Ewch i’r prif gynnwys

Llwyddiannau tactegol a methiannau strategol – swyddfa Comisiynydd y Wyddeleg

18 Mai 2016

Mae academydd o Brifysgol Caerdydd wedi cyflwyno ymchwil am Gomisiynydd y Wyddeleg mewn trafodaeth a gynhaliwyd gan Ganolfan Ieithyddiaeth ac Ieitheg Prifysgol Rhydychen.

Cyflwynwyd yr astudiaeth achos am Iwerddon gan yr Athro Diarmait Mac Giolla Chríost o Ysgol y Gymraeg Prifysgol Caerdydd. Mae'r gwaith yn rhan o brosiect ymchwil o bwys a ariennir gan y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol (ESRC) am gomisiynwyr iaith Cymru, Iwerddon a Chanada.

Cynhaliwyd y digwyddiad ddydd Mawrth, 17 Mai 2016, ym Mhrifysgol Rhydychen, a hwn oedd y tro cyntaf i'r Athro Mac Giolla Chríost o Uned Ymchwil ar Iaith, Polisi a Chynllunio'r Brifysgol, gyflwyno'r canfyddiadau.

Cafodd y prosiect ei ddylunio i gael gwell dealltwriaeth o nodweddion amgylchedd lle ceir rheoleiddio da, rheoleiddiwr effeithiol a'r arferion rheoleiddio gorau. Edrychodd hefyd ar ddeilliannau rheoleiddio effeithiol mewn cysylltiad â rôl Comisiynwyr Iaith, gan edrych yn benodol ar Gomisiynydd y Wyddeleg.

Mae ymchwil yr Athro Mac Giolla Chríost wedi amlygu nifer o faterion a heriau mewn cysylltiad â rôl y Comisiynydd Iaith yn Iwerddon ac effaith newidiadau polisi ar siaradwyr y Wyddeleg. Roedd y papur a gyflwynwyd yn ystyried:

  • hunaniaeth amwys swyddfa Comisiynydd y Wyddeleg, rhwng bod yn rheoleiddiwr ac yn ombwdsmon
  • sut mae symud i ffwrdd o gydraddoldeb fel cysyniad ar gyfer y ddeddfwriaeth [Deddf Ieithoedd Swyddogol 2003] a greodd swyddfa Comisiynydd y Wyddeleg, wedi atgyfnerthu'r elfen docenistaidd mewn perthynas â statws statudol y Wyddeleg
  • gwrthwynebiad sefydliadol i elfennau o Ddeddf Ieithoedd Swyddogol 2003
  • effaith diffyg dylanwad y gyfundrefn reoleiddio ar y Gaeltacht (cadarnleoedd traddodiadol y Wyddeleg)
  • sut mae diffyg sylw gan gyfundrefn y Wyddeleg i'r Gaeltacht wedi golygu bod mwy o Saesneg yn ardal honno

Wrth sôn am ei ymchwil, dywedodd yr Athro Mac Giolla Chríost: “Roedd sefydlu swyddfeydd Comisiynwyr Iaith yn Iwerddon, Cymru a Chanada, yn gam pwysig er mwyn amddiffyn a hyrwyddo'r ieithoedd lleiafrifol yn y gwledydd hyn. Mae'n gwbl briodol ein bod yn ystyried hynt a helynt y swyddfeydd hyn a'u systemau cysylltiedig, a mynd i'r afael â meysydd sy'n peri pryder.

“Mae'r ymchwil gadarn yr ydym wedi'i chynnal yn amlygu nifer o wendidau a phroblemau. Mae hefyd yn cynnig ffyrdd ymarferol o fynd i'r afael â nhw.”

Mae'r Athro Mac Giolla Chríost, brodor o Iwerddon, yn arbenigwr ym maes lleiafrifoedd ieithyddol a chynllunio iaith. Mae'n Gymrawd o'r Gymdeithas Ddaearyddol Frenhinol a'r Gymdeithas Hanesyddol Frenhinol. Mae hefyd wedi gweithio fel ymgynghorydd arbenigol i nifer o sefydliadau gan gynnwys Senedd y DU, y Cynulliad, Menter Ucheldiroedd ac Ynysoedd yr Alban, a Chomisiwn Cydraddoldeb Gogledd Iwerddon.

Bydd yr Athro Mac Giolla Chríost yn ymweld ag Iwerddon yn yr Hydref i gyflwyno ei waith ym Mhrifysgol Cork.

Rhannu’r stori hon