Ewch i’r prif gynnwys

Siel-syfrdandod a’r Rhyfel Byd Cyntaf

29 Medi 2014

World War 1

Mae ymchwilydd o Gaerdydd wedi edrych eto ar gofnodion achos o'r Rhyfel Byd Cyntaf, yn datgelu effaith drychinebus siel-syfrdandod ar filwyr ar y rheng flaen ynghyd â pha mor gyffredin ydoedd.

Am y tro cyntaf, mae Dr Stefanie Linden, sy'n seiciatrydd a chymrawd ymchwil clinigol yn Sefydliad Ymchwil y Niwrowyddorau ac Iechyd Meddwl Prifysgol Caerdydd, wedi dadansoddi'r gyfres lawn o gofnodion achos milwrol a ddaeth o Ysbyty Cenedlaethol  y Parlysedig a'r Epileptig yn Queen Square, Llundain (Yr Ysbyty Cenedlaethol er Niwroleg a Niwrolawdriniaeth erbyn hyn), sef prif ysbyty niwrolegol y cyfnod.

Cyhoeddwyd y dadansoddiad hwn yn y cyfnodolyn, Medical History, ac mae'n disgrifio sut gwnaeth yr ysbyty niwrolegol hwn yng nghanol Llundain newid i ymateb i nifer cynyddol y milwyr â siel-syfrdandod.

Meddai Dr Linden: "Mae canmlwyddiant y Rhyfel Byd Cyntaf wedi'n hatgoffa ni o'r dioddefaint aruthrol yn y ffosydd, ond hefyd am effaith barhaol y profiad o ryfel ar fywyd cyfan milwyr. Fe wnaeth yr adweithiau seicolegol i brofiadau trawmatig rhyfel gyrraedd epidemig a oedd y tu hwnt i unrhyw beth a welwyd mewn rhyfeloedd blaenorol.

"Cafodd yr epidemig 'siel-syfrdandod' hwn effaith ddofn ar fywydau milwyr yn y ffosydd a thu ôl iddynt, a chafodd effaith fawr ar forâl ar y ddwy ochr ar flaen y gad. Y tu hwnt i'w ddiddordeb hanesyddol, mae'r profiad o siel-syfrdandod wedi llywio pob model dilynol o anhwylderau trawmatig, gan gynnwys y drafodaeth bresennol ar statws anhwylder straen wedi trawma (PTSD)".

Derbyniodd yr Ysbyty Cenedlaethol ddioddefwyr o bob cwr o'r byd, gan gynnwys milwyr o Awstralia, Canada, De Affrica, Unol Daleithiau America, Gwlad Belg, Lloegr, Iwerddon, yr Alban a Chymru. Yn ystod blynyddoedd y rhyfel, cafodd pedwar ar ddeg o filwyr o Gymru a oedd yn dioddef siel-syfrdandod eu trin yn yr Ysbyty Cenedlaethol. Yn eu plith yr oedd y Corporal 29 oed o Gaerdydd, sef Corporal Llewellyn S, a fu'n gwasanaethu gyda Chatrawd 1af Cymru. Cyrhaeddodd Ffrainc ganol mis Tachwedd a dechrau ymladd yn syth ger Ypres. Yn ôl ei nodiadau meddygol, ymgwympodd ddechrau Mawrth 1915.

Dywedodd y nodiadau:
"Pan oedd mewn ysgubor, tarodd siel y to, ei chwythu i ffwrdd a rhoi'r ysgubor ar dân. Lladdwyd ei ddau gyfaill yn yr ysgubor a dechreuodd y swm mawr o ffrwydron rhyfel yno chwythu. Rhuthrodd allan wedi mewn llesmair, ond roedd wedi gallu cario ei gyfeillion marw ar stretsier am dair milltir i ysbyty, lle'r aeth yn sâl ei hun, yn cwyno am boen i fyny ei asgwrn cefn. Y noson honno yn yr ysbyty, rhedodd ar hyd y lle'n wyllt gyda gwn (heb ei llwytho) ac yna cafodd ffit."
O hynny ymlaen, roedd yn isel iawn, a dioddefodd hunllefau a phroblemau gyda'i gof.

Cafodd Cymro arall, sef Frank D 27 oed o Gasnewydd, a oedd yn Reifflwr ym Mrigâd Reifflau 1af Sir Fynwy, ei gladdu pan ffrwydrodd bom yn y ffos ar 26 Ebrill 1915. Fe'i hachubwyd ond bu'n crio am ddeuddydd. Ar yr un pryd, dechreuodd ei freichiau blycio. Fe'i trosglwyddwyd i Lundain lle y gwnaeth barhau i ddangos 'plycio cydamserol tebyg i fellt yn y ddwy fraich'.

Roedd milwyr â 'siel-syfrdan' yn dangos amrywiaeth fawr o symptomau, yn amrywio o gerddediad rhyfedd, siglo a pharlys, pryder, iselder, seicosis dros dro a symptomau tebyg i anhwylder straen wedi trawma, gydag ôl-fflachiadau a hunllefau. Ymhen amser, daeth meddygon o Brydain i'r casgliad na fyddai achosion o'r fath yn gallu dioddef straen y frwydr heb fynd yn sâl eto ac, felly, y dylid eu rhyddhau o'u dyletswyddau milwrol a dychwelyd i fywyd cyffredin.

"Mae hanes siel-syfrdan yn dangos sut gall ffactorau diwylliannol lywio'r ffordd y caiff trawma ei fynegi yn seicolegol ac mae'n parhau'n berthnasol i'r ymagwedd at anhwylderau trawmatig ac anhwylderau rhyfel heddiw", ychwanegodd Dr Linden.

Mae'r papur ymchwil llawn, a oedd yn rhan o radd PhD yng Nghanolfan y Dyniaethau ac Iechyd a ariennir gan Ymddiriedolaeth Wellcome yn King's College Llundain, i'w weld ar wefan Medical History: 'Shell shock' Revisited: An Examination of the Case Records of the National Hospital in London.

Pennawd y llun:© Yr Amgueddfa Ryfel Ymerodrol (Q 27814): Milwyr clwyfedig yn cael eu cludo mewn cadeiriau i'r methedig o amgylch gerddi 4ydd Ysbyty Cyffredinol Llundain