Mae’r Ganolfan Ymchwil Seiberddiogelwch yn cael ei chydnabod fel ‘canolfan rhagoriaeth academaidd’ am y pum mlynedd nesaf.
26 Ebrill 2024
Prifysgol Caerdydd yw un o 21 prifysgol yn y DU a gydnabyddir gan y Ganolfan Seiberddiogelwch Genedlaethol.
Mae'r Ganolfan Ymchwil Seiberddiogelwch wedi ennill y statws o 'Ganolfan Ragoriaeth Academaidd mewn Ymchwil Seiberddiogelwch' (ACE-CSR) am y pum mlynedd nesaf gan y Ganolfan Seiberddiogelwch Genedlaethol (NCSC).
Dyma'r ail dro i'r ganolfan gael ei chydnabod gan y Ganolfan Seiberddiogelwch Genedlaethol, ar ôl dal statws o Ganolfan Ragoriaeth Academaidd mewn Ymchwil Seiberddiogelwch' (ACE-CSR) ers 2018. Dyma’r unig Ganolfan o’r fath yng Nghymru ar hyn o bryd.
Mae ein tîm rhyngddisgyblaethol yn cynnwys academyddion, ymchwilwyr ôl-ddoethurol a myfyrwyr ôl-raddedig o'r Ysgolion Cyfrifiadureg a Gwybodeg, Seicoleg, Gwyddorau Cymdeithasol a'r Gyfraith a Gwleidyddiaeth.
Dywedodd Cyfarwyddwr y Ganolfan Ymchwil Seiberddiogelwch, Dr George Theodorakopoulos: "Rydym yn falch iawn ein bod wedi cael ein cydnabod eto fel Canolfan Ragoriaeth Academaidd mewn Ymchwil Seiberddiogelwch, ac yr unig un yng Nghymru. Mae’r gydnabyddiaeth yma yn cadarnhau ein ffocws rhyngddisgyblaethol ar Ddadansoddeg Seiberddiogelwch - gan gyfuno deallusrwydd artiffisial gyda seiberddiogelwch.
‘’Ein hegwyddor sylfaenol yw bod seiberddiogelwch yn fater byd-eang, sy’n seiliedig ar bobl nad oes modd ei ddatrys trwy ddefnyddio technoleg yn unig. Rydyn ni’n ymdrechu wrth wneud gwaith ymchwil i ddeall, esbonio a modelu ymddygiadau a rhyngweithio sy’n digwydd yn y seiberofod, wrth ddatblygu a masnacheiddio arloesedd technolegol i ragweld a dosbarthu'r risgiau a’r bygythiadau i systemau a phobl.’’
Yr hyn oedd gan Gyfarwyddwr Hyb Arloesedd Seiber Cymru a Sefydliad Arloesi Trawsnewid Digidol Prifysgol Caerdydd, a chyn-gyfarwyddwr y Ganolfan Ymchwil Seiberddiogelwch, Yr Athro Pete Burnap, i ddweud oedd: "Rwy'n falch iawn o weld Prifysgol Caerdydd yn parhau i dderbyn cydnabyddiaeth y Ganolfan Ragoriaeth Academaidd mewn Ymchwil Seiberddiogelwch gan awdurdod mwyaf blaenllaw'r DU ar gyfer seiberddiogelwch. Mae'n dyst i'r rhagoriaeth barhaus y mae’r tîm yn dangos, sydd wedi tyfu’n sylweddol ers ein cydnabyddiaeth gyntaf yn 2018, nid yn unig y niferoedd cyffredinol, ond yr amrywiaeth o fewn y tîm.
"Mae Prifysgol Caerdydd hefyd bellach yn arwain Hyb Arloesedd Seiber Cymru sy'n anelu at adeiladu model unigryw i fasnacheiddio gwaith ymchwil academaidd, a thyfu’r nifer o gwmnïau cartref sy’n dod o hyd i atebion arloesol i ddatrys problemau seiber ledled y byd.