Ewch i’r prif gynnwys

Hybu iechyd meddwl a lles mewn ysgolion

12 Mai 2016

mental health

Mae arbrawf ymchwil newydd yn cael ei gynnal i werthuso pa mor effeithiol yw hyfforddiant sy'n helpu athrawon i sylwi ar arwyddion a symptomau problemau iechyd meddwl ymhlith cydweithwyr a myfyrwyr.

Bydd astudiaeth a gynhelir gan ymchwilwyr o Brifysgol Caerdydd a Phrifysgol Bryste yn gwerthuso effeithiolrwydd ymyriad Lles mewn Addysg Uwchradd (WISE). Mae'r ymyriad yn cynnig hyfforddiant iechyd meddwl i staff ysgolion er mwyn iddynt sylwi ar salwch iechyd ymhlith cydweithwyr a myfyrwyr, cyn eu cyfeirio at gymorth arbenigol os oes angen.

Bydd 24 o ysgolion uwchradd ym Mryste a De Cymru yn cymryd rhan yn yr arbrawf. Bydd yn cynnwys rhoi hyfforddiant iechyd meddwl i hyd at un ar bymtheg aelod o staff a nodwyd gan eu cydweithwyr fel rhai a fyddai'n gallu cefnogi eu cymheiriaid yn dda. Bydd y staff hyn yn sefydlu gwasanaeth cyfrinachol i gefnogi cydweithwyr. Bydd grŵp ychwanegol o staff addysgu yn cael hyfforddiant iechyd meddwl er mwyn iddynt allu cefnogi myfyrwyr.

Bydd yr ymchwilwyr yn gwerthuso effaith ymyriad WISE ar iechyd a lles athrawon a myfyrwyr, yn ogystal â pha mor gost-effeithiol ydyw.  Bydd hefyd yn monitro ac yn cofnodi ei effaith ar iselder ymhlith athrawon, absenoldeb oherwydd salwch, bod yn y gwaith y tu hwnt i oriau arferol, yn ogystal â phresenoldeb a pherfformiad academaidd myfyrwyr.

Yn ôl Dr Rhiannon Evans o Ganolfan Datblygu a Gwerthuso Ymyriadau Cymhleth er mwyn Gwella Iechyd y Cyhoedd (DECIPHer), Prifysgol Caerdydd, sy'n arwain yr astudiaeth yng Nghymru: "Ceir tystiolaeth sy'n awgrymu bod lefelau uwch o salwch iechyd meddwl ymhlith athrawon o'u gymharu â phroffesiynau eraill. Gwyddwn hefyd bod disgwyl cynyddol i staff addysgu gynnig cefnogaeth emosiynol i fyfyrwyr, ond anaml iawn y maen nhw'n cael hyfforddiant digonol i allu cyflawni'r rôl yma. Bwriad yr ymyriad yw newid y diwylliant o ran sut mae ysgolion yn trafod iechyd meddwl a lles. Mae hefyd yn ceisio rhoi sgiliau mawr eu hangen i staff ysgolion."

Rhaglen Ymchwil Iechyd y Cyhoedd y Sefydliad Cenedlaethol ar gyfer Ymchwil Iechyd sy'n ariannu'r astudiaeth. Iechyd Cyhoeddus Cymru sy'n talu costau'r ymyriad yng Nghymru, ac Iechyd Cyhoeddus Lloegr a Chyngor Dinas Bryste sy'n eu talu yn Lloegr.

Rhannu’r stori hon