Mae’r Sefydliad Arloesi Sero Net wedi bod yn cyflwyno ymchwil ym Mhrifysgol Taylor
23 Awst 2024
Mae Dr Marco Jano Ito, Arweinydd Thema Techno-economaidd a Chylch Oes y Sefydliad Arloesi Net Zero wedi bod yn cyflwyno ymchwil yn 21ain Gynhadledd Peirianneg Ryngwladol EURECA ym Mhrifysgol Taylor's ym Maleisia.
Mae'r gynhadledd yn canolbwyntio ar feithrin gwybodaeth a rhannu profiad ar ymchwil ar dechnolegau glân, ynni adnewyddadwy a phrosiectau sy’n arloesi ym myd diwydiant.
Cymerodd Dr Ito ran mewn trafodaeth banel am brosiect Ocean REFuel, sef rhaglen pum mlynedd sy’n ymchwilio i botensial harneisio gwynt ar y môr ac ynni morol adnewyddadwy i gynhyrchu hydrogen a thanwydd amonia di-garbon.
Wedyn, cafwyd trafodaeth ar y bylchau posibl rhwng byd diwydiant ac ymchwil mewn prifysgolion ac arferion cynaliadwyedd mewn gwaith bob dydd.
Traddododd Dr Ito brif araith, gan gyflwyno’r Sefydliad Arloesi Sero Net, nodau’r sefydliad a Phrifysgol Caerdydd. Canolbwyntiodd hefyd ar arloesi sy'n ymwneud â chynaliadwyedd, gan edrych yn benodol ar ei waith ar economeg dechnegol a chyfuno'r wybodaeth hon yn rhan o ddadansoddi systemau ac ystyr hyn i ymchwilwyr sydd eisiau gwneud gwaith tebyg ym Maleisia. Gorffennodd y cyflwyniad drwy sôn am y ffyrdd posibl o ddefnyddio’r ymchwil i ateb materion cynaliadwyedd ym Maleisia a'r rhanbarth.
Bydd Dr Ito yn teithio i Shanghai yn nes ymlaen yn 2024 i gyflwyno gwaith ar economeg dechnegol yn y Symposiwm ar Ynni Amonia.