Ewch i’r prif gynnwys

Canlyniadau treial pwysig yn y DU ar gyfer trin canser y prostad

16 Medi 2016

cancer

Yn ôl yr astudiaeth fwyaf o'i math, mae monitro canser y prostad yr un mor effeithiol â chael llawdriniaeth a radiotherapi o ran goroesi ar ôl 10 mlynedd.

Mae canlyniadau'n dangos bod y tri math o driniaethau yn arwain at gyfraddau tebyg a hynod isel o farwolaeth o ganlyniad i ganser y prostad. Mae llawdriniaeth a radiotherapi yn lleihau'r risg o weld canser yn gwaethygu dros amser o'i gymharu â monitro parhaus, ond maent yn achosi sgil-effeithiau mwy annymunol.

Treial ProtecT, a arweinir gan ymchwilwyr ym Mhrifysgolion Rhydychen a Bryste mewn naw canolfan yn y DU, gan gynnwys Prifysgol Caerdydd, yw'r un gyntaf i werthuso pa mor effeithiol, cost-effeithiol a derbyniol yw'r tri math gwahanol o driniaethau: monitro parhaus, llawdriniaeth (prostadectomi radical) a radiotherapi i ddynion sydd â chanser y prostad sydd heb ledaenu.

Ymchwilwyr ym Mhrifysgol Caerdydd Cynlluniwyd fu'n gyfrifol am ddylunio ac arwain elfen radiotherapi'r treial.

Rhwng 1999 a 2009, cafodd 82,429 o ddynion rhwng 50 a 69 ledled y DU eu profi. Ymhlith y 1,643 ohonynt oedd â chanser y prostad oedd heb ledaenu, chytunodd 545 i gael eu monitro'n barhaus, 553 i gael prostadectomi radical, a 545 i gael radiotherapi radical.

Mesurodd y tîm ymchwil y cyfraddau marwolaeth ar ôl 10 mlynedd, gwaethygiad a lledaeniad y canser, a barn y dynion ynghylch effaith y triniaethau.

Daeth i'r amlwg i'r tîm fod y cyfraddau goroesi ymhlith y rhai oedd â chanser y prostad oedd heb ledaenu, yn uchel dros ben (tua 99%), waeth beth fo'r driniaeth a roddwyd.

Roedd cyfradd gwaethygu a lledaenu'r canser yn amrywio rhwng y grwpiau, gyda'r canser yn gwaethygu i un o bob pump yn y grŵp monitro parhaus, o'i gymharu ag 1 o bob 10 yn y grwpiau a gafodd lawdriniaeth a radiotherapi. Fodd bynnag, ni chafodd hyn effaith ar gyfraddau goroesi unrhyw un o'r grwpiau ar ôl 10 mlynedd.

Daeth i'r amlwg hefyd yn yr astudiaeth fod llawdriniaeth a radiotherapi yn achosi sgil-effeithiau annymunol, yn enwedig yn y flwyddyn gyntaf ar ôl cael triniaeth. Roedd y sgîl-effeithiau'n gwella ar ôl dwy i dair blynedd. Ar ôl chwe blynedd, fodd bynnag, roedd ddwywaith cynifer o ddynion yn y grŵp llawdriniaeth yn dal i golli wrin ac yn cael problemau â'u bywyd rhywiol, o'u cymharu â'r rhai mewn grwpiau monitro parhaus a radiotherapi. Roedd radiotherapi yn achosi mwy o broblemau gyda'r coluddyn na llawdriniaeth neu fonitro parhaus.

Ni chafodd unrhyw driniaeth ar unrhyw adeg effaith ar ansawdd bywyd yn gyffredinol, gan gynnwys o ran gorbryder ac iselder. Cafodd hanner y dynion eu monitro'n barhaus yn ystod y 10 mlynedd ac ni chafodd y rhain sgîl-effeithiau triniaethau.

Bydd gan ganfyddiadau'r astudiaeth ran allweddol yn y penderfyniad i sgrinio ar gyfer canser y prostad, a chaiff y rhain eu defnyddio'n rhan o astudiaeth sy'n ymchwilio i effeithiolrwydd a chost-effeithiolrwydd antigen prostad penodol (PSA) ar gyfer sgrinio canser y prostad, yr astudiaeth CAP.

Cafodd y treial ei ariannu gan y Sefydliad Cenedlaethol ar gyfer Ymchwil Iechyd (NIHR), ac mae wedi'i gyhoeddi mewn dau bapur yn y New England Journal of Medicine:

*          Mortality and Clinical Outcomes at 10 years’ Follow-up in the ProtecT Trial

*          Patient Reported Outcomes Over Six Years in the ProtecT Prostate Cancer Trial

Rhannu’r stori hon