SPARK yn cynnal arddangosfa ymchwil ar anabledd
25 Ebrill 2025

Yr wythnos diwethaf, cynhaliwyd Arddangosfa Ymchwil ar anabledd yn Sbarc, gan ddod ag ymchwilwyr, llunwyr polisïau, a sefydliadau partner ynghyd i dynnu sylw at waith traws-ddisgyblaethol Prifysgol Caerdydd ym maes anabledd a chynhwysiant.
Cyflwynwyd y digwyddiad, a gynhaliwyd yn adeilad sbarc|spark, ar y cyd gydag Anabledd Cymru, Cymdeithas Pobl Byddar Prydain (BDA), yr Athro Debbie Foster (Ysgol Busnes Caerdydd), a Rhwydwaith Rhyngddisgyblaethol Caerdydd ar Anabledd (CIND).
Roedd y digwyddiad yn lle bywiog ar gyfer myfyrio, rhannu gwybodaeth, a deialog ar bolisi - pob un yn seiliedig ar ethos o gyd-gynhyrchu, ar brofiadau bywyd, a chyfiawnder cymdeithasol.
Diwrnod o Syniadau, Lleisiau ac Effaith
Agorodd yr arddangosfa gyda chyflwyniad gan yr Athro Debbie Foster, Cyd-gadeirydd Tasglu Hawliau Anabledd Llywodraeth Cymru, a rannodd gipolwg ar ei hymchwil a datblygiad y Cynllun Gweithredu Hawliau Anabledd, sy’n destun ymgynghoriad cyhoeddus y Gwanwyn hwn.
Yn dilyn hyn, cafwyd cyfraniad gan Rhian Davies, Prif Swyddog Gweithredol Anabledd Cymru, a drafododd sut y gall cyd-gynhyrchu ymchwil gyda phobl anabl drawsnewid perthnasedd a chyrhaeddiad gwaith academaidd.
Yna, cafwyd cyfres o gyflwyniadau cyflym, cyflwyniadau wedi’u recordio ymlaen llaw, a phosteri gan ymchwilwyr o bob rhan o Brifysgol Caerdydd, gan gynnwys Ysgolion y Gwyddorau Cymdeithasol, Cyfrifiadureg a Gwybodeg, Meddygaeth, Seicoleg a Busnes. Roedd yr arddangosfa’n trafod ystod eang o bynciau yn gysylltiedig ag Is-grwpiau’r Tasglu, gan gynnwys:
- Plant Anabl a Phobl Ifanc
- Cyflogaeth ac Incwm
- Mynediad at Gyfiawnder
- Cludiant Hygyrch
- Tai
- Byw'n annibynnol a Gofal Cymdeithasol
- Byw'n annibynnol a Iechyd a Lles
- Cyfathrebu a Gwasanaethau Cyhoeddus (gan gynnwys Technoleg)
Bu Cadeiryddion Is-grwpiau’r Tasglu a oedd yn bresennol – Damian Bridgeman, Willow Holloway, Angharad Price, Joe Powell a Natasha Hirst ynghyd â Debbie a Rhian – wedyn yn myfyrio ar y cyfraniadau oedd yn ymwneud â’u thema.
Daeth y diwrnod i ben gyda chyfraniadau gan banel o gadeiryddion tasgluoedd a llunwyr polisïau i drafod dyfodol ymchwil sy’n ymwneud ag anabledd yng Nghymru, a sut y gall y byd academaidd a’r llywodraeth weithio’n agosach i hyrwyddo hawliau pobl anabl.
Cydweithio Cymunedol ar Graidd y Gwaith
Bu’r digwyddiad yn llwyddiant diolch i gydweithrediad grŵp ymroddedig o bartneriaid a chyfranwyr. Diolch yn arbennig i gydweithwyr o Sbarc, Anabledd Cymru, Cymdeithas Pobl Byddar Prydain, Ysgol Busnes Caerdydd a sefydliad sy’n tyfu sef Rhwydwaith Rhyngddisgyblaethol Caerdydd ar Anabledd, a chwaraeodd ran hanfodol wrth lunio’r rhaglen a hysbysebu’r digwyddiad, yn ogystal ag i Gadeiryddion Is-grwpiau Tîm Ymateb i Ddatgeliadau a rannodd eu harbenigedd ar y diwrnod.
This SPARK Research Showcase event enabled us, through such collaboration, to bring together a dynamic community of academics, partners and policy makers to share and learn about a rich body of research on disability and its potential for real-world impact. The spirit of the day was one of shared curiosity, openness to collaboration and creativity in approach and it felt like important new connections were made.
Beth Nesaf?
Mae'r digwyddiad wedi sbarduno momentwm newydd ar gyfer ymchwil, ymgysylltu ac effaith ym maes anabledd. Rydyn ni’n edrych ymlaen at barhau â’r sgyrsiau pwysig hyn yn Sbarc a ledled Prifysgol Caerdydd, mewn cydweithrediad â’n partneriaid a’r gymuned ehangach sy’n ymwneud ag anabledd.
Os hoffech chi ragor o wybodaeth neu gymryd rhan mewn gweithgareddau yn y dyfodol, cysylltwch â: skeelsa@caerdydd.ac.uk