Ewch i’r prif gynnwys

Llwyddiant Dwbl wrth ennill dau grant ymchwil

29 Ebrill 2024

Datblygu dealltwriaeth o hanes Tsieina

Gwnaeth hanesydd o Brifysgol Caerdydd lwyddo i ennill dau grant ymchwil i ddatblygu ei gwaith ar ddadleoli a diplomyddiaeth, ag iddo ffocws ar Tsieina a’i chysylltiadau byd-eang.

Bydd Dr Helena F.S. Lopes yn mynd ati i gynnal ymchwil allweddol dros gyfnod o ddeufis mewn archifdai a llyfrgelloedd yn Taiwan yr haf hwn.

'Bydd y ddau  brosiect hyn yn ein helpu i ail-ystyried y cysylltiadau dwfn rhwng Tsieina ac Ewrop (a thu hwnt) yn yr ugeinfed ganrif. Yn ogystal, bydd y prosiectau’n ymchwilio i’r rôl y chwaraeodd unigolion sy’n dueddol o gael eu hanwybyddu, megis menywod a ffoaduriaid, wrth lunio'r cysylltiadau hynny', eglurodd Dr Lopes

Drwy gydol ei chyfnod yn Taipei, caiff y Darlithydd Hanes Asiaidd Modern fynediad at ffynonellau Tsieinëeg i ymchwilio i hanes ffoaduriaid yng nghilfach Macau, De Tsieina, yn ystod yr Ail Ryfel Byd a'r Rhyfel Oer, a hynny o bersbectif hanes cymharol a hanes cysylltiedig. Mae hyn oll yn bosibl oherwydd Grant Ymchwil i Ysgolheigion Tramor mewn Astudiaethau Tsieineaidd a ddyfarnwyd iddi gan y Ganolfan Astudiaethau Tsieineaidd.

Gan gyfrannu at ei hail lyfr a chyhoeddiadau eraill sydd ar y gweill, bydd y prosiect hwn yn ymdrin â’r elfennau cyffredin rhwng Macau a reolir gan Bortiwgal, Guangzhouwan a Hong Kong a reolir gan Ffrainc, yn ogystal ag ystyried amryw o endidau gwladol a gwladwriaethol yn Tsieina, yn rhyngwladol a’r rheiny sy’n anwladwriaethol.

Yn yr ail brosiect, bydd Dr Lopes yn ymchwilio i’r rôl y chwaraeodd menywod amlieithog mewn diplomyddiaeth ddiwylliannol Tsieina yn ystod yr Ail Ryfel Byd.

Gan ddefnyddio dull micro-hanes byd-eang i ystyried lle mae rhywedd ac ymfudo yn croestorri, bydd Chinese Women and Transnational Resistance: A Global Microhistory of Wartime Cultural Diplomacy hefyd yn adrodd hanes gyrfa fyd-eang awdur Tsieineaidd wedi’i hen anghofio a fu'n gweithio ym Mhrydain, Ffrainc a'r Unol Daleithiau.

Gan gyrraedd ei anterth yn 2025 drwy gynnal cynhadledd ryngwladol ym Mhrifysgol Caerdydd, mae'r prosiect dwy-flynedd hwn wedi’i wneud yn bosibl drwy Grant Ymchwil Bach a ddyfarnwyd gan yr Academi Brydeinig/Leverhulme.

A hithau’n hanesydd Tsieina fodern a hanes byd-eang, mae Dr Helena Lopes yn awdur y llyfr: Neutrality and Collaboration in South China: Macau during the Second World War.

Rhannu’r stori hon