Ewch i’r prif gynnwys

Archwilio bioamrywiaeth afonydd Prydain

1 Awst 2016

River

Effaith bioamrywiaeth afonydd ar y cyflenwad unigryw o nwyddau a gwasanaethau fel pysgod a dŵr croyw, yw testun y Brif Ddarlith Wyddoniaeth  yn yr Eisteddfod Genedlaethol eleni.

Bydd Dr Siân Griffiths, sy’n rhan o Ysgol y Biowyddorau Prifysgol Caerdydd a Sefydliad Ymchwil Dŵr y Brifysgol, yn cyflwyno’r ddarlith am 1pm, ar Ddydd Iau, 4 Awst ac yn trafod y bygythiadau difrifol mae’r afonydd a’r cymunedau sy’n dibynnu arnynt yn eu hwynebu.

Bydd y cyflwyniad yn dechrau gyda throsolwg o orffennol a heriau’r dyfodol y mae afonydd a’u ffynonellau dŵr yn eu hwynebu a phroblemau diogelwch a chyflenwad dŵr. Drwy ddefnyddio bysellbadiau pleidleisio electronig, bydd y gynulleidfa yn cymryd rhan mewn pleidlais ryngweithiol unigryw. Ceir trafodaeth hefyd lle bydd ei hymatebion yn cael eu datblygu yn ddatrysiadau rheoli afonydd.  Daw’r sgwrs i ben gyda dangosiad ffilm fer gyda’r cynhyrchydd Teledu, Dr Rhys Jones, yn cyfrannu’r troslais, i archwilio sut gall rai o ddatrysiadau’r gynulleidfa gael effaith ar ddyfodol yr uwchdiroedd Cymreig.

Esboniodd Dr Griffiths sut gall bioamrwyiaeth effeithio ar y buddion mae’r afonydd yn eu rhoi i ni:

“Ceir dros 389,000 km o afonydd yn y DU a dyma rai o’n hasedau naturiol pwysicaf. Mae sicrhau bod nifer o organebau’r afonydd yn cydweithio gyda’i gilydd mewn gwe gymhleth o fywyd yn holl bwysig i brosesau’r afon i gyfrannu at loywi’r dŵr, pureiddiad a chynhyrchu rhywogaethau carismatig fel pysgod ac adar. Felly yn ogystal â’u gwerth diwylliannol holl bwysig, mae organebau’r afonydd hefyd yn cefnogi diwydiant dŵr y DU, gwerth £10 biliwn y flwyddyn.

“Mae’n achosi pryder bod y pwysau ar yr ecosystemau yn mynd i gynyddu yn y dyfodol ac mae’r gwasanaethau pwysig hyn yn y fantol wrth i ddefnydd tir ddwysau ac wrth i’r galw am ddŵr gynyddu wrth i’r hinsawdd barhau i newid. Rwyf wrth fy modd bod yr Eisteddfod yn rhoi sylw amserol i’r materion holl bwysig hyn.

Dyma gyfle gwych i mi arddangos sut y gall ymchwil a arweinir gan Brifysgol Caerdydd ac a gynhaliwyd gan bartneriaid yn uwchdiroedd Cymru, fod o fudd i dirweddau afonydd a’r cymunedau sy’n dibynnu arnynt.”

Mae Dr Griffiths yn ogystal yn cyflwyno arddangosiad ymarferol i’r cyhoedd ym mhabell Prifysgol Caerdydd, yn trafod effaith rhywogaethau estron ar ecosystemau brodorol yr afonydd.

Rhannu’r stori hon