Ewch i’r prif gynnwys

Canlyniad Refferendwm yr UE

24 Mehefin 2016

President and Vice-Chancellor, Professor Colin Riordan
President and Vice-Chancellor, Professor Colin Riordan

Neges o'r Is-Ganghellor

Mae canlyniad refferendwm yr UE yn glir: maes o law, bydd Prydain yn gadael yr UE. Yn ôl pob tebyg, bydd y broses yn para am gyfnod sylweddol; ar hyn o bryd, nid yw’n bosibl dweud pa mor hir yn union, ond mater o flynyddoedd yn hytrach na misoedd.  Er y bydd cyfnod o ansicrwydd yn y cyfamser, a hynny yng nghyd-destun nifer o faterion sydd yn effeithio arnom, o ymchwil i faterion myfyrwyr a staffio, bydd gennym ddigonedd o amser i gadarnhau’r manylion, i ystyried y canlyniadau ac i ddod i ba farn bynnag sydd yn angenrheidiol. Byddwn yn cyflwyno gwybodaeth a chyngor manwl i gydweithwyr sydd yn ddinasyddion gwledydd eraill yr Undeb Ewropeaidd cyn gynted ag y bydd ar gael, ond mae hawliau cyflogaeth, preswylfod a hawliau eraill yn parhau i fod mewn grym. Nid oes disgwyl i hynny newid yn y tymor byr na’r tymor canolig. Tâl inni gofio bod llawer o gydweithwyr yn ddinasyddion gwledydd o’r tu allan i’r UE ac mewn rhai achosion maent wedi bod gyda ni ers blynyddoedd lawer. Dylid sicrhau myfyrwyr ac ymgeiswyr o wledydd eraill yr UE y bydd y Brifysgol yn anrhydeddu ei holl ymrwymiadau iddynt, ac eto, byddwn yn cyflwyno cyngor a chanllaw manwl cyn gynted ac y bydd ar gael. Bydd Universities UK yn gwneud cryn ymdrech er mwyn cael eglurder ar yr hyn a fydd yn digwydd o ran cyllid ymchwil yr UE, ac yn y cyfamser, dylem barhau i weithredu yn ôl yr arfer. Byddwn yn eich diweddaru’n rheolaidd fel y bo’n briodol.

Rydym yn ffodus o fyw mewn democratiaeth lle y gellir cael gwybod beth yw ewyllys y bobl a’i pharchu. Boed hynny drwy etholiad cyffredinol neu, drwy refferendwm, fel yn yr achos hwn, byddwn yn gweithio yng nghyd-destun canlyniadau penderfyniadau gwleidyddol tyngedfennol ac yn sicrhau’r canlyniadau gorau posibl i’r Brifysgol, ein myfyrwyr, ein staff a’n rhanddeiliaid. Rydym yma ers mwy na 100 mlynedd ac rydym wedi gweld newidiadau lawer. Rydym yn sefydliad a all addasu, sefydliad sydd yn uchelgeisiol ac yn llwyddiannus. Ni fydd hynny’n newid: yn y byd newydd hwn, rwyf yn hyderus y byddwn yn chwilio am y manteision gorau, nid yn unig i’r Brifysgol, ond i Gymru, y DU a’r byd.  Y dasg bwysig nawr yw inni uno, a manteisio ar y cyfleoedd a ddaw yn sgil gadael yr Undeb Ewropeaidd a pharhau i adeiladu ar ein llwyddiannau lu.

Rhannu’r stori hon