Ewch i’r prif gynnwys

Dau grant o bwys gwerth mwy na £1.6 miliwn wedi’u dyfarnu i ymchwilwyr allu ymchwilio i salwch meddwl difrifol

29 Ebrill 2025

Dyfarnwyd i ymchwilwyr o’r Ysgol Meddygaeth a’r Ysgol Seicoleg ym Mhrifysgol Caerdydd  ddau grant Iechyd Meddwl a Niwrowyddoniaeth yr Ymddiriedolaeth Wellcome gwerth dros £1.5 miliwn i ymchwilio i’r namau gwybyddol sydd wrth wraidd salwch meddwl difrifol, megis sgitsoffrenia.

Dyfarnwyd £779,000 i'r Athro Anthony Isles o'r Ganolfan Geneteg a Genomeg Niwroseiciatrig (CNGG) i ymchwilio i'r llwybrau niwroddatblygiadol sy'n sail i namau gwybyddol a heneiddio cynamserol yr ymennydd a welir mewn achosion o salwch meddwl difrifol megis sgitsoffrenia.

Bydd yr Athro Isles yn gweithio’n rhan o gonsortiwm rhyngwladol ar y prosiect pum mlynedd, gwerth £3.4 miliwn, sy’n dwyn yr enw “The glue that holds the pieces together: unlocking cognitive health in psychotic disorders,” dan arweiniad yr Athro Esther Walton ym Mhrifysgol Caerfaddon. Diben y prosiect yw deall y broses o heneiddio'r ymennydd ar lefel y gell.

Anthony Isles
“Rydyn ni ar ben ein digon yn cael ein cyllido ar gyfer yr ymchwil hon. Bwriad y prosiect yw deall yr achosion cellog sydd wrth wraidd heneiddio cynamserol yr ymennydd, a hynny at ddibenion helpu i nodi triniaethau effeithiol ar gyfer unigolion sy'n byw gyda salwch meddwl difrifol. Bydd yn ein galluogi i nodi triniaethau effeithiol ac i leddfu namau gwybyddol yn achos salwch seicotig yn gynnar.”
Yr Athro Anthony Isles Athro, Is-adran Meddygaeth Seicolegol a Niwrowyddorau Clinigol

Er mwyn gwneud hyn, bydd ymchwilwyr yn defnyddio setiau data niwroddelweddu ar raddfa fawr, samplau proteomig cynnar gan unigolion a aeth ymlaen i ddatblygu seicosis yn y pen draw, dulliau cyfrifiadurol datblygedig, a modelau llygod arbrofol          at ddibenion deall sgitsoffrenia sy'n rhan o raglen MURIDAE dan arweiniad yr Athro Isles ym Mhrifysgol Caerdydd.

Rhoddwyd ail grant o £870,000 i'r Athro Krish Singh a'r Athro Neil Harrison o Ganolfan Ymchwil Delweddu'r Ymennydd Prifysgol Caerdydd (CUBRIC) i astudio meddwl anhrefnus mewn unigolion sydd â salwch meddwl difrifol, megis sgitsoffrenia ac anhwylder deubegynol.

Unwaith eto, bydd y ddau athro’n gweithio’n rhan o gonsortiwm rhyngwladol ar brosiect pum mlynedd, gwerth £5 miliwn, sy’n dwyn yr enw 'DIALOG'. Yn y prosiect hwn, byddan nhw’n defnyddio modelau iaith mawr o leferydd i ddarganfod gwybodaeth newydd am anhwylder meddwl mewn unigolion sydd â salwch meddwl difrifol.

Mae’r consortiwm hwn dan arweiniad yr Athro Lena Palaniyappan o Brifysgol McGill yn Montreal, a bydd yn taflu goleuni newydd ar un o’r agweddau mwyaf amlwg ar seicosis, ond ar yr un pryd, un sydd heb ei ddeall yn dda.

Neil Harrison
“Mae meddwl anhrefnus yn broblem hynod bwysig i bobl sy'n byw gyda salwch meddwl difrifol ond, eto i gyd, nad yw’n cael ei ddiagnosio’n dda iawn a chyfyng iawn yw’r triniaethau ar ei gyfer. Mae’r tîm a gasglwyd ynghyd gan Lisa yn un gwirioneddol ragorol, ac mae Krish a finnau’n edrych ymlaen yn fawr at weithio gyda nhw i wella’r ddealltwriaeth ac i drosi hyn yn fuddion y byd go iawn ar gyfer ein cleifion.”
Yr Athro Neil Harrison Athro Clinigol mewn Niwroddelweddu

Bydd ymchwilwyr yn defnyddio sganiau  magnetoenceffalograffi (MEG) gan dros 600 o gyfranogwyr a recriwtiwyd mewn prosiect a ariennir gan Lwyfan Iechyd Meddwl UKRI-MRC o'r enw Hyb yr Ymennydd a Genomeg dan arweiniad yr Athro Harrison a Chyfarwyddwr CNGG, yr Athro James Walters.

Mae’r ddau brosiect wedi’u hariannu gan yr Ymddiriedolaeth Wellcome, sy’n cefnogi ymchwil sy’n darganfod atebion yng nghyswllt tair her iechyd yn fyd-eang: iechyd meddwl, clefydau heintus, a'r hinsawdd ac iechyd.

Rhannu’r stori hon