Ewch i’r prif gynnwys

Recordiad Newydd yn Cyrraedd y Siartiau

22 Ebrill 2024

Image of

Mase Scenes from Childhood, cryno-ddisg newydd o gerddoriaeth piano wedi’i gyfansoddi gan Dr Pedro Faria Gomes, ac wedi’i berfformio gan yr Athro Kenneth Hamilton, wedi cyrraedd rif 17 yn Siartiau Clasurol Arbenigol y DU a Rhif 13 yn Siart Gerddoriaeth Presto ym mis Chwefror.

Mae’r albwm, ar label Prima Facie, yn cynnwys y recordiadau cyntaf o ddau waith arwyddocaol gan Dr Faria Gomes – Suite J a Sonatina – ac yn cynnwys nodiadau manwl ym mhecyn y cryno-ddisg gan Dr David Beard.

Mae detholiad o draciau o'r recordiad wedi'u darlledu ar y radio ym Mhortiwgal (RTP Antena 2).

Disgrifiodd beirniad o’r Unol Daleithiau James Manheim (AllMusic) y gerddoriaeth fel “dau o’r cyfansoddiadau mwyaf rhyfeddol i ddod allan o’r pandemig”, a’r albwm ei hun fel “darganfyddiad gwych, diguro”.

Rhannu’r stori hon