Ewch i’r prif gynnwys

Anrhydeddu staff a myfyrwyr ar restr fer Cyfoethogi Bywyd y Myfyrwyr

30 Ebrill 2025

Enwebeion eleni: Huw Pritchard, Owain Sion a Rebecca Rumsey
Enwebeion eleni: Huw Pritchard, Owain Sion a Rebecca Rumsey

Mae tri aelod o gymuned Ysgol y Gyfraith a Gwleidyddiaeth wedi cael eu cydnabod ar restr fer gwobrau Cyfoethogi Bywyd y Myfyrwyr eleni.

Mae Gwobrau Cyfoethogi Bywyd y Myfyrwyr yn cydnabod gwaith caled y staff a’r myfyrwyr sydd wedi gwneud cyfraniad cadarnhaol ym maes profiad myfyrwyr. Caiff y gwobrau eu cynnal yn flynyddol gan Brifysgol Caerdydd ac Undeb y Myfyrwyr. Eleni, daeth 1,950 o enwebiadau i law mewn 16 o gategorïau.

Un sydd wedi cyrraedd rhestr fer y categori ‘Hyrwyddwr Addysg Gymraeg' yw Dr Huw Pritchard, sy’n Uwch Ddarlithydd yn y Gyfraith. Mae’r categori yma’n tynnu sylw at fyfyriwr neu aelod o staff sy'n fodel rôl ar gyfer y Gymraeg, yn annog eraill i ddefnyddio'r iaith ac yn creu cyfleoedd i ymgysylltu â diwylliant a hanes Cymru.

Wrth siarad am ei enwebiad, dywedodd Dr Pritchard, "Mae'n bleser cael fy enwebu ar gyfer gwobrau Cyfoethogi Bywyd y Myfyrwyr ac mae'n gyfnod cyffrous i'r tîm addysgu cyfrwng Cymraeg yn Ysgol y Gyfraith. Rydyn ni’n edrych ymlaen at gyflwyno rhagor o gyfleoedd i fyfyrwyr astudio'n ddwyieithog drwy gymorth cyfrwng Cymraeg penodol a sicrhau bod darpariaeth cyfrwng Cymraeg yn rhan o’n modiwlau craidd.”

Mae Owain Sion, myfyriwr Gwleidyddiaeth yn yr ail flwyddyn, a Rebecca Rumsey, myfyriwr Gwleidyddiaeth yn y drydedd flwyddyn, wedi cael eu cydnabod yn y categori ‘Gwobr y Llywydd’. Diben Gwobr y Llywydd yw cydnabod myfyrwyr sydd wedi mynd yr ail filltir er mwyn gwneud profiad y myfyrwyr yn well i’w cyfoedion.

Mae Owain yn aelod brwd o gymuned Gymraeg y Brifysgol ac yn rhan o Gymdeithas Gymraeg Prifysgol Caerdydd, Y GymGym ac Undeb Myfyrwyr Cymraeg Caerdydd (UMCC). Wrth siarad am gyrraedd y rhestr fer, dywedodd Owain, "Mae'n fraint enfawr cael eich enwebu ynghyd ag unigolion a grwpiau sydd wedi gwneud cymaint i hyrwyddo a gwella bywyd myfyrwyr o amgylch y campws. Mae’r gydnabyddiaeth hon yn deillio o waith caled fy ffrindiau yn Y GymGym, Undeb Myfyrwyr Cymraeg Caerdydd a’r gymuned Gymraeg ehangach - rwy’n ddiolchgar am eu cymorth a’u cefnogaeth dros y flwyddyn ddiwethaf ac yn edrych ymlaen at weithio gyda nhw yn y dyfodol.”

Daw enwebiad Rebecca yn sgil ei gwaith yn Swyddog Menywod a sylfaenydd ymgyrch Amser i Weithredu, sy’n mynd i’r afael â chamymddygiad rhywiol. Mae hi wedi cynrychioli myfyrwyr ar draws y Brifysgol wrth ymdrin â'r mater hwn ac wedi cynrychioli myfyrwyr ledled y wlad o flaen Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU. Dywedodd Rebecca, "Rwy mor ddiolchgar i gael fy enwebu ochr yn ochr â phobl anhygoel sydd wedi gweithio mor galed i wella bywyd yma ym Mhrifysgol Caerdydd. Ni fyddai hyn wedi bod yn bosibl heb y bobl anhygoel sy’n rhan o ymgyrch Amser i Weithredu; maen nhw’n ymroi pob munud i wella’n cymuned a fyddai’r ymgyrch ddim wedi llwyddo heb eu gwaith caled. Rwy’n falch iawn fy mod i’n adnabod pob un ohonyn nhw.”

Bydd Gwobrau Cyfoethogi Bywyd y Myfyrwyr yn cael eu cynnal mewn seremoni wobrwyo ar 9 Mai. Pob lwc i bawb!

Rhannu’r stori hon