Ewch i’r prif gynnwys

Dathlu Dahl

17 Mehefin 2016

Magic book

Bydd cipolwg newydd ar fywyd a gwaith yr awdur enwog Roald Dahl yn cael ei rannu mewn cynhadledd fawreddog yn y Brifysgol.

Cynhelir Cynhadledd Canmlwyddiant Roald Dahl (16-18 Mehefin) gan Ysgol Saesneg, Cyfathrebu ac Athroniaeth y Brifysgol. Daw academyddion o bob cwrr o’r byd i fan geni Dahl er mwyn dathlu bywyd yr awdur a elwir yn 'storïwr gorau’r byd'.

Gan ganolbwyntio ar bynciau megis rhywedd, moesoldeb, iaith yn ogystal â geiriau Dahl mewn perfformiadau cerddorol, bydd y Gynhadledd yn ystyried ffyrdd newydd o werthfawrogi cyflawniadau a lle Dahl yn niwylliant yr ugeinfed ganrif a'r diwylliant cyfoes.

Bydd sesiynau llawn yn cael eu cynnal gan David Rudd, Athro Llenyddiaeth Plant ym Mhrifysgol Roehampton, a Donald Sturrock, awdur Storyteller: The Life of Roald Dahl a golygydd llythyrau Dahl.

Dywedodd yr Athro Damian Walford Davies, Pennaeth yr Ysgol Saesneg, Cyfathrebu ac Athroniaeth: "Wrth ddod ag ef "gartref" i Gaerdydd, mae'r gynhadledd yn ceisio edrych ar Dahl mewn ffyrdd llai cyfarwydd, ac asesu crynswth cymhleth a rhyngberthynol ei waith ar gyfer plant ac oedolion o safbwyntiau newydd, ffres sy'n berthnasol i flwyddyn ei ganmlwyddiant."

Caiff y rhai sy’n mynd i’r gynhadledd hefyd gyfle i ymweld â mannau arbennig i Dahl pan oedd yn ifanc yn rhan o daith wedi ei harwain gan y bardd a'r seicoddaearyddwr o Gaerdydd, Peter Finch. Cewch hefyd gyfle i archwilio llawysgrifau a deunydd gweledol o archif Roald Dahl yn Great Missenden, a mwynhau perfformiadau a darlleniadau dramatig o’i waith.

Un o uchafbwyntiau'r gynhadledd tri diwrnod fydd y digwyddiad cyhoeddus, Roald Dahl's Marvellous Medicine (16 Mehefin 2016) – cyfweliad difyr rhwng yr Athro Damian Walford Davies a Tom Solomon, Athro Niwroleg ym Mhrifysgol Lerpwl, a ofalodd am Roald Dahl ar ei wely angau yn Ysbyty John Radcliffe, Rhydychen.

Gan gofio'r fraint o gael trafodaethau fin nos yn yr ysbyty gyda Dahl, bydd yr Athro Solomon yn rhannu'r straeon y rhannodd Dahl ag ef. Bydd hefyd yn darllen o'i gyfrol newydd Roald Dahl's Marvellous Medicine, ac yn cynnig cipolwg newydd ar feddylfryd yr awdur tua therfyn ei fywyd.

Mae tocynnau ar gyfer Roald Dahl's Marvellous Medicine ar gael yn rhad ac am ddim, ond rhaid cadw lle ymlaen llaw. Cynhelir y sgwrs ar 16 Mehefin 2016 am 6.30pm yn Ystafell 0.16, y Ganolfan Addysgu Ôl-raddedig, Ysgol Busnes Caerdydd, Rhodfa Colum, Caerdydd, CF10 3EU.

Noddir y digwyddiad gan Fenter Gwyddoniaeth Dyniaethau Prifysgol Caerdydd, ac mae’n cael ei gynhyrchu mewn cydweithrediad â Chaerdydd Creadigol.

Rhannu’r stori hon