Ewch i’r prif gynnwys

Mae dysgwr gydol oes wedi cyrraedd rownd derfynol gwobr genedlaethol o bwys

30 Ebrill 2025

Scott Bees
Scott yn ail o'r chwith gyda’i gyd-enwebeion a Jamie Laing dde pellaf

Roedd Scott Bees yn arfer dosbarthu post i'w gymdogion yn Nhrelái cyn dychwelyd i'r ystafell ddosbarth i astudio archaeoleg ym Mhrifysgol Caerdydd.

Cafodd y newid gyrfaol enfawr hwn ei gydnabod mewn seremoni wobrwyo yng Ngwobrau Israddedig y Flwyddyn 2025 sy’n cydnabod dysgwyr gydol oes sy’n dilyn her newydd.

Bum mlynedd yn ôl, penderfynodd Scott, sy'n 36, ymrestru ar Lwybr Archwilio'r Gorffennol Dysgu Gydol Oes. Mae'r llwybr yn cynnig y ffordd o astudio gradd hanes, archaeoleg neu grefydd. Mae Scott bellach ym mlwyddyn olaf ei BSc Archaeoleg. Dyma’r hyn a ddywedodd:

“Ar ôl cael plant yn ifanc a heb wneud yn dda yn yr ysgol, ro’n i'n meddwl mai swyddi di-nod oedd fy nyfodol hyd nes imi ymddeol. Yn dilyn y llwybr, newidiodd y ffordd rwy’n ystyried y gorffennol, ond ar ben hynny y ffordd rwy’n ystyried fy nyfodol fy hun. Rwy’n edrych ymlaen sut gymaint at y seremoni.

“Pan agorais i’r e-bost gyda'r enwebiad, roedd yn rhaid imi edrych arno’r eilwaith. Felly, dyma fi’n ei ailddarllen yn ofalus. Ac unwaith eto. Roedd yn cymryd tipyn o amser imi ddeall fy mod i wedi cyrraedd yr deg gorau o blith 250 o enwebiadau i ennill Gwobr Cyfle Newid Gyrfa Clifford Chance. Y sioc ddaeth gyntaf, ac yna’r anghrediniaeth. Ac wedyn, wrth i'r realiti wawrio, dyma’r cyffro yn cydio ynddo i.

Roedd fy nghalon ar garlam, ac ro’n i’n methu â stopio gwenu. Roedd gwybod bod fy hynt addysgol a’r holl risgiau ro’n i wedi’u cymryd yn cael eu cydnabod mewn ffordd mor fyw—roedd yn deimlad anhygoel, un na fydda i byth yn ei anghofio.

“I feddwl mai dim ond pum mlynedd yn ôl ro’n i’n cerdded tua wyth milltir y dydd, gan ddosbarthu post i bobl yn fy milltir sgwâr. Ond dyma fi bum mlynedd yn ddiweddarach yn cael effaith maes rwy wedi'i edmygu ers blynyddoedd lawer, felly mae cyrraedd rownd derfynol gwobr genedlaethol o bwys ychydig yn anghredadwy o hyd.

Hyn oll yn dilyn ymholiad syml a anfonais i at Dr Paul Webster a oedd wedi fy annog i gofrestru ar Lwybr Archwilio'r Gorffennol, gan newid fy mywyd yn llwyr. Fyddwn i ddim lle rydw i nawr heb y staff anhygoel ac mae arno i ddyled fawr iddyn nhw. Mae dysgu gydol oes mor bwysig ac wedi dod yn rhan annatod o fy mywyd.”

Dyma a ddywedodd Dr Paul Webster, Cydlynydd Llwybr Archwilio'r Gorffennol:

“Mae pob un ohonon ni’n hynod falch o Scott. Mae wedi cyflawni cymaint dros y pum mlynedd ddiwethaf ac mae wedi cael cydnabyddiaeth haeddiannol yn y seremoni wobrwyo genedlaethol hon. Anrhydedd oedd cael gweithio gyda Scott ar Lwybr Archwilio'r Gorffennol a’i weld yn datblygu, yn magu hyder ac yn cyflawni ei uchelgais. Llongyfarchiadau Scott!”

Rhannu’r stori hon