Ewch i’r prif gynnwys

Penodi uwch-academydd i Fwrdd Cynghori Cyngor Ymchwil y Celfyddydau a’r Dyniaethau

28 Ebrill 2025

Image of white female with mid-length grey hair wearing glasses
Yr Athro Claire Gorrara

Claire Gorrara, Athro Astudiaethau Ffrengig yn Ysgol Ieithoedd Modern Prifysgol Caerdydd a Deon Ymchwil ac Arloesedd yng Ngholeg y Celfyddydau, y Dyniaethau a'r Gwyddorau Cymdeithasol, sydd wedi ei phenodi i Fwrdd Cynghori Cyngor Ymchwil y Celfyddydau a'r Dyniaethau (AHRC).

Mae Bwrdd Cynghori AHRC yn cynnwys academyddion a chynrychiolwyr o sefydliadau y tu hwnt i’r maes addysg uwch. Diben y bwrdd yw rhoi cymorth i ddatblygu gweledigaeth AHRC a’i rhoi ar waith er mwyn atgyfnerthu’r gwaith yng nghyd-destun ehangach Ymchwil ac Arloesedd y DU.

Mae cyngor y bwrdd yn dangos y profiad,  arbenigedd a gwybodaeth yr aelodau am yr heriau a'r cyfleoedd sy'n wynebu ymchwil y celfyddydau a’r dyniaethau, arloesedd ac ymarfer. Bydd yr Athro Gorrara yn ymuno â’r bwrdd am o leiaf tair blynedd ac yn dod â phrofiad helaeth o weithio’n ymchwilydd, cydweithiwr amlddisgyblaethol ac arweinydd ymchwil strategol yn canolbwyntio ar arloesedd, diwylliant ac effaith.

Wrth ymateb i’r newyddion dywedodd yr Athro Gorrara: "Rwy'n falch iawn o fod yn ymuno â Bwrdd Cynghori AHRC ar adeg hollbwysig i ddyfodol y celfyddydau a'r dyniaethau yn y DU ac yn fyd-eang. Mae'n fraint cael cyfrannu at waith hanfodol yr AHRC wrth hyrwyddo gwerth y celfyddydau â'r dyniaethau."

“Rwy wedi ymrwymo i eirioli dros ein cymunedau ymchwil ac yn frwdfrydig am yr effaith y mae ymchwilwyr ac ysgolheigion ym maes y celfyddydau a’r dyniaethau yn ei chael ar y byd, a phwysigrwydd y gwaith hwn mewn cyfnodau heriol.’’

Roedd yr Athro Roger Whitaker, Rhag Is-Ganghellor Ymchwil ar gyfer Arloesedd a Menter Prifysgol Caerdydd yn croesawu’r newyddion: "Llongyfarchiadau mawr i Claire ar ei phenodiad i Fwrdd Cynghori AHRC. Gan fy mod wedi gweithio'n agos gyda Claire am nifer o flynyddoedd, rwy'n gwybod y bydd hi’n gwneud cyfraniad sylweddol i genhadaeth yr AHRC.

"Mae gan Claire brofiad academaidd, gwybodaeth a brwdfrydedd sylweddol i’w cynnig. Bydd Claire yn parhau i fod yn eiriolwr brwd dros werth ymchwil ym maes y celfyddydau a’r dyniaethau yn ei swydd newydd, a'r cyfleoedd a’r manteision i bobl a lleoedd yn sgil ymchwil.”

Mae'r Athro Gorrara yn uwch academydd yn yr Ysgol Ieithoedd Modern ac yn gyn-bennaeth yr Ysgol. Yn Gymrawd y Gymdeithas Ddysgedig Cymru a’r Gymdeithas Hanes Frenhinol, yr Athro Gorrara yw arweinydd academaidd y prosiect mentora ieithoedd tramor modern hefyd - prosiect Cymru gyfan sy’n defnyddio mentora i hyrwyddo amlieithrwydd ac annog disgyblion ysgolion uwchradd i astudio iaith ryngwladol. Rhoddwyd y wobr Chevalier dans l'Ordre National du Mérite i’r Athro Gorrara gan Lywodraeth Ffrainc yn 2023 ar gyfer gwasanaethau i iaith a diwylliant y wlad a hyrwyddo amlieithrwydd.

Rhannu’r stori hon

Y Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil (REF) yw’r system a ddefnyddir i asesu ansawdd ymchwil yn sefydliadau addysg uwch y DU.