Ewch i’r prif gynnwys

Staff and students shortlisted for Enriching Student Life Awards

28 Ebrill 2025

Enriching Student Life Awards banner

Mae aelod o staff a myfyriwr yn yr Ysgol Daearyddiaeth a Chynllunio wedi cyrraedd y rhestr fer ar gyfer Gwobrau Cyfoethogi Bywyd y Myfyrwyr.

Mae Gwobrau Cyfoethogi Bywyd y Myfyrwyr yn cydnabod gwaith caled y staff a’r myfyrwyr sydd wedi gwneud cyfraniad cadarnhaol ym maes profiad myfyrwyr. Caiff y gwobrau eu cynnal ar y cyd rhwng Prifysgol Caerdydd ac Undeb y Myfyrwyr.

Yr Athro Antonio Ioris sydd wedi cyrraedd y rhestr fer yn y categori Profiad Dysgu Mwyaf Eithriadol, ac mae’r myfyriwr, Jason Sze, wedi cyrraedd y rhestr fer yng nghategorïau Gwobr y Llywydd a Hyrwyddwr Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant.

Cyflwynodd staff a myfyrwyr dros 1,950 o enwebiadau ar gyfer y gwobrau eleni.

Dywedodd yr Athro Ioris: “Dysgu yw’r math pwysicaf o ryddhad a chydnabyddiaeth gymdeithasol. Mae'n brofiad gwych sydd ond yn bosibl drwy ymgysylltiad difrifol a chreadigol myfyrwyr, ac addysgwyr yn dysgu ac yn meddwl gyda'i gilydd.

“Haelioni fy myfyrwyr a’u hymrwymiad i waith academaidd beirniadol, trawsnewidiol sydd y tu ôl i’r enwebiad hwn, sy’n arbennig iawn i mi.  Rwy’n falch iawn ohonynt - maen nhw eisoes yn gwneud gwahaniaeth nodedig yn y byd.”

Dywedodd Jason Sze: “Mae ymdrechion eleni i hyrwyddo amrywiaeth a chynwysoldeb yng nghymuned ein prifysgol, gan ennill cydnabyddiaeth gan Brifysgol Caerdydd ac Undeb Myfyrwyr Caerdydd, yn wirioneddol werth chweil.

“O gynnal digwyddiad cyntaf yr Wythnos Groeso yn benodol ar gyfer myfyrwyr rhyngwladol, i ddarparu mwy o ystafelloedd tawel yn yr ysgol yn ystod Ramadan, ni fyddai’r newidiadau ystyrlon hyn wedi bod yn bosibl heb gefnogaeth y staff. Mae eu parodrwydd i gofleidio syniadau newydd, cydweithio â myfyrwyr, a rhoi’r syniadau hynny ar waith wedi bod yn allweddol wrth feithrin cymuned fwy amrywiol a chynhwysol.”

Mae dyrchafu a dathlu bywyd myfyrwyr yn genhadaeth sylfaenol i’r Brifysgol, ac mae’r gwobrau’n chwarae rhan allweddol wrth roi cyfle i ddathlu cyfraniadau’r myfyrwyr a’r staff sy’n mynd yr ail filltir.

Eleni, daeth 1,950 o enwebiadau i law mewn 16 o gategorïau.

Rhannu’r stori hon