Lansio adnoddau hyfforddi newydd i gefnogi defnyddio data iechyd mewn treialon clinigol
16 Ebrill 2025

Mae ymchwilwyr o Ganolfan Treialon Ymchwil Prifysgol Caerdydd yn helpu timau treialon ledled y DU i fanteisio ar bŵer data iechyd cleifion gyda chyfres newydd o fodiwlau hyfforddi ar-lein sy’n rhad ac am ddim.
Wedi'i lansio trwy blatfform HDR UK Futures, mae'r prosiect TOP-CAT (Trawsnewid Deilliannau drwy ddefnyddio data iechyd mewn Hyfforddiant Treialon Clinigol) yn cynnig adnoddau ymarferol a hygyrch i gefnogi ymchwilwyr, rheolwyr data, ystadegwyr a chyfranwyr cyhoeddus sy'n gweithio ar dreialon sy'n defnyddio data gofal iechyd sy’n cael eu casglu’n rheolaidd.
Mae data gofal iechyd arferol yn cyfeirio at wybodaeth sy’n cael ei gasglu yn rhan o ofal clinigol bob dydd - megis cofnodion ysbyty, ymweliadau â meddygon teulu, presgripsiynau, a chanlyniadau profion diagnostig. Pan fyddan nhw’n cael eu defnyddio'n ddiogel ac yn gyfrifol, mae gan y data hyn y potensial i wneud treialon yn gynt, yn fwy effeithlon, ac o bosibl yn fwy cynhwysol.
Mae gwneud y gorau o'r math hwn o ddata yn gofyn am ffyrdd newydd o feddwl, gweithio a chydweithio. Dyna pam mae'r adnoddau TOP-CAT wedi'u cynllunio i fwrw goleuni ar y broses, magu hyder, a chynnig arweiniad clir i bawb sy'n ymwneud â’r treialon - o ystadegwyr a rheolwyr data i staff clinigol a chyfranwyr cyhoeddus. Drwy sicrhau bod yr adnoddau hyfforddi hyn ar gael am ddim, nod y prosiect yw helpu timau ledled y DU i ymgorffori defnydd data arferol mewn mwy o dreialon yn fwy hyderus.
Mae dau fodiwl manwl a thri fideo byr eisoes wedi’u cyhoeddi, sy'n ymdrin â phynciau sy'n amrywio o ddefnyddioldeb data i bwysigrwydd ymddiriedaeth y cyhoedd mewn treialon sydd wedi’u llywio gan ddata. Bydd cynnwys ychwanegol yn dilyn yn nes ymlaen eleni wrth i'r tîm barhau i ddatblygu ac ymateb.
Rydyn ni’n gwybod bod awydd gwirioneddol yn y gymuned dreialon i ddefnyddio data iechyd cyffredin – ond rydyn ni hefyd yn cydnabod bod heriau unigryw o weithio gyda’r math hwn o ddata. Lluniwyd yr adnoddau newydd hyn i gwrdd â thimau lle maen nhw ac i helpu i feithrin hyder wrth gynllunio a chynnal treialon sydd wedi’u llywio gan ddata.
Nod yr adnoddau, sydd wedi'u cynllunio gyda mewnbwn gan dreialwyr profiadol a chyfranwyr cyhoeddus, yw meithrin dealltwriaeth ym mhob rôl sy'n ymwneud â threialon, nid staff technegol yn unig. Gellir defnyddio pob modiwl yn adnodd hyfforddi annibynnol neu’n rhan o raglenni datblygu presennol mewn timau ymchwil.
Ymhlith y pynciau sydd ar gael ar hyn o bryd mae’r canlynol:
- Cyflwyniad i ddata systemau gofal iechyd - egluro cysyniadau allweddol a pham mae'r data hwn yn bwysig.
- Astudiaethau cymharu defnyddioldeb data (DUCkS) – trin a thrafod dulliau ar gyfer cymharu setiau data o dreialon a data cyffredin i brofi pa fathau o ddata sy’n cael eu casglu’n rheolaidd sy’n addas at ddibenion ategu neu ddisodli deilliannau a gesglir mewn treialon
- Ymddiriedaeth y cyhoedd a grwpiau nad ydyn nhw’n cael eu gwasanaethu’n ddigonol – strategaethau ar gyfer ymgysylltu â’r cyhoedd yn foesegol a chynhwysol mewn treialon sydd wedi’u llywio gan ddata
I gael mynediad at y modiwlau hyfforddi a'r fideos, ewch i blatfform HDR UK Futures.
Mae'r Ganolfan Ymchwil Treialon ym Mhrifysgol Caerdydd yn uned treialon clinigol cofrestredig gyda UKCRC sy’n cael ei hariannu gan Lywodraeth Cymru drwy Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru. Mae TOP-CAT yn rhan o raglen Trawsnewid Data ar gyfer Treialon a ariennir gan HDR UK.
Rhannu’r stori hon
Darganfyddwch fodiwlau ymarferol ar-lein newydd wedi’u cynllunio i helpu timau treialon i ddefnyddio data iechyd rheolaidd yn fwy hyderus ac effeithiol.