Pa mor hawdd yw byw drwy’r Gymraeg yn ein prifddinas?
5 Mai 2016
Gan Osian Morgan, myfyriwr blwyddyn gyntaf, BA yn y Gymraeg
Wrth gofio nôl i’r adeg hon llynedd, roeddwn yn wynebu’r penderfyniad anodd o ddewis rhwng prifysgolion Cymru ar gyfer dechrau gradd BA Cymraeg ym mis Medi. Un o’r ffactorau oedd yn dylanwadu ar fy newis, oedd pa mor hawdd fyddai i mi fyw drwy gyfrwng y Gymraeg yn y prifysgolion gwahanol. Nid cyfrinach mo’r ffaith fod Caerdydd, fel dinas, dipyn llai Cymraeg nac Aber a Bangor, ond a olyga hynny nad yw’n bosib byw drwy’r Gymraeg yng Nghaerdydd? Yn yr erthygl hon, rwyf am drafod yr amryw ffyrdd y gall myfyrwyr Cymraeg ddefnyddio’r Gymraeg yn ein prifddinas.
Mae amryw o gymdeithasau Cymraeg yn y Brifysgol, ac un o’r rhai mwyaf, yw’r Gym-Gym (Y Gymdeithas Gymraeg), a chanddi gannoedd o aelodau. Os ydych yn 'Gofi' neu’n 'Hwntw', yn fyfyriwr glas neu ôl-raddedig, mae croeso cynnes i bawb yn y Gym-Gym. Un o weithgareddau mwyaf poblogaidd y Gym-Gym, yw’r ‘crôls’ a drefnir yn fisol, ac mae’n debyg y byddai gweld grŵp o dros gant o bobl ifanc yn cerdded i mewn i dafarn yn rhoi gwên ar wyneb perchennog tafarn yng Nghaernarfon, heb sôn am Gaerdydd! Mae’r ‘crôls’ yn gyfle gwych i gyfarfod â phobl newydd a chymdeithasu drwy'r heniaith.
Heb os, digwyddiad mwyaf ar galendr y Gym-Gym yw’r tripiau Rygbi i Ddulyn neu Gaeredin i weld Cymru’n chwarae (a churo gobeithio) Iwerddon a’r Alban. Er hyn, nid eistedd mewn tafarn yn Nulyn yn yfed Guinness drwy'r dydd yw unig ymrwymiad y Gym-Gym i’r byd chwaraeon. Mae ganddynt dimau pêl-droed, rygbi, a phêl-rwyd sy’n cystadlu’n wythnosol yn erbyn timau o gymdeithasau eraill yn y Brifysgol, sy’n ffordd wych o gadw’n heini tra’n siarad iaith ein Tadau.
Yn ogystal â’r Gym-Gym, eleni, ail-sefydlwyd Cymdeithas Iolo, sef cymdeithas i fyfyrwyr Cymraeg y ddinas a hoffa gymryd rhan mewn digwyddiadau diwylliannol Cymraeg a Chymreig, megis gweld dramâu Cymraeg, a chael ‘Stomp’ flynyddol yn erbyn darlithwyr adran Gymraeg y brifysgol.
Mae Caerdydd hefyd yn le gwych i ddilynwyr cerddoriaeth Gymraeg. Cynhelir noswaith o gerddoriaeth Gymraeg yn fisol gan Glwb Ifor Bach, sy’n gyfle gwych i wrando ar fandiau cyfoes cerddoriaeth Cymraeg. Yn ogystal â Chlwb Ifor, cynhelir ambell gig Gymraeg ym mar Gwdihŵ, ac mae’r cyfleusterau yn yr Hen Lyfrgell, a agorwyd eleni, yn addas ar gyfer cynnal ‘gigs’ hefyd, felly mae digon o gyfleodd i fwynhau cerddoriaeth Cymraeg yn y ddinas.
I’r rhai sydd a fwy o ddiddordeb mewn cerddoriaeth draddodiadol, mae ymuno â Chôr Aelwyd y Waun Ddyfal yn gyfle penigamp i gymryd rhan mewn eisteddfodau ac i gyfarfod mwy fyth o Gymry Cymraeg. Côr llwyddiannus iawn yw’r Waun Ddyfal, ond nid ar y llwyfan yn unig y maent yn llwyddo, gan eu bod yn llwyddo hefyd i uno Cymry Cymraeg y ddinas, i gymdeithasu yn y Gymraeg, ac i fwynhau’r profiad o gymryd rhan yn rhai o weithgareddau traddodiadol ein diwylliant.
Felly, mae hi’n llawer haws na fyddai rhywun yn ei ddychmygu i fyw drwy’r Gymraeg yng Nghaerdydd, gan fod gymaint o gyfleoedd a sefydliadau sy’n ceisio uno’r Cymry yn y ddinas fawr hon. A minnau bron â gorffen fy mlwyddyn gyntaf yng Nghaerdydd, rwyf wedi llwyr fwynhau’r profiad o allu defnyddio fy Nghymraeg drwy’r dydd, bob dydd, ac edrychaf ymlaen at barhau i wneud hynny am flynyddoedd i ddod.
Cyhoeddwyd yr erthygl yma yn Gair Rhydd yn gyntaf. Rydym yn ail-gyhoeddi gyda chaniatâd.