Cyfle i ennill Ysgoloriaethau cyfrwng Cymraeg i astudio ym Mhrifysgol Caerdydd
19 Mai 2016
Ysgoloriaethau Meddyliau Creadigol
Cynigir pum ysgoloriaeth israddedig gwerth £3,000 yr un i fyfyrwyr sydd am astudio'r Gymraeg ym Mhrifysgol Caerdydd.
Gofynnir i ymgeiswyr ateb y cwestiynau a ganlyn:
- Pam ydych chi’n dymuno astudio'r Gymraeg yng Nghaerdydd?
- Beth sy'n eich gwneud chi'n arbennig?
- Pam y dylai Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Caerdydd eich derbyn chi?
Gellir anfon y cais atom ar unrhyw ffurf – a bydd creadigrwydd y cais yn cael ei ystyried hefyd. Dyma rai syniadau ynglŷn â sut i gyflwyno'ch cais: fideo, podlediad, poster, cân, cyflwyniad, traethawd, cerdd... unrhyw beth! Byddwch mor greadigol â phosibl!
Anfonwch eich cais ar unrhyw ffurf at: cymraeg@caerdydd.ac.uk neu
Ysgol y Gymraeg, Adeilad John Percival, Prifysgol Caerdydd, Rhodfa Colum, CF10 3EU
Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau: 28 Chwefror 2017
Ysgoloriaethau Prifysgol Caerdydd
Rydym yn cynnig ysgoloriaethau gwerth £3,000 yr un i bob myfyriwr sy’n dod atom i astudio yn 2016 fel dewis cyntaf ac sydd wedi ennill graddau AAA yn eu pynciau Safon Uwch (neu gymhwyster arall cyfwerth).
Mae pob un o ysgoloriaethau Prifysgol Caerdydd gwerth £3,000. Taliadau mewn arian ydyn nhw ac nid oes prawf modd.
Y cyrsiau sydd yn gymwys ar gyfer mynediad 2016 yw:
- BA yn y Gymraeg
- BA Cymraeg ac Almaeneg
- BA Cymraeg ac Eidaleg
- BA Cymraeg ac Archeoleg
- BA Cymraeg a Sbaeneg
- BA Cymraeg ac Athroniaeth
- BA Cymraeg a Chymdeithaseg
- BA Cymraeg a Cherddoriaeth
- BA Cymraeg ac Addysg
- BA Cymraeg a Ffrangeg
- BA Cymraeg a Newyddiaduraeth
- BA Cymraeg ac Addysg Grefyddol
Er mwyn derbyn yr ysgoloriaeth mae'n rhaid:
- ennill graddau AAA yn eich pynciau Safon Uwch (neu gymhwyster arall cyfwerth)
- bodloni pob agwedd ar eich cynnig
- derbyn y cynnig i astudio ym Mhrifysgol Caerdydd yn bendant erbyn 31 Gorffennaf 2016
- bodloni ein holl delerau ac amodau.
Nid oes angen i chi wneud cais am yr ysgoloriaethau hyn. Cyhyd â’ch bod chi, erbyn 31 Gorffennaf 2016, wedi derbyn yn bendant y cynnig yr ydych chi wedi ei gael i ddilyn rhaglen gradd ddynodedig gan Brifysgol Caerdydd, cewch eich ystyried ar gyfer ysgoloriaeth yn awtomatig.
Darllenwch mwy am yr ysgoloriaethau a meini prawf mynediad.
Bwrsariaethau Prifysgol Caerdydd
Mae Bwrsariaethau Prifysgol Caerdydd ar gael i fyfyrwyr israddedig llawn-amser sy'n dod o gartrefi is eu hincwm a fydd yn cychwyn ar eu hastudiaethau israddedig ym mis Medi. Mae gwerth y Bwrsariaethau yn amrywio o £300 i £1,000 y flwyddyn. Am ragor o fanylion ewch i safle bwrsariaethau israddedig Prifysgol Caerdydd.
Ysgoloriaethau'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol
Fel arfer mae'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn cynnig oddeutu 150 o ysgoloriaethau i fyfyrwyr israddedig a fydd yn astudio drwy gyfrwng y Gymraeg. Mae'r ysgoloriaethau hyn werth £3,000 dros dair blynedd ac maent ar gael i fyfyrwyr cyfrwng Cymraeg a fydd yn cychwyn ar eu cyrsiau yn y Brifysgol yn y flwyddyn academaidd newydd.
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â swyddfa'r Ysgol neu ewch i wefan Coleg Cymraeg Cenedlaethol.