Ewch i’r prif gynnwys

Gŵyl Adrodd Straeon Digidol

18 Mai 2016

storytelling

Mewn symposiwm a gynhelir yn y Brifysgol, bydd ffigurau dylanwadol o fyd adrodd straeon digidol a newyddiaduraeth yn trin a thrafod sut mae arferion newyddiadurol yn newid.

Drwy siarad ar ran yr Ysgol Newyddiaduraeth, y Cyfryngau ac Astudiaethau Diwylliannol, bydd yr Athro Jay Rosen o Brifysgol Efrog Newydd, a'r dogfennwr Daniel Meadows, arloeswr yn y mudiad adrodd straeon digidol, yn rhannu eu gwaith arloesol a chyfoes ynglŷn â chyfeiriad y diwydiant.

Bydd y symposiwm, a gynhelir ddydd Iau, 19 Mai 2016, yn edrych ar y cyfleoedd newydd i rannu gwybodaeth ac adrodd straeon a gynhyrchir gan lu o ffynonellau. Mae'r rhain y cynnwys cyfryngau cymdeithasol, newyddiaduraeth dinasyddion, cynnwys a gynhyrchir gan ddefnyddwyr, platfformau megis blogiau byw, yn ogystal â thechnegau cyflwyniadol ac ymchwiliol newydd sy'n gysylltiedig â newyddiaduraeth data.

Bydd hefyd yn ystyried yr heriau sy'n gysylltiedig â newidiadau cyflym o'r fath i arferion newyddiadurol a hunaniaethau proffesiynol.

Yn ei anerchiad, bydd yr Athro Rosen – sy'n awdur blaenllaw am newyddiaduraeth yn yr oes ddigidol – yn sôn am ei draethawd arloesol The People Formerly Known as the Audience. Bydd yn awgrymu bod cynulleidfa yn meddwl yn ddyfnach nag yr oedd wedi'i ystyried yn wreiddiol, a gallwn nawr ofyn: beth oedd y gynulleidfa?

Mae Daniel Meadows yn arloeswr ym maes ymgysylltiad cymunedol. Mae'n herio'r drefn arferol ac mae'n cydweithio ag eraill i gofnodi agweddau anghyffredin ar fywyd cyffredin. Gan ddefnyddio ei archif o straeon digidol, bydd Daniel yn rhannu 'teimladau mewn bywyd' y bobl sydd wedi cymryd rhan yn ei lu o brosiectau dros ddeugain mlynedd.

Mae'r siaradwyr eraill yn y symposiwm yn cynnwys Bolette Blaagaard (Prifysgol Aalborg), Irene Costera Meijer (Prifysgol Rydd Amsterdam), Matt Carlson (Prifysgol St Louis), Steen Steensen (Coleg Gwyddorau Cymhwysol Prifysgol Oslo ac Akershus), Neil Thurman (Prifysgol Munich), yn ogystal â Stuart Allan, Simon Cottle, Karin Wahl-Jorgensen, ac Andy Williams o Brifysgol Caerdydd.

Meddai'r Athro Karin Wahl-Jorgensen o'r Ysgol Newyddiaduraeth, y Cyfryngau ac Astudiaethau Diwylliannol a drefnodd y digwyddiad:

"I unrhyw un sydd â diddordeb mewn cyfryngau digidol a dyfodol newyddiaduraeth, rydym yn byw mewn cyfnod cyffrous. Rydym wedi trefnu Gŵyl Adrodd Straeon Digidol i dynnu sylw at ddatblygiadau newydd ac amlygu rhai o'r prif heriau a chyfleoedd i newyddiaduraeth fel proffesiwn – gan edrych ar ohebu lloeren, newyddiaduraeth robotaidd a rôl gynyddol blogiau byw, ymhlith llu o feysydd eraill. Diben ein digwyddiad yw annog academyddion ac ymarferwyr i drafod a chydweithio.

"Rwy'n falch iawn ein bod yn gallu cynnal yr ŵyl hon, diolch i grant hael gan Goleg y Celfyddydau, y Dyniaethau a'r Gwyddorau Cymdeithasol, a Chronfa Mentrau Ymchwil Rhyngwladol y Gwyddorau Cymdeithasol."

Mae'r Ŵyl Adrodd Straeon Digidol yn ddigwyddiad wythnos o hyd sy'n dathlu ac yn cwestiynu sut mae arferion ym maes newyddiaduraeth yn newid mewn byd digidol.

Mae'r digwyddiadau eraill sydd wedi'u cynnal yn ystod yr wythnos wedi trin a thrafod arloesedd a dulliau adrodd straeon mewn newyddiaduraeth gymunedol, yn ogystal â'r cyfleoedd a gynigir gan straeon digidol i roi llais i brofiadau cleifion a theuluoedd mewn cyd-destunau gofal iechyd.

Rhannu’r stori hon