Ewch i’r prif gynnwys

Archwilio'r rhyngweithio rhwng ymddygiad dynol ac ymchwil gweithrediadau

23 Ebrill 2024

Dr Dnyaneshwar Mogale, Professor Konstantinos Katsikopoulos and Professor Aris Syntetos.smiling at camera.
Left to right: Dr Dnyaneshwar Mogale, Professor Konstantinos Katsikopoulos and Professor Aris Syntetos.

Yn ddiweddar, cyflwynodd yr Athro Konstantinos Katsikopoulos, ymchwilydd o safon ryngwladol ym maes gwyddorau ymddygiad, seminar yn Ysgol Busnes Caerdydd ar y rhyngweithio cymhleth rhwng ymddygiad dynol ac ymchwil gweithrediadau.

Mae Konstantinos Katsikopoulos yn Athro Gwyddorau Ymddygiad yn Adran Dadansoddeg Penderfyniadau Prifysgol Southampton. Mae hefyd yn cadeirio’r grŵp ymddygiad yn y Gymdeithas Ymchwil Weithrediadol ac mae’n Olygydd Cyswllt y Journal of Mathematical Psychology and of Judgment and Decision Making.

Ar ôl cael gwahoddiad gan yr Athro Aris Sytentos i siarad yn Ysgol Busnes Caerdydd, rhoddodd yr Athro Katsikopoulos seminar ar Cognitive Operations: Models that Open the Black Box and Predict our Decisions.

Mynychodd cydweithwyr o bob rhan o Ysgol Busnes Caerdydd y sesiwn ac roeddent wrth eu bodd o glywed ymchwil Konstantinos yn y maes hwn yn uniongyrchol. Cyd-gynhaliwyd yseminar gan Dr Dnyaneshwar Mogale a Dr Tommaso Reggiani.

“Cyflwynodd seminar yr Athro Konstantinos Katsikopoulos archwiliad hynod ddiddorol i'r cydadwaith cymhleth rhwng ymddygiad dynol ac ymchwil gweithrediadau."
Dr Dnyaneshwar Mogale Lecturer in Logistics and Operations Management

Ychwanegodd: “Gyda ffocws ar ragfynegi penderfyniadau dynol trwy brofi a chymharu optimeiddio a modelau hewristig yn drylwyr ar draws cyd-destunau amrywiol, cynigiodd y sesiwn fewnwelediadau gwerthfawr i gymhlethdodau gwneud penderfyniadau. Roedd yn ddigwyddiad addysgiadol, atyniadol a diddorol a dynnodd sylw at bwysigrwydd dulliau rhyngddisgyblaethol wrth ddatrys dirgelion ymddygiad dynol o fewn logisteg a rheoli gweithrediadau.”

“Mae’r seminar a gyflwynwyd gan yr Athro Katsikopoulos yn cyflwyno enghreifftiau o’r synergedd rhyfeddol y gellir ei gyflawni drwy ymchwil ryngddisgyblaethol yn Ysgol Busnes Caerdydd.”
Dr Tommaso Reggiani Senior Lecturer in Economics

Ychwanegodd: “Roedd ei gyflwyniad yn arddangos yn glir y posibiliadau di-ben-draw pan fydd datblygiadau ymddygiadol diweddar yn cael eu hymestyn i themâu logistaidd a rheoli traddodiadol. Rydym yn rhagweld y digwyddiad hwn fel dim ond dechrau cyfres yn y dyfodol a fydd yn meithrin cydweithrediad gwyddonol ymhlith ysgolheigion ag arbenigedd sydd wedi'i wreiddio mewn meysydd gwahanol ond hynod gyflenwol."

Rhagor o wybodaeth am Logisteg a Rheoli Gweithrediadau yn Ysgol Busnes Caerdydd.

Rhannu’r stori hon