caerdydd, Stephen Gregory, Damien Fordham a Barry Brook o Awstralia, yn ogystal â Marc Ancrenaz, Raymond Alfred a Laurentius Ambu o Sabah.