Ewch i’r prif gynnwys

Ei Mawrhydi'r Frenhines i agor Canolfan Ymchwil Delweddu'r Ymennydd gwerth £44m

6 Mai 2016

The Queen

Bydd Ei Mawrhydi'r Frenhines yn agor Canolfan Ymchwil Delweddu'r Ymennydd newydd £44m Prifysgol Caerdydd (CUBRIC) ar 7 Mehefin 2016.

Bydd Ei Mawrhydi a'i Uchelder Brenhinol Dug Caeredin yn cael eu tywys o amgylch y Ganolfan fydd yn gartref i gyfuniad o offer delweddu'r ymennydd sy'n unigryw yn Ewrop.

Caiff y ddau ohonynt y cyfle i weld sganiwr ymennydd mwyaf pwerus Ewrop, system MRI Siemens 3 Tesla Connectom. Dim ond dau ohonynt sydd yn y byd i gyd, ac ym Mhrifysgol Harvard yn UDA y mae'r llall.

Bydd yn galluogi ymchwilwyr i astudio microstrwythur meinweoedd yn anhygoel o fanwl. Mae'r sganiwr mor bwerus fel ei fod wedi'i ddisgrifio fel telesgop gofod Hubble y niwrowyddorau.

Nod y gwyddonwyr yn y Ganolfan fydd cynnig cipolwg digynsail ar achosion cyflyrau niwrolegol a seiciatrig megis dementia, sgitsoffrenia a sglerosis ymledol, yn ogystal â deall sut mae ymennydd normal ac iach yn gweithio.

Adeilad newydd CUBRIC
Adeilad newydd CUBRIC ar Heol Maendy, Caerdydd

Dywedodd yr Athro Colin Riordan: “Mae'n anrhydedd i ni groesawu Ei Mawrhydi'r Frenhines a'i Uchelder Brenhinol Dug Caeredin i agor Canolfan Ymchwil Delweddu'r Ymennydd, Prifysgol Caerdydd.

“Bydd yn achlysur teilwng ar gyfer cyfleuster sy'n bwysig i'r Brifysgol yn ogystal ag i Gymru, y DU ac Ewrop.

“Gallai'r gwaith ymchwil a gaiff ei wneud yma agor drysau i gyfrinachau'r ymennydd a gwneud cyfraniad hollbwysig at driniaethau ar gyfer cyflyrau niwrolegol a seiciatrig.”

Dywedodd yr Athro Derek Jones, Cyfarwyddwr Canolfan Ymchwil Delweddu'r Ymennydd, Prifysgol Caerdydd: “Dyma benllanw gwaith caled llawer o bobl dros sawl blwyddyn, a hoffwn ddiolch i bawb sydd wedi cyfrannu at greu'r cyfleuster anhygoel hwn.

“Bydd cael cyfuniad o'r staff mwyaf blaenllaw yn y maes a rhai o sganwyr mwyaf pwerus y byd yn cynnig y posibilrwydd o dorri tir newydd a allai gwneud gwahaniaeth go iawn i fywydau pobl ledled y byd.

“Bydd yn ddiwrnod arbennig iawn i ni gyd, ac anrhydedd o'r mwyaf fydd ei rannu gydag Ei Mawrhydi'r Frenhines a'i Uchelder Brenhinol Dug Caeredin.”

Queen

Caiff y Frenhines a Dug Caeredin eu gwahodd i weld gweithdrefnau delweddu'r ymennydd a gwylio disgyblion o ysgol leol yn cymryd rhan mewn cyfres o weithgareddau i ddangos pŵer yr ymennydd.

Bydd cerflun sydd wedi'i gomisiynu'n arbennig yn cael ei ddadorchuddio hefyd. Crëwyd y cerflun gan Gemma Williams sy'n fyfyriwr PhD yn Ysgol Seicoleg y Brifysgol.

Mae'r cyfleuster newydd wedi'i ariannu'n rhannol gan Gyngor Ymchwil y Gwyddorau Ffisegol a Pheirianneg (EPSRC), Cronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop drwy Lywodraeth Cymru, y Cyngor Ymchwil Meddygol (MRC), Ymddiriedolaeth Wellcome, Llywodraeth Cymru a Sefydliad Wolfson.

Gyda'i gilydd, mae'r buddsoddiadau hyn yn cefnogi arloesedd mewn ymchwil o'r radd flaenaf i ddelweddu'r ymennydd, gan gynnwys creu swyddi ymchwil medrus iawn yng Nghymru.

Mae arianwyr wedi darparu dros £27m o'r gost.

Mae CUBRIC wedi'i chynllunio gan gwmni pensaernïaeth a thechnoleg byd-eang, IBI Group, a chwmni BAM sydd wedi'i hadeiladu.

Bydd bedair gwaith yn fwy na'r cyfleusterau ymchwil sydd gan y Brifysgol ar hyn o bryd ar gyfer delweddu'r ymennydd.

Mae rhai o arbenigwyr mwyaf blaenllaw'r byd ym meysydd mapio'r ymennydd, niwrowyddoniaeth, ymchwil glinigol a geneteg, yn gweithio yn y Brifysgol, ac mae'n cael ei chydnabod yn eang am ei rhagoriaeth ymchwil yn y maes hwn.

Bydd yr agoriad yn dynodi dechrau Haf Arloesedd y Brifysgol fydd yn dathlu gwaith arloesol y Brifysgol. Bydd yn dod â phobl o feysydd academaidd a diwydiant ynghyd i greu a chryfhau cysylltiadau a phartneriaethau.

CUBRIC 1