Ewch i’r prif gynnwys

Cyfarfod cewri’r byd economaidd

19 Awst 2014

Meeting of economic minds

Mae Dr Andrew Crawley, sy'n Gymrawd Ymchwil yn Ysgol Fusnes Caerdydd, wedi'i wahodd i'r 5ed Cyfarfod Lindau am y Gwyddorau Economaidd ar ôl llwyddo mewn gweithdrefn ddethol ryngwladol hynod gystadleuol oedd yn cynnwys sawl cam.

Bydd 19 o enillwyr Gwobr Nobel a 460 o economegwyr ifanc yn cymryd rhan yn y cyfarfod mawreddog hwn. Mae'n cynnig cyfle i drafod arbenigedd economaidd yn agored, ac mae'n ysbrydoli trafodaethau ar draws diwylliannau a chenedlaethau ymhlith economegwyr ar draws y byd. Bydd yr economegwyr, sydd i gyd o dan 35 oed ac o dros 80 o wledydd, yn dod ynghyd i rannu eu gwybodaeth a'u profiadau. Byddant yn cael eu hysbrydoli a'u cymell yn ogystal ag ehangu eu rhwydweithiau o gysylltiadau.

Enillodd Dr Crawley Gymrodoriaeth Ymadawol Ryngwladol Ewropeaidd FP7 Marie Curie yn 2013. Yn rhan o'r ysgoloriaeth dair blynedd hon, mae ar secondiad dwy flynedd ym Mhrifysgol Illinois ar hyn o bryd yn ymchwilio i integreiddio modelau economaidd sy'n cael effaith ranbarthol.

Bydd y rhai sy'n mynd i'r cyfarfod yn cael cyfle i wrando ar ddarlithoedd a mynd i ddosbarthiadau meistr a gynhelir gan enillwyr Gwobr Nobel. Byddant hefyd yn cymryd rhan mewn sesiynau trafod i gyfnewid syniadau a safbwyntiau gydag enillwyr Gwobr Nobel a gwyddonwyr ifanc eraill. Diben y gynhadledd yw hwyluso trafodaethau o'r fath rhwng cewri'r byd gwyddonol, heddiw ac yfory.

"Rydw i ar ben fy nigon fy mod wedi cael lle yn Lindau. Mae'n ddigwyddiad unigryw, a dim ond unwaith y caf gyfle o'r fath o ystyried y gofynion o ran oed a ffyrnigrwydd y gystadleuaeth. Rydw i wedi dewis mynd i rai o'r dosbarthiadau meistr yn ystod y digwyddiad, ac rydw i'n gobeithio dysgu llawer am yr heriau y dylen ni gyw-wyddonwyr fynd i'r afael â nhw ym marn enillwyr Gwobr Nobel," meddai Dr Crawley.

Bydd Canghellor yr Almaen, Angela Merkel, yn traddodi'r prif anerchiad yn seremoni agoriadol y cyfarfod ddydd Mercher, 20 Awst. Daeth y Canghellor Merkel yn Aelod o Senedd Anrhydeddus Cyfarfodydd Enillwyr Gwobr Nobel Lindau yn 2007.

Cynhelir y 5ed Cyfarfod Lindau am y Gwyddorau Economaidd rhwng 19 a 23 Awst yn Llyn Constance yn yr Almaen. Bydd y nifer uchaf erioed (19) o enillwyr Gwobr Sveriges Riksbank mewn Gwyddorau Economaidd er cof am Alfred Nobel, a elwir y Wobr Nobel mewn Economeg fel arfer, yn cymryd rhan yn y cyfarfod – gan gynnwys Joseph Stiglitz, John Nash ac Edmund Phelps.