Ewch i’r prif gynnwys

Newyddiadurwr Watergate yn dod i Gaerdydd

22 Mai 2013

Carl Bernstein

Caiff staff a myfyrwyr y cyfle i holi un o newyddiadurwyr mwyaf aruthrol y byd mewn digwyddiad yn y Brifysgol.

Bydd Carl Bernstein, a daflodd oleuni ar sgandal Watergate gyda Bob Woodward a arweiniodd at ymddiswyddiad Arlywydd America, Richard Nixon yn ystod y 1970au, yn ymweld â'r Ysgol Newyddiaduraeth, y Cyfryngau ac Astudiaethau Diwylliannol ddydd Gwener 24 Mai 2013.

Bydd yn cyflwyno darlith fer yn y Brif Ddarlithfa, Adeilad Julian Hodge ac ar ei hôl, bydd yr Athro Richard Sambrook, Cyfarwyddwr y Ganolfan Newyddiaduraeth yn yr Ysgol, yn arwain sesiwn holi ac ateb.

"Mae hwn yn gyfle unigryw i gyfarfod ag un o'r newyddiadurwyr ymchwiliadol mwyaf enwog yn y byd a'i holi," meddai'r Athro Sambrook. "Byddem yn annog pob un o'n myfyrwyr i gadw lle yn ogystal â staff eraill a myfyrwyr â diddordeb yn y maes hwn."

Mae'r digwyddiad ar agor i staff a myfyrwyr y Brifysgol a chaiff ei gynnal o 3.00pm hyd at 4.30pm ar 24 Mai. Mae tocynnau'n rhad ac am ddim ond mae'n rhaid eu cadw ymlaen llaw yma.

Rhannu’r stori hon