Mae myfyrwyr yn helpu pobl leol i gyrchu gwasanaethau hollbwysig
29 Ebrill 2025

Mae Dysgu Gydol Oes Prifysgol Caerdydd yn cynnig cyrsiau cyfieithu ar y pryd sy'n cyflwyno myfyrwyr i weithio yn y sector a gwirfoddoli i helpu pobl leol i gyrchu gwasanaethau hollbwysig.
Mae llawer o'n cyrsiau'n cael eu cyflwyno ar y cyd â 'Let's Interpret’, prosiect lleol sy'n cefnogi menywod dwyieithog ac amlieithog sy'n byw yng Nghaerdydd i ddatblygu a defnyddio eu sgiliau iaith, er budd iddyn nhw a'u cymuned.
Zora Jackman sy’n arwain y rhaglen cyfieithu ar y pryd ac mae wedi gweld drosti’i hun yr effaith drawsnewidiol y mae dysgu yn ei chael ar fyfyrwyr. Dyma’r hyn a ddywedodd:
“Braint yw cael gweld dros y blynyddoedd sut mae ein myfyrwyr yn magu hyder, yn dysgu oddi wrth ei gilydd ac yn cefnogi ei gilydd yn ystod y cwrs a thu hwnt. Rwy wedi gweld sut maen nhw’n defnyddio eu gwybodaeth newydd, gan helpu eu cymunedau a gwneud defnydd da o'u sgiliau iaith yn broffesiynol. Yn fyr – cymuned ymarfer sydd yma.”
Roedd Dr Sara Jones, Cydlynydd Dysgu Gydol Oes yn bresennol mewn dwy seremoni wobrwyo ddiweddar lle mae myfyrwyr wedi cael tystysgrifau am gwblhau eu modiwlau cyfieithu ar y pryd. Dyma a ddywedodd Sara:
“Peth gwych oedd cwrdd â’n myfyrwyr a chael gwybod sut mae eu hastudiaethau wedi eu harwain at gyfleoedd cyflogaeth a gwirfoddoli. Mae’r adborth a gawn yn gadarnhaol ac mae’r holl fyfyrwyr yn cytuno bod helpu pobl i gyrchu gwasanaethau iechyd, cyfreithiol ac addysgol yn rhoi boddhad mawr.”
Astudiodd Dayana Espinoza Camau Cyntaf at cyfieithu ar y pryd ym maes Gwasanaethau Cyhoeddus a dyma a ddywedodd:
“Mae’r cwrs wedi gwella fy hunanhyder. Bellach, galla i gyfieithu ar y pryd mewn ffordd gywir a phroffesiynol. Roedd yn gwrs gwych, yn llawn dysgu a datblygu parhaus. Cefais y cwrs hwn yn arbennig o ddefnyddiol yn fy ngyrfa ac i barhau i wirfoddoli.”